Fideo wedi’i animeiddio gan bobl ifanc ynglŷn â’r hyn y dylech ei wneud a’i osgoi wrth ofalu

Page Icon

Mae Bwrdd Diogelu Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi rhannu fideo newydd wedi’i animeiddio, o’r enw ‘The Do’s and Don’ts of Caring’.

Cafodd yr adnodd hwn ar gyfer hyfforddiant ynghylch diogelu ei ddatblygu gan CADW, sef Bwrdd Iau’r Bwrdd Diogelu, er mwyn tynnu sylw at bwysigrwydd cyfathrebu’n dda â phlant a phobl ifanc sy’n ymwneud â phrosesau diogelu.

Cafodd yr adnodd ei lansio’n swyddogol yn ystod Wythnos Genedlaethol Diogelu 2022, gyda chymorth ac ym mhresenoldeb Comisiynydd Plant Cymru. Bwriedir i’r adnodd gael ei ddefnyddio’n rhan o hyfforddiant ynghylch diogelu ar gyfer ymarferwyr.

Gallwch wylio’r fideo yma: https://www.cysur.wales/training/animation-training-resource/