
Mae’n fraint ymgymryd â rôl Cadeirydd y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol ar adeg bwysig i ddiogelu yng Nghymru.
Hoffwn ddechrau drwy gydnabod cyfraniad sylweddol fy rhagflaenydd, Tony Young, sydd wedi bod yn arweinydd cryf ac ymroddedig yn ystod ei gyfnod fel Cadeirydd. Mae gwaith Tony wedi helpu i atgyfnerthu annibyniaeth y Bwrdd, ei amlygrwydd a’i ffocws ar ddysgu a gwella, ac rwy’n ddiolchgar am y sylfeini cadarn y mae’n eu gadael fel gwaddol.
Yn y bôn, mae diogelu’n ymwneud â phobl – ac yn ymwneud â sicrhau bod systemau’n cydweithio yn effeithiol er mwyn atal niwed ac er mwyn ymateb pan fydd pethau’n mynd o chwith. Rôl y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol yw rhoi sicrwydd, herio a hybu gwelliant ar draws trefniadau diogelu yng Nghymru, gan sicrhau bob amser bod profiadau go iawn pobl yn ganolog i’n gwaith.
Cryfhau goruchwyliaeth annibynnol, gan sicrhau bod trefniadau diogelu’n gadarn, yn dryloyw ac yn cael eu herio’n briodol.
Hybu dysgu a gwella, gan ddefnyddio tystiolaeth, dealltwriaeth a dysgu cenedlaethol i helpu byrddau diogelu a phartneriaid i gryfhau ymarfer.
Hyrwyddo cydweithio, gan gydnabod bod diogelu effeithiol yn dibynnu ar weithio’n gryf mewn partneriaeth ar draws asiantaethau, sectorau a chymunedau.
Cynnal annibyniaeth a phwrpas clir, fel bod y Bwrdd yn parhau i ddarparu cyngor hyderus ac adeiladol o fewn y system ddiogelu ehangach.uarding system.
Mae’r cyfnod sydd i ddod yn llawn heriau a chyfleoedd. Mae’r pwysau ar wasanaethau, capasiti’r gweithlu, a chymhlethdod cynyddol pryderon am ddiogelu’n golygu bod arweinyddiaeth gref a chydweithio yn bwysicach nag erioed. Ar yr un pryd, ceir potensial gwirioneddol i adeiladu ar arfer da presennol, ar gyfleoedd i ddysgu ar y cyd ac ar ymrwymiad gweithwyr proffesiynol ledled Cymru.
Rwy’n edrych ymlaen at gydweithio’n agos ag aelodau’r Bwrdd, partneriaid diogelu, cydweithwyr yn Llywodraeth Cymru, a rhanddeiliaid ar draws y system. Rwy’n arbennig o awyddus i sicrhau bod lleisiau pobl sydd â phrofiad go iawn yn llywio ein gwaith ac yn dylanwadu ar y modd y bydd trefniadau diogelu’n parhau i ddatblygu. Mae gan y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol rôl hanfodol i’w chwarae o ran hybu canlyniadau mwy diogel i bobl yng Nghymru. Rwyf wedi ymrwymo i arwain y Bwrdd gydag integriti, didwylledd a ffocws clir ar wella, ac rwy’n edrych ymlaen at y gwaith sydd i ddod.