Modiwl hyfforddi diogelu newydd ar gyfer y sector cyhoeddus a’r trydydd sector yng Nghymru

Page Icon

Mae modiwl hyfforddi diogelu cyson wedi’i lansio ar gyfer staff y sector cyhoeddus a’r sector gwirfoddol ledled Cymru.

Modiwl Diogelu Grwp A

Bydd cwblhau’r modiwl hyfforddi newydd yn galluogi pawb i:

  • esbonio’r term ‘diogelu’
  • adnabod camdriniaeth neu’r risg o gamdriniaeth, niwed neu esgeulustod
  • gwybod pa gamau i’w cymryd os ydynt yn amau – neu’n dyst i – gamdriniaeth, niwed neu esgeulustod, neu os bydd rhywun yn dweud wrthynt ei fod yn cael ei gam-drin
  • dangos dealltwriaeth sylfaenol o’r cyfreithiau sy’n ymwneud â diogelu
  • cydnabod bod dyletswydd arnynt i roi gwybod am gamdriniaeth, niwed neu esgeulustod.

Mae’r modiwl hwn yn cynnwys 13 o adrannau a chwestiynau senario i helpu defnyddwyr i feithrin dealltwriaeth ymarferol o ddiogelu a pha gamau i’w cymryd os ydynt yn credu y gallai rhywun fod mewn perygl.

Datblygwyd y modiwl hyfforddi gan Gofal Cymdeithasol Cymru yn unol â Gweithdrefnau Diogelu Cymru, a lansiwyd yn 2019. Mae’r gweithdrefnau’n manylu ar rolau a chyfrifoldebau hanfodol ymarferwyr i sicrhau eu bod yn diogelu plant ac oedolion sydd mewn perygl o gael eu cam-drin a’u hesgeuluso.

Crëwyd y gweithdrefnau i safoni ymarfer ledled Cymru ac mae’r modiwl hyfforddi wedi’i ddatblygu gyda’r un bwriad. Mae’r modiwl ar gyfer hyfforddiant Grŵp A.

Mae hyfforddiant diogelu yn orfodol i’r holl staff sy’n gweithio yn y sector cyhoeddus yng Nghymru ac i lawer o staff sy’n gweithio yn y sector gwirfoddol a’r trydydd sector. Er mwyn sicrhau bod yr e-fodiwl yn berthnasol i’r holl staff, fe’i datblygwyd mewn cydweithrediad agos â sefydliadau statudol a gwirfoddol.

Mae’r modiwl yn gwbl hygyrch. Mae’n gydnaws â darllenwyr sgrin ar gyfer y rheiny sydd â nam ar eu golwg, mae’n defnyddio Text Help Read & Write i helpu defnyddwyr â dyslecsia i ganolbwyntio ar ddarnau allweddol o wybodaeth, a gall defnyddwyr sydd â phroblemau symudedd ei lywio drwy ddefnyddio’r allweddi tab.

 

Geirdaon

“Mae’r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol yn hapus iawn i gymeradwyo modiwl hyfforddi Gweithdrefnau Diogelu Cymru’n gynnyrch o ansawdd uchel. Mae’r hyfforddiant yn taro’r nodyn cywir ac roeddem yn hoff iawn o’r senarios. Mae cydbwysedd priodol rhwng y gwahanol grwpiau yn y boblogaeth – oedolion a phlant, ymhlith dimensiynau amrywiol eraill. Da iawn.” – Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol

“Fe wnes i fwynhau’r cwrs yn fawr ac roedd yn ddiddorol ac mor rhyngweithiol â phosib gyda phwnc o’r fath.” – Swyddog hyfforddi a datblygu awdurdod lleol

“Mae hwn yn adnodd gwych.” – Arweinydd diogelu’r gwasanaeth tân

“Yn gyffredinol, roeddwn i wir yn hoffi llif a chyflymder y cynnwys ar gyfer y lefel hon, ac roeddwn i wir yn hoffi’r senarios a’r hyn maen nhw’n ei ychwanegu o ran galluogi pobl i feddwl am y broses. Mae’r negeseuon allweddol yn syml ac yn cael eu cyflwyno’n dda. Mae’r gwaith graffeg yn dda ac ati. Felly, ar y cyfan, rwy’n hoffi’r modiwl ar gyfer y gynulleidfa darged benodol hon.” – Arweinydd bwrdd diogelu rhanbarthol

“Rwy’n hoffi’r fformat a’r iaith, mae’n glir ac yn hawdd ei ddilyn. Da iawn ar y cyfan gyda senarios bywyd go iawn da” – Arweinydd bwrdd diogelu rhanbarthol