Title of Page: Safeguarding News

Image © Grant Hyatt Photography

Dyma leoliad y newyddion a barn gan y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol

Adroddiadau HMICFRS ar ecsbloetio plant yn rhywiol

Cyhoeddwyd gan: Y Bwrdd. Llu 5 Chw 2024

Mae Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi (HMICFRS) wedi cyhoeddi dau adroddiad ar gamfanteisio’n rhywiol ar blant: Arolygiad o ba mor dda y mae’r heddlu a’r Asiantaeth Troseddau Cenedlaethol yn mynd i’r afael â cham-drin a chamfanteisio’n rhywiol ar blant ar-lein a Arolygiad o effeithiolrwydd ymateb yr heddlu a chyrff gorfodi’r gyfraith – Read more..

Gweminar “Cryfhau ein Cydgyfrifoldeb am Ddiogelu”

Cyhoeddwyd gan: Y Bwrdd. Mer 25 Hyd 2023

Gweminar y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol yn rhan o Wythnos Genedlaethol Diogelu 2023. “Cryfhau ein Cydgyfrifoldeb am Ddiogelu”. Dydd Mercher 15fed o Dachwedd 2023 9.30am hyd 12.00 a 12.30pm hyd 3.00pm Trwy “Microsoft Teams” https://www.eventbrite.co.uk/e/strengthening-our-collective-safeguarding-responsibility-tickets-740654065247?aff=oddtdtcreator Rhannwch ymysg eich rhwydweithiau os gwelwch yn dda. Bydd hwn yn rhith-ddigwyddiad byw #DiogeluCymru

Adroddiad newydd: Farwolaethau sy’n gysylltiedig â dŵr ymhlith plant a phobl ifanc dan 25 oed, Cymru, 2013-2022

Cyhoeddwyd gan: Y Bwrdd. Iau 10 Awst 2023

Mae adroddiad gan y Rhaglen Adolygu Marwolaethau Plant, Diogelwch Dŵr Cymru a’r Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau (ROSPA) ar Farwolaethau sy’n gysylltiedig â dŵr ymhlith plant a phobl ifanc dan 25 oed, Cymru, 2013-2022 bellach yn fyw. Nod yr adroddiad hwn yw helpu i lywio gwaith gweithwyr proffesiynol diogelwch dŵr yng Nghymru i atal marwolaethau plant a phobl – Read more..

Stopio Cosbi Corfforol

Cyhoeddwyd gan: Y Bwrdd. Mer 23 Chw 2022

O 21 Mawrth 2022, bydd cosbi plant yn gorfforol yn anghyfreithlon yng Nghymru. Mae’r ymgyrch Stopio Cosbi Corfforol yn codi ymwybyddiaeth am y newid pwysig hwn yn y gyfraith, ac wedi dechrau ar gyfnod mwyaf dwys a phwysicaf yr ymgyrch hyd yma.  

Gwyliwch ar-lein: “Yr Hawl i fod yn Ddiogel – atal ac ymateb i gam-drin plant yn rhywiol a chamfanteisio rhywiol ar blant yng Nghymru”

Cyhoeddwyd gan: Y Bwrdd. Maw 30 Tach 2021

Yn rhan o’r Wythnos Genedlaethol Diogelu, cynhaliodd Llywodraeth Cymru ddigwyddiad ar-lein – “Yr Hawl i fod yn Ddiogel – atal ac ymateb i gam-drin plant yn rhywiol a chamfanteisio rhywiol ar blant yng Nghymru”. Dilynwch y ddolen gyswllt i weld y cyflwyniad a’r panel holi ac ateb a gadeiriwyd gan Tessa Hodgson sy’n aelod o’r – Read more..

Modiwl hyfforddi diogelu newydd ar gyfer y sector cyhoeddus a’r trydydd sector yng Nghymru

Cyhoeddwyd gan: Y Bwrdd. Maw 16 Tach 2021

Mae modiwl hyfforddi diogelu cyson wedi’i lansio ar gyfer staff y sector cyhoeddus a’r sector gwirfoddol ledled Cymru. Modiwl Diogelu Grwp A Bydd cwblhau’r modiwl hyfforddi newydd yn galluogi pawb i: esbonio’r term ‘diogelu’ adnabod camdriniaeth neu’r risg o gamdriniaeth, niwed neu esgeulustod gwybod pa gamau i’w cymryd os ydynt yn amau – neu’n dyst – Read more..

Adolygiad newydd yn Lloegr yn ymchwilio i achosion lle cafodd babanod eu niweidio gan eu tadau a’u llystadau

Cyhoeddwyd gan: Y Bwrdd. Iau 7 Hyd 2021

Mae adroddiad newydd, sy’n ymchwilio i achosion yn Lloegr lle gwnaeth 23 o fabanod farw neu ddioddef niwed difrifol, yn galw ar fydwragedd, ymwelwyr iechyd a gweithwyr cymdeithasol i roi mwy o gymorth i dadau. Mae’r Panel Adolygiadau Ymarfer Diogelu Plant yn Lloegr, sy’n banel annibynnol, yn adolygu achosion difrifol ym maes diogelu plant – – Read more..

Ymchwil newydd: Profiadau Rhai sy’n Sefyll Gerllaw o Drais a Cham-drin Domestig ynystod y Pandemig COVID-19

Cyhoeddwyd gan: Y Bwrdd. Maw 5 Hyd 2021

Mae’r Uned Atal Trais wedi cyhoeddi ei hymchwil ddiweddaraf ynghylch Profiadau Rhai sy’n Sefyll Gerllaw o Drais a Cham-drin Domestig yn ystod y Pandemig COVID-19. Roedd yr astudiaeth hon, a gyflawnwyd ar y cyd â Phrifysgol Caerwysg, ac a ariannwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn cynnwys arolwg a chyfweliadau ag aelodau’r cyhoedd er mwyn cael – Read more..

Uned Atal Trais – Beth sy’n Gweithio i Atal Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV)

Cyhoeddwyd gan: Y Bwrdd. Maw 5 Hyd 2021

Mae’r Uned Atal Trais wedi cyhoeddi ei hymchwil ddiweddaraf ynghylch Beth sy’n Gweithio i Atal Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol? Mae’r asesiad systematig hwn o dystiolaeth, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, yn nodi ymyriadau sylfaenol ac eilaidd effeithiol i atal trais o’r fath, er mwyn llywio’r broses o fabwysiadu polisïau ac arferion – Read more..

“Talk to me – hear my voice” – canllaw i ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaeth

Cyhoeddwyd gan: Y Bwrdd. Maw 5 Hyd 2021

Canllaw gan Fwrdd Diogelu Leeds i ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaeth, gyda chanllawiau ynghylch ymarfer a arweinir gan ddinasyddion, sy’n cynnwys cynghorion i ymarferwyr “Talk to me – hear my voice” Darllenwch y canllaw yma

Gwefan newydd yn helpu pobl hŷn sy’n cael eu cam-drin i ddod o hyd i’r wybodaeth, y cyngor a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt

Cyhoeddwyd gan: Y Bwrdd. Maw 8 Meh 2021

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi lansio gwefan newydd i helpu pobl hŷn sy’n cael eu cam-drin, neu’r rheini sydd mewn perygl o gael eu cam-drin, i ddod o hyd i’r wybodaeth, y cyngor a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt. Gan ddefnyddio’r wefan newydd gall pobl hŷn, yn ogystal â’u ffrindiau a’u teuluoedd, chwilio yn rhwydd – Read more..

Mynnwch Help Cadwch yn Ddiogel: Gwybodaeth a chymorth i pobl hŷn sy’n cael eu cam-drin

Cyhoeddwyd gan: Y Bwrdd. Mer 5 Mai 2021

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi bod yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid fel rhan o’r Grŵp Gweithredu ar Atal Cam-drin a sefydlwyd gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru. Mae rhagor o wybodaeth am y gwaith hwn ar gael yma. Fel rhan o’n gwaith, rydym wedi datblygu taflen wybodaeth newydd i ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth – Read more..

Darllenwch lythyr newyddion Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Cyhoeddwyd gan: Y Bwrdd. Iau 25 Maw 2021

  Croeso i gylchlythyr rhanddeiliaid Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru. Bwriad hwn yw rhoi cipolwg i chi ar waith diweddaraf y Comisiynydd a’i thîm, yn ogystal â datblygiadau allweddol mewn polisi ac ymarfer sy’n ymwneud â heneiddio a phobl hŷn. Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am unrhyw un o’r eitemau neu os oes gennych – Read more..

Byddwch yn ddiogel dros y Nadolig: cyngor gan Get Safe Online

Cyhoeddwyd gan: Y Brwdd. Llu 14 Rhag 2020

Rydym wedi casglu awgrymiadau arbenigol i’ch helpu i fwynhau’r Nadolig hwn ar-lein yn ddiogel ac yn hyderus. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn www.getsafeonline.org/safechristmas    

Making connections: a multi-disciplinary analysis of domestic homicide, mental health homicide and adult practice reviews

Cyhoeddwyd gan: Y Bwrdd. Mer 25 Tach 2020

Llongyfarchiadau i Amanda Robinson a’i chydweithwyr ym Mhrifysgol Caerdydd ar ennill gwobr am bapur rhagorol yn ddiweddar, sef papur ar gyfer ‘The Journal of Adult Protection’ a oedd yn dwyn y teitl ‘Making connections: a multi-disciplinary analysis of domestic homicide, mental health homicide and adult practice reviews’.   https://www.emerald.com/insight/content/doi/10.1108/JAP-07-2018-0015/full/html  

Uchafbwyntiau’r Wythnos Ddiogelu

Cyhoeddwyd gan: Y Bwrdd. Mer 25 Tach 2020

Dyma eich cyfle i glywed Jane Randall, Cadeirydd Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol Cymru, yn siarad â Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru a Chomisiynydd Plant Cymru am brofiadau’r grwpiau y maent yn eu cynrychioli ac am y modd y mae’r pandemig a’r cyfnodau clo cenedlaethol wedi effeithio arnynt.   Os ydych yn cael trafferth gwylio’r fideo ar – Read more..

Don’t Let Me Fall Through the Cracks: adroddiad ynghylch digartrefedd ymhlith pobl ifanc yng Nghymru sydd wedi bod mewn gofal

Cyhoeddwyd gan: Y Bwrdd. Mer 4 Tach 2020

Mae End Youth Homelessness Cymru wedi cyhoeddi adroddiad ynghylch digartrefedd ymhlith pobl ifanc yng Nghymru sydd wedi bod mewn gofal. Gallwch ddarllen yr adroddiad yma:  

Sut mae osgoi twyll wrth wneud eich siopa Nadolig ar-lein: cyngor gan Get Safe Online

Cyhoeddwyd gan: Y Bwrdd. Mer 4 Tach 2020

Adeg brysuraf y flwyddyn o safbwynt siopa ar-lein yw’r adeg brysuraf hefyd i droseddwyr ar-lein. Darllenwch ein cyngor arbenigol, hawdd ei ddilyn. www.getsafeonline.org/safechristmas  

Responding to child sexual abuse

Cyhoeddwyd gan: Y Bwrdd. Gwe 2 Hyd 2020

Mae’r adroddiad Responding to child sexual abuse: learning from children’s services in Wales ar gael yn nawr ar wefan y Ganolfan Arbenigedd ar Gam-drin Plant yn Rhywiol. Mae’r Ganolfan hefyd wedi cyhoeddi papur briffio sy’n egluro ei hargymhellion i wasanaethau a llunwyr polisi lleol a chenedlaethol yng ngoleuni canfyddiadau’r adroddiad.

Gadael Neb ar Ôl: Camau Gweithredu ar gyfer adferiad o blaid pobl hŷn

Cyhoeddwyd gan: Y Bwrdd. Mer 19 Awst 2020

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi cyhoeddi adroddiad newydd, Gadael Neb ar Ôl: Camau Gweithredu ar gyfer adferiad o blaid pobl hŷn Mae’r adroddiad yn edrych ar yr effaith sylweddol mae Covid-19 wedi’i chael ar bobl hŷn ledled Cymru, ac yn cynnwys camau gweithredu mewn nifer o feysydd allweddol – gan gynnwys gofal cymdeithasol ac – Read more..

Adnoddau Stop It Now! Wales ynghylch atal plant rhag cael eu cam-drin yn rhywiol

Cyhoeddwyd gan: Y Bwrdd. Iau 30 Gor 2020

Mae Stop It Now! Wales yn rhedeg sawl prosiect ynghylch atal plant rhag cael eu cam-drin yn rhywiol. Gallwch ddarllen mwy am waith y tîm yma:         

Cadw’n ddiogel ar lein – crynodeb hanner tymor

Cyhoeddwyd gan: Y Bwrdd. Maw 21 Gor 2020

Crynodeb o newyddion am ddiogelwch ar lein, adnoddau, digwyddiadau a chystadlaethau ar gyfer dysgwyr, eu rhieni/gofalwyr, ymarferwyr addysg a llywodraethwyr: https://hwb.gov.wales/parthau/diogelwch-ar-lein/news/articles/8797a6c6-4ecd-454d-a1ce-9d090d3282c3  

Adroddiad Comisiynydd Plant Cymru: Coronafeirws a Fi

Cyhoeddwyd gan: Y Bwrdd. Maw 7 Gor 2020

Ar 13 Mai 2020 lansiwyd yr ymgynghoriad ‘Coronafeirws a Fi’ ddysgu am brofiadau plant a phobl ifanc yng Ngymru. Rhannodd dros 23,700 o blant a phobl ifanc eu barn. Mae adroddiad cychwynnol han yn cynnwys trosolwg o brif ganlyniadau’r ymgynghoriad.  

Diogelu plant a phobl ifanc gyda’n gilydd wrth ailgodi ar ôl COVID-19

Cyhoeddwyd gan: Y Bwrdd. Maw 7 Gor 2020

Mae Llywodraeth Cymru wedi llunio’r canllawiau anstatudol hyn i atgoffa ymarferwyr sy’n gweithio ar draws asiantaethau o’u cyfrifoldebau i ddiogelu plant, ac i’w cefnogi i ymateb i bryderon ynghylch plant sy’n wynebu risg.    

Gall rhai camau syml helpu pobl hŷn i amddiffyn eu hunain rhag troseddau a sgamiau ar-lein

Cyhoeddwyd gan: Y Bwrdd. Llu 6 Gor 2020

Gyda mwy o bobl hŷn yn defnyddio cyfrifiaduron, tabledi a ffonau clyfar o ganlyniad i’r pandemig Covid-19, mae’n hollbwysig bod pobl hŷn yn cymryd rhai camau syml er mwyn iddyn nhw allu aros yn ddiogel ar-lein. Dyna neges grŵp gweithredu o sefydliadau sy’n cydweithio i ddiogelu ac amddiffyn pobl hŷn yng Nghymru. Mae llawer o – Read more..

Gwersi’r cyfyngiadau symud: Cefnogi plant a phobl ifanc agored i niwed wrth iddynt ddychwelyd i’r ysgol ac i addysg

Cyhoeddwyd gan: Y Bwrdd. Gwe 26 Meh 2020

Dyma amlinelliad o’r hyn y mae Gweithredu dros Blant Cymru a Barnardo’s Cymru wedi’i ddysgu oddi wrth ein gwasanaethau am effaith Covid-19 ar blant a phobl ifanc agored i niwed, a’u teuluoedd. https://www.barnardos.org.uk/barnardos-cymru https://www.actionforchildren.org.uk/what-we-do/our-work-in-wales/ein-gwaith-yng-nghymru-our-work-in-wales/

Adolygiadau Ymarfer Plant yng Nghymru – gweithdy ar-lein

Cyhoeddwyd gan: Y Bwrdd. Iau 25 Meh 2020

Mae’n bleser gan ExChange Wales ddod â’r gweithdy ar-lein hwn atoch am Adolygiadau Ymarfer Plant yng Nghymru, ar ôl i’n gweithdai yng Nghaerdydd a Bae Colwyn gael eu canslo’n gynharach eleni (oherwydd y pandemig). https://cascaderesearch.wixsite.com/exchange-cymraeg/single-post/2020/06/04/Adolygiadau-Ymarfer-Plant-yng-Nghymru—gweithdy-ar-lein  

Effaith y pandemig coronafirws as les plant: camdrin domestig

Cyhoeddwyd gan: Y Bwrdd. Iau 18 Meh 2020

Mae’r briff hwn yn defnyddio mewnwelediad gan gysylltiadau llinell gymorth NSPCC a sesiynau cwnsela Childline I dynnu sylw at effaith cam-drin domestig ar blant a phobl Ifanc yn ystod y pamdemig coronafirws.  

Amddiffyn a Diogelu Pobl Hŷn: Pecyn Gwybodaeth Covid-19

Cyhoeddwyd gan: Y Bwrdd. Gwe 5 Meh 2020

Rydym yn gweithio gydag amrywiol sefydliadau i sicrhau bod pobl hŷn yn cael eu gwarchod a’u diogelu yn ystod y pandemig Covid-19. Llwythwch ein pecyn gwybodaeth newydd i lawr a chael gwybod mwy am yr hyn y mae angen i chi chwilio amdano a ble i fynd am help a chefnogaeth.  #CaelHelpCadw’nDdiogel   #NidYdychArEichPenEichHun    Lawrlwytho – Read more..

Mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae yn diogelu pobl hŷn rhag cael eu cam-drin

Cyhoeddwyd gan: Y Bwrdd. Maw 12 Mai 2020

Mae grŵp gweithredu1 yn gweithio i atal cam-drin pobl hŷn yn annog y cyhoedd i roi gwybod am unrhyw bryderon sydd ganddynt y gallai person hŷn fod mewn perygl neu eu bod yn cael eu cam-drin. O dan y mesurau cyfyngiadau symud presennol, mae llawer o’r cyfleoedd arferol i nodi camdriniaeth – drwy gyswllt gyda – Read more..

Mae NSPCC yn cynnig cefnogaeth yn ystod pandemig COVID 19

Cyhoeddwyd gan: Y Bwrdd. Iau 30 Ebr 2020

Eich helpu chi i gefnogi plant yn ystod pandemig COVID-19:  

Canllawiau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn ddiweddar ar gyfer y sawl sy’n gweithio mewn gwasanaethau i oedolion

Cyhoeddwyd gan: Y Bwrdd. Mer 29 Ebr 2020

Gweler y canllawiau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn ddiweddar ar gyfer y sawl sy’n gweithio mewn gwasanaethau i oedolion, ynghyd â phwyntiau cyswllt: Safeguarding Adults – resources Safeguarding – practitioner handout

Datganiad gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Cyhoeddwyd gan: Y Bwrdd. Iau 23 Ebr 2020

Dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Rydyn ni yma i chi a gallwn eich helpu a’ch cefnogi

Gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru i dderbyn cerdyn i brofi eu bod yn weithwyr allweddol

Cyhoeddwyd gan: Y Bwrdd. Maw 14 Ebr 2020

Mae cerdyn yn cael ei anfon at bob gweithiwr gofal cymdeithasol yng Nghymru i’w helpu o bosibl i gael y buddion sydd ar gael i weithwyr allweddol yn ystod y pandemig coronafeirws (COVID-19). https://gofalcymdeithasol.cymru/gwella-gwasanaethau/gwybodaeth-ac-adnoddau-ich-tywys-trwy-covid-19

Canllawiau ynghylch Plant a Phobl Ifanc Agored i Niwed a’r Coronafeirws

Cyhoeddwyd gan: Y Bwrdd. Iau 9 Ebr 2020

Mae Llywodraeth Cymru wedi llunio arweiniad sy’n nodi gwybodaeth am blant agored i niwed a diogelu yn ystod y pandemig coronafeirws. Gellir gweld y canllawiau yma: https://llyw.cymru/plant-agored-i-niwed-diogelu-y-coronafeirws

Blog defnyddiol sy’n crynhoi data newydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gam-drin plant yn rhywiol

Cyhoeddwyd gan: Y Bwrdd. Llu 27 Ion 2020

O’r diwedd, dyma rywfaint o ddata dibynadwy ynghylch cyffredinolrwydd achosion o gam-drin plant yn rhywiol. Dyma flog defnyddiol sy’n crynhoi data newydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol. https://www.csacentre.org.uk/resources/blog/

Wythnos Diogelu Cenedlaethol 11 – 15 Tachwedd 2019 Rhaglen Ddigwyddiadau

Cyhoeddwyd gan: Y Bwrdd. Mer 9 Hyd 2019

Byrddau Diogelu Rhanbarthol Caerdydd a Bro Morgannwg     Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru

Penodi cadeirydd ac aelodau i’r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol

Cyhoeddwyd gan: Y Bwrdd. Iau 9 Mai 2019

Datganiad ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru   Penodi cadeirydd ac aelodau i’r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol gan Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol   Nododd Rhan 7 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 fframwaith cyfreithiol newydd i gryfhau trefniadau diogelu fel y gellir amddiffyn pobl sydd mewn perygl yn fwy effeithiol. Mae’n – Read more..

Canllaw Ymarferol i Orchmynion Diogelu Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod a Gorchmynion Diogelu Priodasau dan Orfod

Cyhoeddwyd gan: Y Bwrdd. Maw 5 Chw 2019

Dyddiad:      Dydd Mercher 6 Mawrth 2019 Amser:         0900 – 1530 Cyfeiriad:     Neuadd y Ddinas, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3ND Mae Gorchmynion Priodasau dan Orfod ac Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod yn waharddebau sifil sy’n cynnig dull cyfreithiol o amddiffyn a diogelu dioddefwyr a dioddefwyr posibl yr arferion niweidiol hyn. Mae’r broses o gael gorchymyn yn – Read more..

Darllenwch Ganllaw i Ymarferwyr, ac Adroddiad Blynyddol y Bwrdd 2017-18

Cyhoeddwyd gan: Y Bwrdd. Llu 10 Rhag 2018

Mae’r Bwrdd Cenedlaethol yn cyhoeddi dwy ddogfen heddiw. Y ddogfen gyntaf yw “Canllaw i Ymarferwyr: Egwyddorion Cyfreithiol Sylfaenol” gan Ruth Henke CF, Laura Shepherd ac Abla O’Callaghan. Mae’n ganllaw gwerthfawr i’r gyfraith sy’n berthnasol yng Nghymru, ac yn benodol mae’n ganllaw i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a’r modd y mae’n cysylltu â – Read more..

Argymhellion Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol

Cyhoeddwyd gan: Y Bwrdd. Llu 10 Rhag 2018

Yn dilyn Adroddiad Interim yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol, a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2018, mae Llywodraeth Cymru wedi ysgrifennu at yr Athro Alexis Jay i hysbysu’r Ymchwiliad yn swyddogol bod yr argymhellion wedi’u derbyn yn llawn. Parhewch i ddarllen er mwyn cael gwybod mwy…   Cafodd yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin – Read more..

Working with Exploitation – Safeguarding Week 2018

Cyhoeddwyd gan: Y Bwrdd. Llu 3 Rhag 2018

On 12 November 2018, as part of National Safeguarding Week, 600 frontline staff in Western Bay came together to share ideas on working with Exploitation – be that County Lines, Coercive Control , Modern Slavery, Radicalisation or Scamming vulnerable people. Organised by the Western Bay Safeguarding Board and chaired by Jan Pickles from NISB the – Read more..

And the Winner is…

Cyhoeddwyd gan: Y Bwrdd. Llu 3 Rhag 2018

In June we asked you to nominate a registered nurse or midwife practicing in Wales for the Safeguarding Award category at the RCN Nurse of the Year Awards 2018. This award recognises a Registered Nurse or Registered Midwife who has made an outstanding contribution to the safeguarding of children and/or adults at risk under the – Read more..

Cynhadledd Flynyddol Plant yng Nghymru 2018

Cyhoeddwyd gan: The Board. Gwe 21 Medi 2018

Cynhadledd Flynyddol Plant yng Nghymru 2018 #CIW2018WholeChild   3 Hydref 2018, 10yb – 4yp Gwesty Mercure Holland House, Caerdydd   Cynhadledd Bord Gron Flynyddol Plant yng Nghymru Y Plentyn Cyfan: Pwysigrwydd gwneud pethau’n iawn   Mae plant yn gallu dioddef ansicrwydd, adfyd, tlodi a thrawma. Mae’r gallu i ymaddasu’n dda, ymdopi’n well a ffynnu er gwaetha’r – Read more..

Nyrs y Flwyddyn 2018 y Coleg Nyrsio Brenhinol yng Nghymru 

Cyhoeddwyd gan: Rachel Shaw. Maw 5 Meh 2018

Ydych chi’n adnabod rhywun gallai gael ei enwebu ar gyfer y Categori Diogelu yn Nyrs y Flwyddyn 2018 y Coleg Nyrsio Brenhinol yng Nghymru?  Os felly rhannwch eu stori a rhowch iddynt y gydnabyddiaeth y maent yn eu haeddu – enwebwch hwy yng nghategori Diogelu Nyrs y flwyddyn yng ngwobrau’r RCN yng Nghymru eleni a – Read more..

Dysgu oddi wrth Wlad yr Haf

Cyhoeddwyd gan: adam. Mer 9 Mai 2018

Yn ystod mis Mawrth 2018, cynhaliodd Bwrdd Diogelu Oedolion Gwlad yr Haf gynhadledd lle cafodd Adolygiad Diogelu Oedolion ei ystyried. Roedd yr adolygiad yn ymwneud â Mendip House, sef un o gartrefi’r Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth oddi mewn i wasanaeth campws.[1] Ymddiheurodd y Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth am y modd yr oedd preswylwyr Mendip House wedi cael eu – Read more..

Prosiect Gwirionedd yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol

Cyhoeddwyd gan: Keith Towler. Gwe 4 Mai 2018

Mae’r Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol yn cynnal ymgyrch codi ymwybyddiaeth ynghylch ei Brosiect Gwirionedd. Mae’n ymgyrch cenedlaethol i Gymru a Lloegr, ac mae’n bosibl y byddwch eisoes wedi gweld byrddau poster a hysbysebion Prosiect Gwirionedd yn y wasg, mewn cylchgronau, ar gyfryngau cymdeithasol ac ar y radio. Mae’r Prosiect Gwirionedd wedi’i sefydlu er – Read more..

Regional Table Talks on the proposal to remove the defence of reasonable punishment in Wales

Cyhoeddwyd gan: Y Bwrdd. Gwe 9 Maw 2018

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i roi terfyn ar gosbi plant yn gorfforol drwy dileu amddiffyniad cosb resymol yng Nghymru. I gael eich adborth ar ddatblygiad y cynnig deddfwriaethol, hoffai Llywodraeth Cymru wahodd cynrychiolwyr o’ch sefydliad chi i Weithdy Rhanbarthol ‘Trafodaethau Bwrdd’. Mae’r dyddiad cau cofrestru wedi’i ymestyn i ddydd Llun 12 Mawrth. Am ragor o – Read more..

Dathlu diogelu yng Nghymru 

Cyhoeddwyd gan: Simon Burch. Gwe 29 Medi 2017

Anaml y gwelwch chi’r gair ‘dathlu’ a’r gair ‘diogelu’ gyda’i gilydd yn yr un frawddeg. Wrth i unigolion a sefydliadau ganolbwyntio ar amddiffyn pobl sy’n profi camdriniaeth, ac wrth i’r cyfryngau roi sylw i fethiannau ar hyn o bryd ac yn y gorffennol, mae’n hawdd anghofio bod “diogelu” yn air cadarnhaol. Bob dydd mae bywydau – Read more..

Diogelu, codi llais a hybu gwytnwch

Cyhoeddwyd gan: Keith Towler. Maw 5 Medi 2017

Sawl un ohonom sydd wedi bod i gyfarfodydd gan adael heb ein hysbrydoli ac yn meddwl tybed a oedd unrhyw ddiben i’r awr neu ddwy ddiwethaf? Y rhan fwyaf ohonom, dybiwn i. Roedd heddiw’n wahanol. Roedd heddiw’n bleser pur gan i mi ddod allan o gyfarfod yn teimlo’n gadarnhaol wedi dysgu tipyn ac yn meddwl tybed beth mwy y gallwn i ei wneud i gefnogi criw o bobl mor arbennig.

Darllenwch ein cerdd a gomisiynwyd yn arbennig gan Gillian Clarke!

Cyhoeddwyd gan: Margaret Flynn. Maw 20 Meh 2017

Click here to read a poem from National Poet of Wales 2008-2016, Gillian Clarke. ‘The Silence’ was specially commissioned for the National Independent Safeguarding Board.