Title of Page: Safeguarding News

 

Eleni, bydd yr Wythnos Genedlaethol Diogelu yn cael ei chynnal rhwng 14 ac 18 Tachwedd 2022. Ymgyrch cenedlaethol blynyddol yw’r Wythnos Genedlaethol Diogelu, sy’n canolbwyntio ar ystod eang o faterion diogelu sy’n effeithio ar ein cymunedau yng Nghymru.

Bydd pob un o’r Byrddau Diogelu Rhanbarthol yn cydlynu rhaglen o weithgareddau a digwyddiadau addysgu a chodi ymwybyddiaeth, ar gyfer aelodau’r cyhoedd a gweithwyr proffesiynol.

Mae pob rhanbarth yn penderfynu ar thema wahanol, sy’n rhoi i’r Bwrdd Diogelu hwnnw a’i bartneriaid ynghyd ag asiantaethau o fewn y rhanbarth yr hyblygrwydd i drefnu digwyddiadau a gweithgareddau am faterion diogelu sy’n berthnasol i’r gwasanaethau y maent yn eu darparu i’w defnyddwyr gwasanaeth.

Gallwch gael gwybod mwy am thema pob Bwrdd Diogelu a gweld rhestr o’r digwyddiadau a’r gweithgareddau a gynhelir yn yr amryw ranbarthau yma.

#DiogeluCymru

 

Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol Cymru

 

Llywio Dyfodol Diogelu yng Nghymru: Canfyddiadau Prifysgol John Moores Lerpwl 

 

Cynhadledd i nodi Wythnos Genedlaethol Diogelu 2022, a gynhelir gan Fwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol Cymru ar y cyd ag Uned Atal Trais Cymru

Dydd Mercher 16 Tachwedd 2022
10:00 – 15.00

 

 

 

 

Agenda’r bore:

10.00  Cyflwyniad a gair o groeso – Jane Randall, Cadeirydd y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol

10.15  Cyflwyniad gan y Brifysgol ar Ffrwd Waith 1: Safbwyntiau Ymarferwyr – Emma Ball (ac cynnwys 15 munud o drafod ac adborth)

11.00  Cyflwyniad gan y Brifysgol ar Ffrwd Waith 2: Data Rheoli Perfformiad – Michelle McManus (ac cynnwys 15 munud o drafod ac adborth)

11.45  Cyflwyniad gan y Brifysgol ar Ffrwd Waith 3: Safbwynt Defnyddwyr Gwasanaeth – Ellie McCoy (ac cynnwys 15 munud o drafod ac adborth)

12.30  Diwedd sesiwn y bore

 

Agenda’r prynhawn:

13.30  Cyflwyniad – Jane Randall, Cadeirydd y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol

13.35  Prifysgol John Moores Lerpwl: Crynodeb Gweithredol o’r Prif Ganfyddiadau a’r Camau Nesaf (a fydd yn cynnwys trafodaeth 30 munud)

14.30  Cyflwyniad: Jon Drake, Uned Atal Trais Cymru – Gwaith yr Uned a phartneriaid i atal trais ymhlith ieuenctid

14:50  Sylwadau clo

15.00  Gorffen

 

 

Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru

 

Safeguarding-Week-Programme-2022_cy

 

 

 

Bwrdd Diogelu Gwent

 

National-Safeguarding-Week-Programme-Nov-2022-2

 

 

 

 

Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg

Diogelu Ein Cymunedau rhag Camfanteisio

Mae Wythnos Diogelu yn ymgyrch flynyddol, genedlaethol sy’n canolbwyntio ar ystod eang o faterion diogelu sy’n effeithio ar ein cymunedau yng Nghymru. Mae pob un o’r Byrddau Diogelu Rhanbarthol yn cydlynu rhaglen o weithgareddau a digwyddiadau addysgol a chodi ymwybyddiaeth, wedi’u hanelu at y cyhoedd a gweithwyr proffesiynol.

Mae pob rhanbarth yn penderfynu ar thema wahanol ac eleni, thema Cwm Taf Morgannwg yw ecsbloetio.

 

SafeguardingWeek2022ActivitiesProgrammeWelsh

 

Bwrdd Diogelu Rhanbarthol Caerdydd a Bro Morgannwg

 

Thema NSW eleni yw ‘Hanfodion Arfer Diogelu – Yn ôl i’r Hanfodion’.

 

CY-NSW-2022-Final

 

 

Bwrdd Diogelu Gorllewin Morgannwg

 

1-english-wgsb-programme-of-events-for-national-safeguarding-board-2022-updated-28102022-final-ct-2

 

 

Bwrdd Diogelu Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru

 

Symud ymlaen a gwella o’r pandemig

Mae gwrando ar blant a chadw plant ac oedolion sydd mewn perygl yn ddiogel yn greiddiol i raglen eang sy’n cael ei chynnal ar draws Canolbarth a Gorllewin Cymru ar gyfer yr Wythnos Genedlaethol Diogelu, sy’n dechrau ar 14 Tachwedd 2022. Mae’r rhaglen wedi’i chydlynu gan CWMPAS a CYSUR, y Bwrdd Diogelu Rhanbarthol, ac mae wedi’i chynllunio mewn ymateb i rai o’r heriau y mae plant ac oedolion sydd mewn perygl yn eu hwynebu ar eu taith wrth adfer o bandemig COVID-19.

Un o uchafbwyntiau’r wythnos yw lansio a dathlu adnodd hyfforddiant diogelu ac animeiddiad fideo ar gyfer gweithwyr proffesiynol. Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn Stadiwm Parc y Scarlets yn Llanelli. Mae’r animeiddiad fideo wedi’i greu gan blant a phobl ifanc o Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Phowys a bydd yn cael ei lansio’n ffurfiol gan Gomisiynydd Plant Cymru, Rocio Cifuentes.

Yn ystod yr wythnos, byddwn hefyd yn cynnal ystod o ddigwyddiadau, gan gynnwys cynadleddau a gweminarau, a fydd yn ceisio codi ymwybyddiaeth o faterion sy’n effeithio ar blant ac oedolion mewn perygl a’u hamlygu. Mae hyn yn cynnwys cynhadledd amlasiantaeth ar gam-drin domestig sy’n cael ei chynnal gan Heddlu Dyfed–Powys, gweminar yn ailedrych ar rai o’r themâu sy’n gysylltiedig ag adolygiad Ymgyrch Jasmine i esgeuluso pobl hŷn mewn cartrefi gofal, a digwyddiad wedi’i anelu’n benodol at ysgolion a staff addysg i hyrwyddo iechyd a lles emosiynol cadarnhaol plant ar ôl y pandemig. Mewn gweminarau eraill, byddwn hefyd yn dysgu o adolygiadau achos gyda phwyslais ar ddiogelu plant sy’n byw gyda gofalwyr maeth, mabwysiadwyr a gwarcheidwaid arbennig, a nodi pam mae’n rhaid i ymarferwyr a rheolwyr “feddwl am y teulu” bob amser ac ystyried yr oedolyn yn ogystal â’r plentyn.

Cefnogir y rhaglen ranbarthol gan ddigwyddiadau cenedlaethol a gynhelir ar draws Cymru gyfan. Mae hyn yn cynnwys lansio safonau hyfforddi amlasiantaeth newydd sy’n cael eu harwain gan Gofal Cymdeithasol Cymru a digwyddiad sy’n cael ei gynnal gan y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol mewn cydweithrediad â’r Uned Atal Trais ar lunio dyfodol diogelu yng Nghymru.

Mae rhaglen lawn ar gael i’w lawrlwytho isod, ynghyd â dolenni i dudalennau digwyddiadau unigol lle byddwch hefyd yn dod o hyd i adnoddau sy’n ategu themâu allweddol eleni.

Rydym hefyd yn eich gwahodd i’n dilyn ar gyfryngau cymdeithasol – Twitter @CYSURCymru a @CWMPASCymru, Facebook @CYSURCymru ac Instagram @cysurcymru am wybodaeth a’r newyddion diweddaraf am ddiogelu drwy gydol yr wythnos.

www.cysur.wales/national-safeguarding-week-2022

www.cysur.wales/training/animation-training-resource

 

_media_nfwa4q3f_nsgw-2022-programme-cym