Cynllun Gwaith y Bwrdd 2021-22

Cyflwyniad

Dyletswyddau a chyfrifoldebau’r Bwrdd Cenedlaethol

Mae gan y Bwrdd Cenedlaethol dair prif ddyletswydd sydd wedi dylanwadu ar ein cynllun gwaith, sef:

  1. Darparu cymorth a chyngor[1] i Fyrddau Diogelu, gyda’r nod o sicrhau eu bod yn effeithiol
  2. Adrodd ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd trefniadau i ddiogelu plant ac oedolion yng Nghymru
  3. Gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru ynghylch sut y gellid gwella’r trefniadau hynny (A.132 (2)).

At hynny, mae wyth o gyfrifoldebau penodol y Bwrdd Cenedlaethol yn cael eu hegluro yn Gweithio Gyda’n Gilydd i Ddiogelu Pobl, sef y Canllawiau ynghylch Diogelu, dan Ran 7 y Ddeddf. Hynny yw:

  1. [Mae’r Bwrdd Cenedlaethol yn] gweithio ochr yn ochr â Byrddau Diogelu Oedolion a Byrddau Diogelu Plant i sicrhau gwelliannau cyson i bolisïau ac arferion diogelu ledled Cymru (par. 246)
  2. Bydd [y Bwrdd Cenedlaethol] yn ymgysylltu â chadeiryddion y Byrddau Diogelu, ac arolygiaethau perthnasol…o leiaf ddwywaith y flwyddyn (par. 258)
  3. Bydd aelodau’r Bwrdd Cenedlaethol yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am agweddau polisi a thystiolaeth ar ddiogelu ac amddiffyn mewn rhannau eraill o’r DU a thu hwnt er mwyn dysgu o’r rheini a gwerthuso perfformiad cymharol Cymru (par. 261)
  4. Os bydd…yn nodi thema o bryder…gallai’r Bwrdd Cenedlaethol argymell i Weinidogion Cymru y dylai’r mater gael ei drosglwyddo i’w archwilio gan Lywodraeth Cymru neu’r arolygiaeth berthnasol (par. 263)
  5. Bydd y Bwrdd Cenedlaethol yn defnyddio mecanweithiau i ymgysylltu’n rheolaidd â phob math o grwpiau cyfeirio, ymarferwyr ac unigolion arbenigol (par. 264)
  6. Bydd y Bwrdd Cenedlaethol yn cyhoeddi ei adroddiadau blynyddol ei hun gan gynnwys unrhyw waith arfaethedig. Bydd hefyd yn cynnal digwyddiad neu ddigwyddiadau ymgysylltu blynyddol (par. 265)
  7. Mae gan y Bwrdd Cenedlaethol ddyletswydd benodol o dan adran 133(2)(d) o’r Ddeddf i “ymgynghori â’r rhai y gallai trefniadau i ddiogelu oedolion a phlant yng Nghymru effeithio arnynt”. Bydd yn defnyddio’r ddyletswydd honno i wella ei ddealltwriaeth ac ymestyn ei brofiad o ddiogelu ac amddiffyn yng Nghymru (par. 266)
  8. Bydd y Bwrdd Cenedlaethol yn ystyried yr hyn a ddysgwyd o weithgareddau ‘ymgysylltu â defnyddwyr’ y Byrddau Diogelu (par. 266).

Y CYNLLUN GWAITH

1. Darparu cymorth a chyngor i Fyrddau Diogelu, gyda’r nod o sicrhau eu bod yn effeithiol:
Nod Strategol 1. Negeseuon cenedlaethol am ddiogelu
Bydd y Bwrdd Cenedlaethol yn ymgysylltu â’r cyhoedd ynghylch diogelu.
Camau gweithredu arfaethedigDulliau o fesur deilliannauDyddiad cyflawni
• Sicrhau bod prosesau ar waith i’w gwneud yn bosibl nodi negeseuon allweddol drwy gytundeb â rhanddeiliaid.
• Pennu hyd a lled y gallu i ddefnyddio platfformau’r cyfryngau digidol sydd ar gael ac sy’n briodol er mwyn ymgysylltu â’r cyhoedd. Adnabod bylchau mewn adnoddau.
• Adolygu gwefan gyhoeddus y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol er mwyn hybu’r gwaith o gyflawni’r amcan. Adnabod bylchau mewn adnoddau ar gyfer gwaith cyflawni.
• Arwain a chefnogi ymgyrchoedd diogelu, ar ei ben ei hun neu gyda rhanddeiliaid eraill, er mwyn hyrwyddo gwybodaeth gyhoeddus gan gynnwys gweithgareddau’r Wythnos Ddiogelu.
• Archwilio cyfleoedd i gael safbwyntiau’r cyhoedd.
• Cyfieithu.
• Dinasyddion Cymru yn cael gwybodaeth i hybu eu gallu i weithredu er mwyn atal camdriniaeth, esgeulustod a chamfanteisio, neu er mwyn eu hamddiffyn eu hunain neu amddiffyn pobl eraill rhag camdriniaeth, esgeulustod a chamfanteisio.
• Mae gwybodaeth yn berthnasol, yn ddwyieithog ac yn hygyrch.
• Ceir safbwyntiau’r cyhoedd.
• Sicrheir bod unrhyw gyfathrebu’n hollol ddwyieithog.
31 Mawrth 2022
Nod Strategol 2. Dysgu o adolygiadau
Camau gweithredu arfaethedigDulliau o fesur deilliannauDyddiad cyflawni
• Weminar i rannu canfyddiadau adolygiadau, gan gynnwys Adolygiad Kris Wade Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.
• Gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar yr Adolygiad Unedig Sengl o Waith Diogelu.
• Cyfrannu i adolygiad cenedlaethol a chymryd rhan yn y gwaith o lywodraethu adolygiadau dysgu (Adolygiadau Dynladdiad Domestig, Adolygiadau Ymarfer Oedolion, Adolygiadau Ymarfer Plant).
• Comisiynu diweddariad ynghylch yr adolygiad thematig o Adolygiadau Ymarfer Plant.
• Comisiynu ymchwil i Ddiogelu Oedolion.
• Caiff gwersi eu dysgu o bob adolygiad unigol yn lleol ac yn genedlaethol.31 Mawrth 2022
Nod Strategol 3. Darparu cymorth a chyngor ynghylch eu heffeithiolrwydd i fyrddau diogelu
Camau gweithredu arfaethedigDulliau o fesur deilliannauDyddiad cyflawni
• Aelodau’r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol yn mynychu cyfarfodydd Byrddau Diogelu Rhanbarthol ac yn cymryd rhan ynddynt.
• Y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol yn datblygu trosolwg o gynlluniau gwaith y Byrddau Diogelu Rhanbarthol a themâu a materion sy’n dod i’r amlwg.
• Mae enghreifftiau o’r cymorth a’r cyngor a ddarparwyd yn cael eu hadlewyrchu mewn cyfarfodydd â Gweinidogion a Chadeiryddion Byrddau Rhanbarthol ac yn Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Cenedlaethol.31 Mawrth 2022
Nod Strategol 4. Ymateb i themâu sy’n dod i’r amlwg
Camau gweithredu arfaethedigDulliau o fesur deilliannauDyddiad cyflawni
• Mae’r Bwrdd yn cael ymholiadau o ganlyniad i’w waith. Mae cylch gwaith y Bwrdd yn ymestyn fel ei fod yn cynnwys darparu cyngor a chymorth.
• Ymateb i ymgyngoriadau ynghylch diogelu.
• Adroddiad Blynyddol sy’n cofnodi’n effeithiol themâu sy’n dod i’r amlwg.31 Mawrth 2022
2. Adrodd ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd trefniadau i ddiogelu plant ac oedolion yng Nghymru:
Nod Strategol 5. Adroddiad Blynyddol ar effeithiolrwydd trefniadau yng Nghymru
Camau gweithredu arfaethedigDulliau o fesur deilliannauDyddiad cyflawni
• Llunio Adroddiad Blynyddol erbyn 31.10.2021.
• Cyfarfodydd misol y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol.
• Cynllun gwaith.
• Argymhellion ynghylch sut y gellid gwella’r trefniadau hynny.31 Rhagfyr 2021
Nod Strategol 6. Ymgysylltu â chadeiryddion Byrddau Diogelu Rhanbarthol
Camau gweithredu arfaethedigDulliau o fesur deilliannauDyddiad cyflawni
• Cyfarfodydd chwarterol rhwng y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol, Llywodraeth Cymru a chadeiryddion y Byrddau Diogelu Rhanbarthol.• Cylch gorchwyl y cytunwyd arno, sy’n egluro sut y dylai’r cyrff hyn gydweithio. Datblygu blaenoriaethau cyffredin ar gyfer gweithio mewn modd cydweithredol.
• Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol.
31 Mawrth 2022
Nod Strategol 7.Ymgysylltu â rheolwyr busnes
Camau gweithredu arfaethedigDulliau o fesur deilliannauDyddiad cyflawni
• Cyfarfodydd chwarterol rhwng y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol, Llywodraeth Cymru a rheolwyr busnes y Byrddau Diogelu Rhanbarthol.• Datblygu blaenoriaethau cyffredin ar gyfer gweithio mewn modd cydweithredol.
• Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol.
31 Mawrth 2022
Nod Strategol 8. Ymgysylltu ag arolygiaethau
Camau gweithredu arfaethedigDulliau o fesur deilliannauDyddiad cyflawni
Cyfarfod ag:
• Arolygiaeth Gofal Cymru
• Swyddfa Archwilio Cymru
• Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru
• Estyn
• Arolygiaeth Carchardai Ei Mawrhydi
• Arolygiaeth Prawf Ei Mawrhydi
• Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi
• Arolygiaethau ar y cyd
• Datblygu fframwaith sicrwydd y cytunwyd arno, er mwyn penderfynu ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd trefniadau yng Nghymru.
• Cyfrannu at werthuso’r cydarolygiad a gynhaliwyd fel prosiect peilot yng Nghasnewydd.
31 Mawrth 2022
Nod Strategol 9. Ymgysylltu â sefydliadau rhanddeiliaid allweddol

Ymgysylltu â rhanddeiliaid/defnyddwyr gwasanaeth
Camau gweithredu arfaethedigDulliau o fesur deilliannauDyddiad cyflawni
Pob aelod o’r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol i gadw mewn cysylltiad â sefydliad penodol:

• Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
• Comisiynydd Plant Cymru
• Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru
• Comisiynydd Heddlu a Throseddu
• Iechyd Cyhoeddus Cymru
• Gofal Cymdeithasol Cymru
• Cyngor y Gweithlu Addysg
• Y Comisiwn Elusennau trwy Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
• Ymgysylltu’n effeithiol â defnyddwyr gwasanaeth.
• Ymgysylltu’n effeithiol â rhanddeiliaid a defnyddwyr gwasanaeth.
31 Mawrth 2022
Nod Strategol 10. Llywio Dyfodol Diogelu yng Nghymru (cariwyd ymlaen o 2020/21):

Ffrwd waith 1: Gwerthusiad o Effeithiolrwydd Trefniadau Diogelu Gweithredol Amlasiantaeth yng Nghymru.


Ffrwd waith 2: Datblygu Fframwaith Perfformiad Cenedlaethol ar gyfer Diogelu Statudol


Ffrwd waith 3: Negeseuon gan bobl
Camau gweithredu arfaethedigDulliau o fesur deilliannauDyddiad cyflawni
• Dilyn Cam 1 a gyflawnwyd yn rhan o gynllun gwaith 2019/20.
• Bydd y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol yn edrych ar yr argymhellion ac yn adrodd i’r Gweinidog.
• Cyfarfodydd y grŵp rhanddeiliaid (2) – Sicrhau bod y grŵp rhanddeiliaid yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd a chanfyddiadau.
• Mapio modelau a ddefnyddir ar hyn o bryd ar draws Cymru a gweddill y DU.
• Fframwaith Egwyddorion.
• Datblygu fframwaith sicrwydd y cytunwyd arno, er mwyn penderfynu ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd trefniadau yng Nghymru.
30 Ebrill 2022
3. Gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru ynghylch sut y gellid gwella’r trefniadau hynny (A.132 (2)):
Nod Strategol 11. Cyfarfodydd â’r Gweinidog
Camau gweithredu arfaethedigDulliau o fesur deilliannauDyddiad cyflawni
• 2 gyfarfod y flwyddyn.
• Trwy’r Adroddiad Blynyddol.
• Codi materion penodol wrth iddynt godi.
• Sicrhau bod y Gweinidog yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am faterion sy’n dod i’r amlwg a cheisio cyngor yn ôl yr angen.Haf 2021

Rhagfyr 2021

Cynllun Gwaith y Bwrdd 2018-19

Cynllun Gwaith y Bwrdd 2019-20

Cynllun Gwaith y Bwrdd 2020-21

Cynllun Gwaith y Bwrdd 2021-22

Cynllun Gwaith y Bwrdd 2022-23