Argymhellion Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol

Page Icon

Yn dilyn Adroddiad Interim yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol, a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2018, mae Llywodraeth Cymru wedi ysgrifennu at yr Athro Alexis Jay i hysbysu’r Ymchwiliad yn swyddogol bod yr argymhellion wedi’u derbyn yn llawn. Parhewch i ddarllen er mwyn cael gwybod mwy…

 

Cafodd yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol ei sefydlu ar 12 Mawrth 2015 i ‘ystyried i ba raddau mae’r Wladwriaeth a sefydliadau nad ydynt yn rhan o’r Wladwriaeth wedi methu yn eu dyletswydd gofal i amddiffyn plant rhag cam-drin a cham-fanteisio rhywiol; i ystyried i ba raddau mae’r methiannau hynny wedi cael eu hateb; i nodi gweithredu pellach sydd ei angen i ateb unrhyw fethiannau a nodwyd i ystyried y camau sy’n angenrheidiol i sefydliadau Gwladwriaeth ac nad ydynt yn ymwneud â Gwladwriaeth i’w cymryd er mwyn amddiffyn plant rhag y fath gamdriniaeth yn y dyfodol; ac i gyhoeddi adroddiad gydag argymhellion’.

Cadeirydd yr Ymchwiliad yw’r Athro Alexis Jay OBE ac mae tri aelod ar y Panel: Yr Athro Syr Malcolm Evans KCMG OBE, Ivor Frank a Drusilla Sharpling CBE.

Cyhoeddoddyr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol (IICSA) ei Adroddiad Interim ym mis Ebrill 2018. Adroddiad Interim IICSA  Roedd yr Adroddiad Interim yn cynnwyd dau argymhelliad ar gyfer Llywodraeth Cymru:

Mae’r Cadeirydd a’r Panel yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn datblygu polisi cenedlaethol ar gyfer hyfforddi a defnyddio gwarchodwyr wrth drin plant mewn gwasanaethau gofal iechyd.

Mae’r Cadeirydd a’r Panel yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru a’r adrannau perthnasol yn Llywodraeth y DU gydweithio er mwyn canfod lefelau cyfredol o wariant cyhoeddus, ac effeithiolrwydd y gwariant hwnnw o ran gwasanaethau i ddioddefwyr sy’n blant a goroeswyr sy’n oedolion o gamdriniaeth rywiol yn blant yng Nghymru.Mae’r Cadeirydd a’r Panel yn argymell bod Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn ystyried cydymffurfiaeth â pholisïau gwarchodwr cenedlaethol (unwaith y’u gweithredir) yn ei asesiadau o wasanaethau.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ysgrifennu at yr Athro Alexis Jay i hysbysu’r Ymchwiliad yn ffurfiol bod yr argymhellion hyn wedi’u derbyn yn llwyr.