Cynllun Gwaith y Bwrdd 2019-20

Cyflwyniad

Dyletswyddau a Chyfrifoldebau’r Bwrdd Cenedlaethol

Mae gan y Bwrdd Cenedlaethol dair prif ddyletswydd sydd wedi dylanwadu ar ein cynllun gwaith, sef:
1. Darparu cymorth a chyngor 1 i Fyrddau Diogelu, gyda’r nod o sicrhau eu bod  yn effeithiol
2. Adrodd ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd trefniadau i ddiogelu plant ac oedolion yng Nghymru
3. Gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru ynghylch sut y gellid gwella’r trefniadau hynny (A.132 (2)).

At hynny, mae wyth o gyfrifoldebau penodol y Bwrdd Cenedlaethol yn cael eu hegluro yn Gweithio Gyda’n Gilydd i Ddiogelu Pobl,
sef y Canllawiau ynghylch Diogelu, dan Ran 7 y Ddeddf. Hynny yw:
1) [Mae’r Bwrdd Cenedlaethol yn] gweithio ochr yn ochr â Byrddau Diogelu Oedolion a Byrddau Diogelu Plant i sicrhau
gwelliannau cyson i bolisïau ac arferion diogelu ledled Cymru (par. 246)
2) Bydd [y Bwrdd Cenedlaethol] yn ymgysylltu â chadeiryddion y Byrddau Diogelu, ac arolygiaethau perthnasol…o leiaf
ddwywaith y flwyddyn (par. 258)
3) Bydd aelodau’r Bwrdd Cenedlaethol yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am agweddau polisi a thystiolaeth ar ddiogelu ac
amddiffyn mewn rhannau eraill o’r DU a thu hwnt er mwyn dysgu o’r rheini a gwerthuso perfformiad cymharol Cymru (par.
261)
4) Os bydd…yn nodi thema o bryder…gallai’r Bwrdd Cenedlaethol argymell i Weinidogion Cymru y dylai’r mater gael ei
drosglwyddo i’w archwilio gan Lywodraeth Cymru neu’r arolygiaeth berthnasol (par. 263)

5) Bydd y Bwrdd Cenedlaethol yn defnyddio mecanweithiau i ymgysylltu’n rheolaidd â phob math o grwpiau cyfeirio,
ymarferwyr ac unigolion arbenigol (par. 264)
6) Bydd y Bwrdd Cenedlaethol yn cyhoeddi ei adroddiadau blynyddol ei hun gan gynnwys unrhyw waith arfaethedig.
Bydd hefyd yn cynnal digwyddiad neu ddigwyddiadau ymgysylltu blynyddol (par. 265)
7) Mae gan y Bwrdd Cenedlaethol ddyletswydd benodol o dan adran 133(2)(d) o’r Ddeddf i “ymgynghori â’r rhai y gallai
trefniadau i ddiogelu oedolion a phlant yng Nghymru effeithio arnynt”. Bydd yn defnyddio’r ddyletswydd honno i wella ei
ddealltwriaeth ac ymestyn ei brofiad o ddiogelu ac amddiffyn yng Nghymru (par. 266)
8) Bydd y Bwrdd Cenedlaethol yn ystyried yr hyn a ddysgwyd o weithgareddau ‘ymgysylltu â defnyddwyr’ y Byrddau
Diogelu (par. 266).

Y Cynllun Gwaith

1. Darparu cymorth a chyngor i Fyrddau Diogelu, gyda’r nod o sicrhau eu bod yn effeithiol
CynllunCwmpas a DulliauDeilliannau
Datblygu ymgyrch cenedlaethol codi ymwybyddiaeth i Gymru
Mae’r Bwrdd Cenedlaethol yn gyfrifol am ymgysylltu â’r cyhoedd yn gyffredinol ynghylch diogelu ond nid yw wedi gallu mynd i’r afael â hynny eto. 
Er gwaethaf ymgyrchoedd a gweithgarwch sylweddol gan fyrddau rhanbarthol i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd, nid yw’r cyhoedd yn gyffredinol yn gwybod llawer o hyd am rôl asiantaethau a gwaith Byrddau Diogelu Rhanbarthol, heblaw pan geir adroddiadau yn y cyfryngau pan gaiff adolygiadau eu cyhoeddi.
Mae’r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a Byrddau Rhanbarthol Diogelu Plant ac Oedolion:
• Yn cytuno ar negeseuon allweddol yn genedlaethol ar gyfer y 12 mis nesaf
• Yn hwyluso ymgyrch ar gyfryngau cymdeithasol
• Yn cynorthwyo gyda chynnwys ar y wefan
• Yn dylanwadu ar thema’r wythnos ddiogelu
• Yn penderfynu ar negeseuon allweddol gan randdeiliaid a defnyddwyr gwasanaeth.
Cynyddu’r cyfleoedd i’r cyhoedd yn gyffredinol ymgysylltu â byrddau diogelu neu’r asiantaethau sy’n rhan ohonynt.
Y Wefan• Ailwampio’r wefan bresennol trwy dendr caffael newydd.
• Cynnal a chadw’r wefan newydd yn barhaus bob mis.
Gwefan y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol yn fwy cyfredol ac yn haws ei defnyddio.
Dysgu o adolygiadau• Cyhoeddi adolygiad thematig o Adolygiadau Ymarfer Plant.
• Seminar i rannu canfyddiadau adolygiadau, gan gynnwys Adolygiad Chris Wade Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.
• Cytuno ar drefniadau ar gyfer Storfa Adolygiadau Diogelu Cymru.
• Prosiect Gwybodaeth ynghylch Diogelu.
• Cyfrannu i adolygiad cenedlaethol a chymryd rhan yn y gwaith o lywodraethu adolygiadau dysgu (Adolygiadau Dynladdiad Domestig,
Adolygiadau Ymarfer Oedolion, Adolygiadau Ymarfer Plant).
Caiff gwersi eu dysgu o bob adolygiad unigol yn lleol ac yn genedlaethol.
Darparu cymorth a chyngor ynghylch eu heffeithiolrwydd i gyfarfodydd byrddau diogelu• Aelodau’r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol yn mynychu cyfarfodydd Byrddau Diogelu Rhanbarthol ac yn cymryd rhan ynddynt.
• Y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol yn datblygu trosolwg o gynlluniau gwaith y Byrddau Diogelu Rhanbarthol a themâu a materion sy’n dod i’r amlwg.
Mae enghreifftiau o’r cymorth a’r cyngor a ddarparwyd yn cael eu hadlewyrchu mewn cyfarfodydd â Gweinidogion a Chadeiryddion Byrddau Rhanbarthol ac yn Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Cenedlaethol.
Ymateb i themâu sy’n dod i’r amlwgMae’r Bwrdd yn cael ymholiadau o ganlyniad i’w waith. Mae cylch gorchwyl y Bwrdd yn ymestyn fel ei fod yn cynnwys darparu cyngor a chymorth.Adroddiad Blynyddol sy’n cofnodi’n effeithiol themâu sy’n dod i’r amlwg.
2. Adrodd ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd trefniadau i ddiogelu plant ac oedolion yng Nghymru
CynllunCwmpas a DulliauDeilliannau
Adroddiad Blynyddol ar effeithiolrwydd trefniadau yng Nghymru• Llunio Adroddiad Blynyddol erbyn 31.10.2019.
• Cyfarfodydd misol y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol.
Argymhellion ynghylch sut y gellid gwella’r trefniadau hynny.
Ymgysylltu â chadeiryddion Byrddau Diogelu Rhanbarthol• Dau weithdy gyda’r cadeiryddion (hydref a gwanwyn).Fframwaith sicrwydd y cytunwyd arno, er mwyn penderfynu ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd trefniadau yng Nghymru.
Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol.
Ymgysylltu ag arolygiaethauCyfarfod ag:

• Arolygiaeth Gofal Cymru
• Swyddfa Archwilio Cymru
• Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru
• Estyn
• Arolygiaeth Carchardai Ei Mawrhydi.
Datblygu fframwaith sicrwydd y cytunwyd arno, er mwyn penderfynu ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd trefniadau yng Nghymru.
Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol.
Ymgysylltu â sefydliadau
rhanddeiliaid allweddol
Ymgysylltu â rhanddeiliaid/defnydd yr gwasanaeth.
Pob aelod o’r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol i gadw mewn cysylltiad â sefydliad penodol:
• Y Comisiynydd Pobl Hŷn
• Comisiynydd Plant Cymru
• Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol
• Comisiynydd Heddlu a Throseddu
• Iechyd Cyhoeddus Cymru
• Gofal Cymdeithasol Cymru
• Cyngor y Gweithlu Addysg
• Y Comisiwn Elusennau
Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Ymgysylltu’n effeithiol â
defnyddwyr gwasanaeth.
Gwaith Canolfan Ddiogelu Amlasiantaeth ar gyfer Llywodraeth Cymru (yn cael ei ystyried)• Canolfan Ddiogelu Amlasiantaeth –comisiynu gwerthusiad er mwyn adolygu’r dystiolaeth.
• Bydd y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol yn edrych ar yr argymhellion ac yn adrodd i’r Gweinidog.
Fframwaith Egwyddorion.
3. Gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru ynghylch sut y gellid gwella’r trefniadau hynny (A.132 (2)).
CynllunCwmpas a DulliauDeilliannau
Cyfarfodydd â’r Gweinidog• Hyd at 4 cyfarfod y flwyddyn.
• Trwy’r Adroddiad Blynyddol.
• Codi materion penodol wrth iddynt godi.
Sicrhau bod y Gweinidog yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am faterion sy’n dod i’r amlwg a cheisio cyngor yn ôl yr angen.

Cynllun Gwaith y Bwrdd 2018-19

Cynllun Gwaith y Bwrdd 2019-20

Cynllun Gwaith y Bwrdd 2020-21

Cynllun Gwaith y Bwrdd 2021-22

Cynllun Gwaith y Bwrdd 2022-23