Rydym wedi casglu awgrymiadau arbenigol i’ch helpu i fwynhau’r Nadolig hwn ar-lein yn ddiogel ac yn hyderus. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn www.getsafeonline.org/safechristmas
Llongyfarchiadau i Amanda Robinson a’i chydweithwyr ym Mhrifysgol Caerdydd ar ennill gwobr am bapur rhagorol yn ddiweddar, sef papur ar gyfer ‘The Journal of Adult Protection’ a oedd yn dwyn y teitl ‘Making connections: a multi-disciplinary analysis of domestic homicide, mental health homicide and adult practice reviews’. https://www.emerald.com/insight/content/doi/10.1108/JAP-07-2018-0015/full/html
Dyma eich cyfle i glywed Jane Randall, Cadeirydd Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol Cymru, yn siarad â Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru a Chomisiynydd Plant Cymru am brofiadau’r grwpiau y maent yn eu cynrychioli ac am y modd y mae’r pandemig a’r cyfnodau clo cenedlaethol wedi effeithio arnynt. Os ydych yn cael trafferth gwylio’r fideo ar – Read more..
Mae End Youth Homelessness Cymru wedi cyhoeddi adroddiad ynghylch digartrefedd ymhlith pobl ifanc yng Nghymru sydd wedi bod mewn gofal. Gallwch ddarllen yr adroddiad yma:
Adeg brysuraf y flwyddyn o safbwynt siopa ar-lein yw’r adeg brysuraf hefyd i droseddwyr ar-lein. Darllenwch ein cyngor arbenigol, hawdd ei ddilyn. www.getsafeonline.org/safechristmas
Mae’r adroddiad Responding to child sexual abuse: learning from children’s services in Wales ar gael yn nawr ar wefan y Ganolfan Arbenigedd ar Gam-drin Plant yn Rhywiol. Mae’r Ganolfan hefyd wedi cyhoeddi papur briffio sy’n egluro ei hargymhellion i wasanaethau a llunwyr polisi lleol a chenedlaethol yng ngoleuni canfyddiadau’r adroddiad.