Mae 21 Mawrth 2022 yn foment hanesyddol i blant a’u hawliau yng Nghymru. O’r diwrnod hwn ymlaen, bydd cosbi plant yn gorfforol yn anghyfreithlon yng Nghymru.
Er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r newid hwn yn y gyfraith, mae Llywodraeth Cymru yn lansio’r ymgyrch Stopio Cosbi Corfforol ddydd Mawrth 21 Medi, chwe mis cyn i’r newid ddod i rym.
Yn rhan o’r lansiad, bydd gan y Llywodraeth hysbysebion ar y teledu a’r radio ac ar sianelau ar gyfryngau cymdeithasol.
I gael mwy o wybodaeth am y newid yn y gyfraith, cliciwch yma.
I weld adnoddau’r ymgyrch, cliciwch yma.
044700 - CAMPAIGN LEAFLET A4 - WELSH - ACCESSIBLE