Title of Page: Safeguarding News

Image © Grant Hyatt Photography

Dyma leoliad y newyddion a barn gan y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol

Adroddiadau HMICFRS ar ecsbloetio plant yn rhywiol

Cyhoeddwyd gan: Y Bwrdd. Llu 5 Chw 2024

Mae Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi (HMICFRS) wedi cyhoeddi dau adroddiad ar gamfanteisio’n rhywiol ar blant: Arolygiad o ba mor dda y mae’r heddlu a’r Asiantaeth Troseddau Cenedlaethol yn mynd i’r afael â cham-drin a chamfanteisio’n rhywiol ar blant ar-lein a Arolygiad o effeithiolrwydd ymateb yr heddlu a chyrff gorfodi’r gyfraith – Read more..

Gweminar “Cryfhau ein Cydgyfrifoldeb am Ddiogelu”

Cyhoeddwyd gan: Y Bwrdd. Mer 25 Hyd 2023

Gweminar y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol yn rhan o Wythnos Genedlaethol Diogelu 2023. “Cryfhau ein Cydgyfrifoldeb am Ddiogelu”. Dydd Mercher 15fed o Dachwedd 2023 9.30am hyd 12.00 a 12.30pm hyd 3.00pm Trwy “Microsoft Teams” https://www.eventbrite.co.uk/e/strengthening-our-collective-safeguarding-responsibility-tickets-740654065247?aff=oddtdtcreator Rhannwch ymysg eich rhwydweithiau os gwelwch yn dda. Bydd hwn yn rhith-ddigwyddiad byw #DiogeluCymru

Adroddiad newydd: Farwolaethau sy’n gysylltiedig â dŵr ymhlith plant a phobl ifanc dan 25 oed, Cymru, 2013-2022

Cyhoeddwyd gan: Y Bwrdd. Iau 10 Awst 2023

Mae adroddiad gan y Rhaglen Adolygu Marwolaethau Plant, Diogelwch Dŵr Cymru a’r Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau (ROSPA) ar Farwolaethau sy’n gysylltiedig â dŵr ymhlith plant a phobl ifanc dan 25 oed, Cymru, 2013-2022 bellach yn fyw. Nod yr adroddiad hwn yw helpu i lywio gwaith gweithwyr proffesiynol diogelwch dŵr yng Nghymru i atal marwolaethau plant a phobl – Read more..

Stopio Cosbi Corfforol

Cyhoeddwyd gan: Y Bwrdd. Mer 23 Chw 2022

O 21 Mawrth 2022, bydd cosbi plant yn gorfforol yn anghyfreithlon yng Nghymru. Mae’r ymgyrch Stopio Cosbi Corfforol yn codi ymwybyddiaeth am y newid pwysig hwn yn y gyfraith, ac wedi dechrau ar gyfnod mwyaf dwys a phwysicaf yr ymgyrch hyd yma.  

Gwyliwch ar-lein: “Yr Hawl i fod yn Ddiogel – atal ac ymateb i gam-drin plant yn rhywiol a chamfanteisio rhywiol ar blant yng Nghymru”

Cyhoeddwyd gan: Y Bwrdd. Maw 30 Tach 2021

Yn rhan o’r Wythnos Genedlaethol Diogelu, cynhaliodd Llywodraeth Cymru ddigwyddiad ar-lein – “Yr Hawl i fod yn Ddiogel – atal ac ymateb i gam-drin plant yn rhywiol a chamfanteisio rhywiol ar blant yng Nghymru”. Dilynwch y ddolen gyswllt i weld y cyflwyniad a’r panel holi ac ateb a gadeiriwyd gan Tessa Hodgson sy’n aelod o’r – Read more..

Modiwl hyfforddi diogelu newydd ar gyfer y sector cyhoeddus a’r trydydd sector yng Nghymru

Cyhoeddwyd gan: Y Bwrdd. Maw 16 Tach 2021

Mae modiwl hyfforddi diogelu cyson wedi’i lansio ar gyfer staff y sector cyhoeddus a’r sector gwirfoddol ledled Cymru. Modiwl Diogelu Grwp A Bydd cwblhau’r modiwl hyfforddi newydd yn galluogi pawb i: esbonio’r term ‘diogelu’ adnabod camdriniaeth neu’r risg o gamdriniaeth, niwed neu esgeulustod gwybod pa gamau i’w cymryd os ydynt yn amau – neu’n dyst – Read more..

Newyddion yn yr archif