Diogelu Mewn Chwaraeon: Cymryd Cyfrifoldeb – Cymryd Camau

Dydd Llun 13 Tachwedd 2017 yn Stadiwm Principality, Caerdydd 

10.30yb-5.00yp

 

Bydd y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru yn cynnal cynhadledd i lansio Wythnos Diogelu 2017.Bydd “Cymryd Cyfrifoldeb – Cymryd Camau” yn digwydd yn Stadiwm y Principality ar Ddydd Llun 13 Tachwedd 2017.

Mae’r dydd yn cyflwyno persbectif newydd ar ddiogelu gyda chyfuniad o sgyrsiau, amser i feddwl a chyfleoedd rhwydweithio Bydd yn rhoi cipolwg gwerthfawr i brofiad pobl o gael eu niweidio yn ogystal â’u gallu i wneud daioni. Bydd Huw irranca Davies AC, Y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant yn agor y gynhadledd,

Gyda chymorth Chwaraeon Cymru, bydd y gynhadledd yn cadarnhau pa mor bwysig yw diogelu i’r holl sefydliadau sydd yn hybu chwaraeon a gweithgareddau corfforol a hamdden. Bydd yn tanlinellu’r ei fod yn hanfodol bod yn ymwybodol o ddiogelu er mwyn atal cam-drin a gall effeithio ar bobl yn gyfrinachol drwy gydol eu hoes.

Bydd cyn nofiwr elît Karen Leach yn disgrifio ei phrofiad o gamdriniaeth gan ei hyfforddwr. Bydd yr Internet Watch foundation yn siarad am eu gwaith diogelu gyda chlwb pêl-droed Everton, a bydd cynrychiolwyr yn clywed am Chwaraeon Cymru a Phartneriaeth Diogelu mewn Chwaraeon Cymru.

Bydd Joe Powell, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan, yn siarad am ei brofiad o’r system gofal a’r niwed sy’n gall ddod o beidio talu sylw i bobl ag anableddau dysgu. Bydd y Sylfaen Jacob Abraham yn tynnu sylw at effaith cyffuriau ar iechyd meddwl pobl ifanc a sut gall rhieni adeiladu rhywbeth ysbrydoledig o drychineb anhygoel.

Dywedodd Dr Margaret Flynn, Cadeirydd y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol: “Mae chwaraeon o fudd i iechyd a lles unigolion a chymunedau. Gallwn ddysgu cymaint o brofiadau a gwydnwch y siaradwyr bu’n fuddugol mewn nerth ac urddas er y difrod a gwnaed i’w bywydau.

Cliciwch yma i archebu lle!

 #BDACwd17