Title of Page: Legal Literacy

Image © Grant Hyatt Photography

Cyflwyniad

Dyletswyddau a Chyfrifoldebau’r Bwrdd Cenedlaethol

Mae gan y Bwrdd Cenedlaethol dair prif ddyletswydd sydd wedi dylanwadu ar ein cynllun gwaith, sef:

  1. Darparu cymorth a chyngor i Fyrddau Diogelu, gyda’r nod o sicrhau eu bod yn effeithiol
  2. Adrodd ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd trefniadau i ddiogelu plant ac oedolion yng Nghymru
  3. Gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru ynghylch sut y gellid gwella’r trefniadau hynny (A.132 (2)).

At hynny, mae wyth o gyfrifoldebau penodol y Bwrdd Cenedlaethol yn cael eu hegluro yn Gweithio Gyda’n Gilydd i Ddiogelu Pobl, sef y Canllawiau ynghylch Diogelu, dan Ran 7 y Ddeddf. Hynny yw:

  1. [Mae’r Bwrdd Cenedlaethol yn] gweithio ochr yn ochr â Byrddau Diogelu Oedolion a Byrddau Diogelu Plant i sicrhau gwelliannau cyson i bolisïau ac arferion diogelu ledled Cymru (par. 246)
  2. Bydd [y Bwrdd Cenedlaethol] yn ymgysylltu â chadeiryddion y Byrddau Diogelu, ac arolygiaethau perthnasol…o leiaf ddwywaith y flwyddyn (par. 258)
  3. Bydd aelodau’r Bwrdd Cenedlaethol yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am agweddau polisi a thystiolaeth ar ddiogelu ac amddiffyn mewn rhannau eraill o’r DU a thu hwnt er mwyn dysgu o’r rheini a gwerthuso perfformiad cymharol Cymru (par. 261)
  4. Os bydd…yn nodi thema o bryder…gallai’r Bwrdd Cenedlaethol argymell i Weinidogion Cymru y dylai’r mater gael ei drosglwyddo i’w archwilio gan Lywodraeth Cymru neu’r arolygiaeth berthnasol (par. 263)
  5. Bydd y Bwrdd Cenedlaethol yn defnyddio mecanweithiau i ymgysylltu’n rheolaidd â phob math o grwpiau cyfeirio, ymarferwyr ac unigolion arbenigol (par. 264)
  6. Bydd y Bwrdd Cenedlaethol yn cyhoeddi ei adroddiadau blynyddol ei hun gan gynnwys unrhyw waith arfaethedig. Bydd hefyd yn cynnal digwyddiad neu ddigwyddiadau ymgysylltu blynyddol (par. 265)
  7. Mae gan y Bwrdd Cenedlaethol ddyletswydd benodol o dan adran 133(2)(d) o’r Ddeddf i “ymgynghori â’r rhai y gallai trefniadau i ddiogelu oedolion a phlant yng Nghymru effeithio arnynt”. Bydd yn defnyddio’r ddyletswydd honno i wella ei ddealltwriaeth ac ymestyn ei brofiad o ddiogelu ac amddiffyn yng Nghymru (par. 266)
  8. Bydd y Bwrdd Cenedlaethol yn ystyried yr hyn a ddysgwyd o weithgareddau ‘ymgysylltu â defnyddwyr’ y Byrddau Diogelu (par. 266).

Cynllun Gwaith 2023 / 24

Dyletswydd Strategol 1.Darparu cymorth a chyngor i Fyrddau Diogelu, gyda’r nod o sicrhau eu bod yn effeithiol

Cyfrifoldeb penodol 1: [Mae’r Bwrdd Cenedlaethol yn] gweithio ochr yn ochr â Byrddau Diogelu Oedolion a Byrddau Diogelu Plant i sicrhau gwelliannau cyson i bolisïau ac arferion diogelu ledled Cymru (par. 246)
Gweithgareddau (Sut?)
Er mwyn sicrhau gwelliannau cyson i bolisi ac arferion diogelu ledled Cymru, bydd yr aelodau yn mynychu cyfarfodydd y Byrddau Diogelu Rhanbarthol ac yn cynnig cyngor a chymorth ynddynt.
  1. Bydd yr aelodau yn datblygu trosolwg o waith diogelu a themâu a materion sy’n dod i’r amlwg, fel a ganlyn:
    1. Byddant yn ymgysylltu ac yn cwrdd yn rheolaidd â rheolwyr busnes.
    2. Byddant yn cynnwys adolygiad a chrynodeb o waith y Byrddau Diogelu Rhanbarthol yn Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Cenedlaethol.
    3. Byddant yn mynychu cyfarfodydd bwrdd a diwrnodau datblygu’r Byrddau Diogelu Rhanbarthol.
  2. Byddant yn hwyluso datblygu Fframwaith Perfformiad Diogelu Amlasiantaeth Cymru Gyfan.
  3. Byddant yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a’r Byrddau Diogelu Rhanbarthol i ddatblygu, cefnogi a chynnal seminarau a gweminarau yn ystod yr Wythnos Ddiogelu.
    1. Byddant yn cyfrannu at gynllunio’r Wythnos Genedlaethol Diogelu.
    2. Byddant yn cynnal y porth canolog ar gyfer holl ddigwyddiadau’r Wythnos Genedlaethol Diogelu.
    3. Byddant yn cynnal cynhadledd genedlaethol yn ystod yr Wythnos Ddiogelu.
Cyfrifoldeb penodol 2: Bydd [y Bwrdd Cenedlaethol] yn ymgysylltu â chadeiryddion y Byrddau Diogelu,……… o leiaf ddwywaith y flwyddyn (par. 258)
Gweithgareddau (Sut?)
  1. Bydd yr aelodau yn sicrhau bod y Bwrdd Cenedlaethol yn ymwybodol o faterion a themâu diogelu sy’n dod i’r amlwg ac sy’n effeithio ar y Byrddau Diogelu Rhanbarthol, drwy:
    1. Gyfarfodydd rheolaidd â chadeiryddion y Byrddau Diogelu Rhanbarthol.
  2. Bydd yr aelodau hefyd yn sicrhau trafodaethau dwy ffordd â sefydliadau yng Nghymru sy’n ymwneud â diogelu, drwy:
    1. Nodi’r sefydliadau sy’n ymwneud â’r dirwedd ddiogelu yng Nghymru, gan gynnwys:
      1. Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
      2. Comisiynydd Plant Cymru
      3. Gofal Cymdeithasol Cymru
      4. Cyngor y Gweithlu Addysg
      5. Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
      6. Y Bwrdd Pobl Agored i Niwed.
Cyfrifoldeb penodol 8. Bydd y Bwrdd Cenedlaethol yn ystyried yr hyn a ddysgwyd o weithgareddau ‘ymgysylltu â defnyddwyr’ y Byrddau Diogelu (par. 266)
Gweithgareddau (Sut?)
  1. Bydd y Bwrdd Cenedlaethol yn sicrhau bod llais defnyddwyr gwasanaeth yn cael ei gynnwys wrth ddatblygu dangosyddion craidd y Fframwaith Perfformiad Cenedlaethol.
  2. Nodi themâu sy’n deillio o’r Adolygiad Unedig Sengl o Waith Diogelu a gwaith ymgysylltu â theuluoedd a chymunedau.
  3. Casglu gwybodaeth o adroddiadau blynyddol y Byrddau Diogelu Rhanbarthol.
  4. Sicrhau bod gwersi o waith ymgysylltu â defnyddwyr yn cael eu rhannu’n eang.

Dyletswydd Strategol 2. Adrodd ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd trefniadau i ddiogelu plant ac oedolion yng Nghymru

Cyfrifoldeb penodol 3: Bydd aelodau’r Bwrdd Cenedlaethol yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am agweddau polisi a thystiolaeth ar ddiogelu ac amddiffyn [gan gynnwys] mewn rhannau eraill o’r DU a thu hwnt er mwyn dysgu o’r rheini a gwerthuso perfformiad cymharol Cymru (par. 261)
Gweithgareddau (Sut?)
  1. Hyrwyddo defnyddio’r model 12 elfen ar gyfer cydgyfrifoldeb am ddiogelu.
  2. Rhannu’r gwersi y gellir eu dysgu o adolygiadau unigol a gynhelir yn lleol ac yn genedlaethol ac mewn rhannau eraill o’r DU, a darparu cyngor ynghylch ffyrdd o ddysgu gwersi.
  3. Ystyried argymhellion a rhannu canfyddiadau’r Adolygiad Thematig o Adolygiadau Ymarfer Plant, a gomisiynwyd ym mis Chwefror 2023.
  4. Darparu aelodaeth i’r Bwrdd Gweinidogol sy’n gyfrifol am sicrhau’r gwaith dysgu eang a nodir drwy Storfa Cymru ar gyfer Adolygiadau Diogelu.
  5. Ymgysylltu â grŵp goruchwylio strategol proses yr Adolygiad Unedig Sengl o Waith Diogelu.
  6. Cymryd rhan mewn gweminarau a chynadleddau ar draws y Pum Gwlad a’u cefnogi.
  7. Comisiynu adolygiadau thematig Cymreig pan fo angen.
  8. Comisiynu adolygiad a gwerthusiad o’r ddarpariaeth o ran cymorth therapiwtig a ariennir yn gyhoeddus, ar gyfer y sawl sydd wedi dioddef ac wedi goroesi achosion o gam-drin plant yn rhywiol yng Nghymru.
Cyfrifoldeb penodol 4: Os bydd…yn nodi thema o bryder…gallai’r Bwrdd Cenedlaethol argymell i Weinidogion Cymru y dylai’r mater gael ei drosglwyddo i’w archwilio gan Lywodraeth Cymru neu’r arolygiaeth berthnasol (par. 263)
Gweithgareddau (Sut?)
Caiff materion sy’n dod i’r amlwg eu nodi er mwyn llywio’r gwaith o ddatblygu systemau a phrosesau diogelu ac er mwyn dylanwadu ar y gwaith hwnnw.
  1. Cymerir rhan mewn cyfarfodydd rheolaidd â chadeiryddion y Byrddau Diogelu Rhanbarthol a Llywodraeth Cymru.
  2. Ceir trafodaethau effeithiol â rheoleiddwyr ac arolygiaethau gwasanaethau cyhoeddus i ystyried unrhyw bryderon diogelu ac unrhyw ddatblygiadau neu welliannau i drefniadau diogelu, er mwyn adnabod themâu sy’n peri pryder:
    1. Arolygiaeth Gofal Cymru
    2. Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru
    3. Swyddfa Archwilio Cymru
    4. Estyn
    5. Arolygiaeth Prawf ac Arolygiaeth Carchardai Ei Fawrhydi
    6. Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Fawrhydi.
  3. Cysylltir â Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru a Chomisiynydd Plant Cymru ynghylch materion diogelu sy’n dod i’r amlwg, er mwyn cael cynghreiriau effeithiol.
  4. Caiff materion penodol sy’n peri pryder ac yr adroddwyd yn eu cylch yn flaenorol eu monitro, ac adroddir ynghylch y cynnydd a wneir mewn cysylltiad â nhw.

Bydd themâu sy’n peri pryder yn cael eu rhannu â’r Byrddau Diogelu Rhanbarthol, ac adroddir yn eu cylch wrth Weinidogion Cymru a swyddogion Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau ateb ar lefel Cymru gyfan.

  1. Caiff themâu sy’n peri pryder eu hadnabod a’u huwchgyfeirio er mwyn rhoi mesurau priodol ar waith. Bydd y themâu hynny’n cael eu codi drwy’r canlynol:
    1. y cyfarfodydd misol â swyddogion Llywodraeth Cymru
    2. canlyniad tystiolaeth o ymchwil, adolygiadau neu waith ymgysylltu â grwpiau cyfeirio arbenigol, gan gynnwys y Byrddau Diogelu Rhanbarthol
    3. gwaith cyfathrebu ysgrifenedig ynghylch themâu sy’n peri pryder ac sy’n cael eu codi gyda’r Bwrdd Cenedlaethol
    4. trafodaethau ffurfiol â’r Dirprwy Weinidog ddwywaith y flwyddyn
    5. camau i gomisiynu ymchwil i feysydd sy’n peri pryder neu lle mae angen gwelliant.
Cyfrifoldeb penodol 5: Bydd y Bwrdd Cenedlaethol yn defnyddio mecanweithiau i ymgysylltu’n rheolaidd â phob math o grwpiau cyfeirio, ymarferwyr ac unigolion arbenigol (par. 264)
Gweithgareddau (Sut?)
Ymgysylltu â’r ystod ganlynol o grwpiau cyfeirio arbenigol:
  1. Y Panel Adolygiadau o Farwolaethau ymhlith Plant
  2. Y Bwrdd Pobl Agored i Niwed
  3. Grwpiau a gaiff eu gwahodd i roi cyflwyniadau ar bynciau penodol yng nghyfarfodydd y Bwrdd Cenedlaethol
  4. Y Grŵp Arwain ar Wrthgaethwasiaeth.
Cyfrifoldeb penodol 6: Bydd y Bwrdd Cenedlaethol yn cyhoeddi ei adroddiadau blynyddol ei hun gan gynnwys unrhyw waith arfaethedig. Bydd hefyd yn cynnal digwyddiad neu ddigwyddiadau ymgysylltu blynyddol (par. 265)
Gweithgareddau (Sut?)
  1. Mae proses ar waith i’w gwneud yn bosibl cyfathrebu’n eang â rhanddeiliaid:
    1. Diweddaru gwefan y Bwrdd Cenedlaethol yn rheolaidd er mwyn darparu gwybodaeth berthnasol ac amserol a negeseuon allweddol am ddiogelu mewn fformatau hygyrch.
    2. Cefnogi a hyrwyddo ymgyrchoedd cyhoeddus cenedlaethol y bwriedir iddynt atal niwed oherwydd camdriniaeth, esgeulustod a chamfanteisio, adnabod niwed o’r fath ac ymateb iddo.
    3. Archwilio cyfleoedd i ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaeth a’r cyhoedd.
    4. Ymateb i ymgyngoriadau cenedlaethol perthnasol.
    5. Llunio adroddiad blynyddol erbyn y terfyn amser.
Cyfrifoldeb penodol 7: Mae gan y Bwrdd Cenedlaethol ddyletswydd benodol o dan adran 133(2)(d) o’r Ddeddf i “ymgynghori â’r rhai y gallai trefniadau i ddiogelu oedolion a phlant yng Nghymru effeithio arnynt”. Bydd yn defnyddio’r ddyletswydd honno i wella ei ddealltwriaeth ac ymestyn ei brofiad o ddiogelu ac amddiffyn yng Nghymru (par. 266)
Gweithgareddau (Sut?)
  1. Ystyried canfyddiadau digwyddiadau ymgysylltu a gynhelir gan gomisiynwyr ac eraill
  2. Ystyried canfyddiadau’r Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol, yn dilyn ymateb Llywodraeth Cymru.

Dyletswydd Strategol 3.Gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru ynghylch sut y gellid gwella’r trefniadau hynny (A.132 (2))

Cyfrifoldeb penodol 4: Os bydd…yn nodi thema o bryder…gallai’r Bwrdd Cenedlaethol argymell i Weinidogion Cymru y dylai’r mater gael ei drosglwyddo i’w archwilio gan Lywodraeth Cymru (par. 263)
Gweithgareddau (Sut?)
  1. Caiff argymhellion eu cyflwyno’n ffurfiol i Weinidogion drwy Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Cenedlaethol.
  2. At hynny, caiff argymhellion blaenorol eu monitro ddwywaith y flwyddyn drwy’r cyfarfodydd ffurfiol rhwng y Bwrdd Cenedlaethol a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol.

Cynllun Gwaith y Bwrdd 2018-19

Cynllun Gwaith y Bwrdd 2019-20

Cynllun Gwaith y Bwrdd 2020-21

Cynllun Gwaith y Bwrdd 2021-22

Cynllun Gwaith y Bwrdd 2022-23