Darllenwch lythyr newyddion Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Page Icon

 

Croeso i gylchlythyr rhanddeiliaid Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru.

Bwriad hwn yw rhoi cipolwg i chi ar waith diweddaraf y Comisiynydd a’i thîm, yn ogystal â datblygiadau allweddol mewn polisi ac ymarfer sy’n ymwneud â heneiddio a phobl hŷn.

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am unrhyw un o’r eitemau neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â post@olderpeoplewales.com

 

Ymgyrch y Comisiynydd i annog pobl i hawlio Credyd Pensiwn

Mae’r Comisiynydd wedi rhyddhau data sy’n dangos cynnydd yn nifer y bobl oedd yn hawlio Credyd Pensiwn ar ôl iddi gynnal ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o’r hawl ariannol bwysig hon yn Hydref 2019.

Gweithiodd y Comisiynydd gyda Trafnidiaeth Cymru i gynnwys taflen wybodaeth am Gredyd Pensiwn gyda’r holl gardiau bws rhatach newydd oedd yn cael eu hanfon at bawb dros 60 oed yng Nghymru.

Dosbarthwyd dros 500,000 o daflenni ac mae data gan yr Adran Gwaith a Phensiynau yn dangos fod 26% yn fwy o hawlwyr newydd yng Nghymru yn y cyfnod hwnnw na’r cyfartaledd dros y ddwy flynedd diwethaf. Roedd y cynnydd hwn mewn hawlwyr newydd yn cyfateb i dros £10,000 yr wythnos i bobl hŷn ledled Cymru, a fyddai’n £500,000 ychwanegol dros flwyddyn i gefnogi rhai o’r bobl dlotaf yn ein cymunedau.

Darllenwch y stori’n llawn yma

 

Y Comisiynydd yn croesawu ailddechrau ymweld â chartrefi gofal

Mae’r Comisiynydd wedi bod yn galw am weithredu i roi blaenoriaeth i ymweliadau diogel â chartrefi gofal wrth i’r cyfyngiadau gael eu llacio ac mae hi wedi croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i ganiatáu i ymweliadau dan do ailddechrau mewn cartrefi gofal. Mae’n hanfodol bod partneriaid yn parhau i weithio gyda’i gilydd i wneud yn siŵr bod cynifer â phosibl o ymweliadau diogel yn gallu digwydd.

Bydd y Comisiynydd yn parhau i fonitro’r hyn sy’n digwydd a gall ffrindiau neu deulu sydd â phryderon gysylltu â thîm gwaith achos y Comisiynydd a fydd yn gallu darparu cyngor a chefnogaeth.

Gallwch ddarllen datganiad llawn y Comisiynydd yma

 

Cymryd camau i atal cam-drin pobl hŷn

Mae’r Comisiynydd wedi croesawu’r gefnogaeth drawsbleidiol i’w galwadau i gymryd camau i fynd i’r afael â cham-drin pobl hŷn yn ystod tymor nesaf y Senedd.

Mae cynrychiolwyr o Blaid Cymru, Ceidwadwyr Cymru a Llafur Cymru i gyd wedi gwneud ymrwymiadau yn datgan y byddant yn cymryd camau i sicrhau bod gwell dealltwriaeth o’r ffyrdd y gall cam-drin effeithio ar bobl hŷn, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd a gweithwyr proffesiynol ynghylch y cam-drin hwn, ac yn rhoi mesurau ar waith i ddileu camdriniaeth, naill ai fel rhan o Lywodraeth nesaf Cymru neu drwy weithio’n adeiladol yn y gwrthbleidiau.

Darllenwch y stori’n llawn yma

 

Ymgysylltu â phobl hŷn

Mae’r Comisiynydd yn parhau i ymgysylltu â phobl hŷn ar draws Cymru i glywed am eu profiadau yn ystod y pandemig, yn enwedig sut mae wedi effeithio ar iechyd meddwl pobl hŷn.

Mae’r sesiynau ymgysylltu’n cael eu cynnal ar-lein, oherwydd y cyfyngiadau Covid-19, ond maen nhw wedi’u clystyru mewn ardaloedd penodol. Mae sesiynau wedi’u trefnu ym mis Ebrill ar gyfer pobl hŷn, a’r mudiadau sy’n eu cefnogi, yn Abertawe/Castell-nedd Port Talbot/Pen-y-bont ar Ogwr, Gorllewin Cymru, Gwent, Gogledd Ddwyrain Cymru a Gogledd Orllewin Cymru.

Os hoffech chi ddod i un o’r cyfarfodydd hyn, cysylltwch â Chydlynydd Ymgysylltu a Digwyddiadau’r Comisiynydd drwy ddefnyddio’r ddolen isod.

Archebwch eich lle yma

 

Y grŵp trawsbleidiol ar Undod Rhwng Cenedlaethau

Ym mis Tachwedd 2020, fe wnaeth y Comisiynydd gefnogi sefydlu grŵp trawsbleidiol newydd yn y Senedd a oedd yn canolbwyntio ar gryfhau undod rhwng cenedlaethau. Mae’r grŵp wedi dod â gwleidyddion o’r Senedd ynghyd gydag ymchwilwyr academaidd allweddol, ymarferwyr sydd â phrofiad o redeg prosiectau pontio’r cenedlaethau, a chynrychiolwyr pobl hŷn a phobl ifanc, gan gynnwys y Comisiynwyr Pobl Hŷn, Plant a Chenedlaethau’r Dyfodol yng Nghymru.

Ym mis Mawrth, cyhoeddodd y grŵp ei bedwar maes blaenoriaeth (mynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd; dysgu gydol oes; gwahaniaethu ar sail oedran; a sgiliau a’r economi) a gwnaeth gyfres o alwadau i Lywodraeth nesaf Cymru fwrw ymlaen â chryfhau a chefnogi undod rhwng cenedlaethau dros dymor nesaf y Senedd.

Darllenwch ddatganiad blaenoriaeth llawn y Grŵp yma

 

Adroddiad Sefydliad Iechyd y Byd ar Wahaniaethu ar Sail Oed 

Fel rhan o’i Ymgyrch Fyd-eang i fynd i’r afael â gwahaniaethu ar sail oed, mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi cyhoeddi Adroddiad pwysig sy’n gosod fframwaith ar gyfer gweithredu i leihau gwahaniaethu ar sail oed, gan gynnwys argymhellion penodol ar gyfer sefydliadau rhyngwladol, cenedlaethol a lleol.

Mae’r adroddiad yn dwyn ynghyd y dystiolaeth orau sydd ar gael am faint ac effaith gwahaniaethu ar sail oed, yn tynnu sylw at y strategaethau sy’n gweithio orau i atal a gwrthwynebu gwahaniaethu ar sail oed, ac yn nodi bylchau yn yr ymchwil presennol a llwybrau ymholi yn y dyfodol er mwyn gwella ein dealltwriaeth o wahaniaethau ar sail oed.

Mae’r adroddiad yn cynnwys pecyn cymorth i helpu unigolion a sefydliadau i ddysgu mwy am wahaniaethu ar sail oed a sut gallant chwarae eu rhan i fynd i’r afael ag oedraniaeth, yn ogystal â chanllaw ar gyfer dechrau sgyrsiau am wahaniaethu ar sail oed er mwyn herio rhagdybiaethau ac agweddau negyddol at bobl hŷn.

Bydd y Comisiynydd yn ystyried sut gall yr adroddiad hwn gefnogi ei blaenoriaeth i roi diwedd ar wahaniaethu ar sail oed a bydd yn parhau i ymgysylltu â Sefydliad Iechyd y Byd ar y mater hwn ac yn ehangach ar greu cymunedau sy’n ystyriol o oed ledled Cymru.

Darllenwch adroddiad Sefydliad Iechyd y Byd yma

 

Ffocws yr Ymgynghoriad: Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy’n Heneiddio

Fe wnaeth y Comisiynydd groesawu’r weledigaeth gyffredinol a nodwyd yn Strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer cymdeithas sy’n heneiddio, yn enwedig yr ymrwymiad i fabwysiadu dull seiliedig ar hawliau a chydnabod yr angen i fynd i’r afael â gwahaniaethu ar sail oed.

Mae llawer o’r ymrwymiadau yn y Strategaeth yn cyd-fynd â thair blaenoriaeth y Comisiynydd, yn enwedig cefnogaeth i ddatblygu cymunedau cyfeillgar i oed a’r ymrwymiad i gyhoeddi cynllun gweithredu i fynd i’r afael â cham-drin pobl hŷn cyn diwedd 2021.

Fodd bynnag, mae angen i’r Strategaeth gydnabod yn well yr effaith y mae’r pandemig Covid-19 wedi’i chael ar bobl hŷn a sicrhau eu bod yn cael eu hystyried yn llawn yn ystod y cyfnod adfer ac ailadeiladu. Nododd ymateb y Comisiynydd y dylai’r Strategaeth gynnwys ymrwymiad i wreiddio Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn mewn deddfwriaeth ddomestig a’i diwygio i ehangu ei dealltwriaeth o amrywiaeth a rhyngblethedd y materion sy’n effeithio ar bobl hŷn.

Gallwch ddarllen datganiad llawn y Comisiynydd yma