Cynllun Gwaith y Bwrdd 2022-23

Cyflwyniad

Dyletwyddau a Chyfrifoldebau’r Bwrdd Cenedlaethol

Mae gan y Bwrdd Cenedlaethol dair prif ddyletswydd sydd wedi dylanwadu ar ein cynllun gwaith, sef:

  1. To Darparu cymorth a chyngor i Fyrddau Diogelu, gyda’r nod o sicrhau eu bod yn effeithiol
  2. To Adrodd ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd trefniadau i ddiogelu plant ac oedolion yng Nghymru
  3. Gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru ynghylch sut y gellid gwella’r trefniadau hynny (A.132 (2)).

At hynny, mae wyth o gyfrifoldebau penodol y Bwrdd Cenedlaethol yn cael eu hegluro yn Gweithio Gyda’n Gilydd i Ddiogelu Pobl, sef y Canllawiau ynghylch Diogelu, dan Ran 7 y Ddeddf. Hynny yw:

  1. [Mae’r Bwrdd Cenedlaethol yn]gweithio ochr yn ochr â Byrddau Diogelu Oedolion a Byrddau Diogelu Plant i sicrhau gwelliannau cyson i bolisïau ac arferion diogelu ledled Cymru (par. 246)
  2. Bydd [y Bwrdd Cenedlaethol] yn ymgysylltu â chadeiryddion y Byrddau Diogelu, ac arolygiaethau perthnasol…o leiaf ddwywaith y flwyddyn (par. 258)
  3. Bydd aelodau’r Bwrdd Cenedlaethol yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am agweddau polisi a thystiolaeth ar ddiogelu ac amddiffyn mewn rhannau eraill o’r DU a thu hwnt er mwyn dysgu o’r rheini a gwerthuso perfformiad cymharol Cymru (par. 261)
  4. Os bydd…yn nodithema o bryder… gallai’r Bwrdd Cenedlaethol argymell i Weinidogion Cymru y dylai’r mater gael ei drosglwyddo i’w archwilio gan Lywodraeth Cymru neu’r arolygiaeth berthnasol (par. 263)
  5. Bydd y Bwrdd Cenedlaethol yn defnyddio mecanweithiau iymgysylltu’n rheolaidd â phob math o grwpiau cyfeirio,, ymarferwyr ac unigolion arbenigol (par. 264)
  6. Bydd y Bwrdd Cenedlaethol yncyhoeddi ei adroddiadau blynyddol ei hun gan gynnwys unrhyw waith arfaethedig.. Bydd hefyd yn cynnal digwyddiad neu ddigwyddiadau ymgysylltu blynyddol (par. 265)
  7. Mae gan y Bwrdd Cenedlaethol ddyletswydd benodol o dan adran 133(2)(d) o’r Ddeddf i “ymgynghori â’r rhai y gallai trefniadau i ddiogelu oedolion a phlant yng Nghymru effeithio arnynt”. Bydd yn defnyddio’r ddyletswydd honno i wella ei ddealltwriaeth ac ymestyn ei brofiad o ddiogelu ac amddiffyn yng Nghymru (par. 266)
  8. Bydd y Bwrdd Cenedlaethol yn ystyried yr hyn a ddysgwyd o weithgareddau ‘ymgysylltu â defnyddwyr’ y Byrddau Diogelu (par. 266).

Cynllun Gwaith 2022/23

Dyletswydd Strategol 1. Darparu cymorth a chyngor i Fyrddau Diogelu, gyda’r nod o sicrhau eu bod yn effeithiol:

Cyfrifoldeb penodol 1: [Mae’r Bwrdd Cenedlaethol yn] gweithio ochr yn ochr â Byrddau Diogelu Oedolion a Byrddau Diogelu Plant i sicrhau gwelliannau cyson i bolisïau ac arferion diogelu ledled Cymru (par. 246)
Gweithgareddau
  1. Er mwyn sicrhau gwelliannau cyson i bolisïau ac arferion diogelu ledled Cymru, bydd yr aelodau yn mynychu cyfarfodydd y Byrddau Diogelu Rhanbarthol ac yn cynnig cyngor a chymorth ynddynt.
  2. Bydd yr aelodau yn datblygu trosolwg o waith diogelu a themâu a materion sy’n dod i’r amlwg, fel a ganlyn:
    1. Byddant yn ymgysylltu ac yn cwrdd yn rheolaidd â Rheolwyr Busnes
    2. Byddant yn cynnwys adolygiad a chrynodeb o waith y Byrddau Diogelu Rhanbarthol yn Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Cenedlaethol
    3. Byddant yn mynychu diwrnodau datblygu’r Byrddau Diogelu Rhanbarthol
    4. Byddant yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a’r Byrddau Diogelu Rhanbarthol i ddatblygu, cefnogi a chynnal seminarau a gweminarau yn ystod yr Wythnos Ddiogelu.
Cyfrifoldeb penodol 2: Bydd [y Bwrdd Cenedlaethol] yn ymgysylltu â chadeiryddion y Byrddau Diogelu, ac arolygiaethau perthnasol…o leiaf ddwywaith y flwyddyn (par. 258)
Gweithgareddau
  1. Bydd yr aelodau yn sicrhau bod y Bwrdd Cenedlaethol yn ymwybodol o faterion a themâu diogelu sy’n dod i’r amlwg ac sy’n effeithio ar y Byrddau Diogelu Rhanbarthol drwy:
    1. Gyfarfodydd bob deufis â chadeiryddion y Byrddau Diogelu Rhanbarthol
  2. Bydd yr aelodau hefyd yn sicrhau trafodaethau dwy ffordd â sefydliadau yng Nghymru sy’n ymwneud â diogelu, drwy:
    1. Nodi’r sefydliadau sy’n ymwneud â’r dirwedd ddiogelu yng Nghymru, gan gynnwys:
      1. Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
      2. Comisiynydd Plant Cymru
      3. Gofal Cymdeithasol Cymru
      4. Cyngor y Gweithlu Addysg
      5. Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
      6. Yr Uned Atal Trais
Gweithgareddau
  1. Bydd yr aelodau yn sicrhau bod llais defnyddwyr gwasanaeth yn dylanwadu ar waith y Bwrdd, drwy’r canlynol:
    1. Ffrwd waith 3 Llywio Dyfodol Diogelu² yng Nghymru¹
    2. Themâu’r Adolygiad Unedig Sengl o Waith Diogelu a gwaith ymgysylltu â theuluoedd a chymunedau.
  2. Casglu gwybodaeth o adroddiadau blynyddol y Byrddau Diogelu Rhanbarthol.
  3. Sicrhau bod gwersi o waith ymgysylltu â defnyddwyr yn cael eu rhannu’n eang.

¹ Ym mis Chwefror 2021, cafodd Prifysgol John Moores Lerpwl ei chomisiynu gan y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol i gyflawni ymchwil er mwyn archwilio a deall trefniadau diogelu ledled Cymru. Nod yr ymchwil yw nodi sut beth yw da a darparu argymhellion i Weinidogion Llywodraeth Cymru. Mae’r prosiect ‘Llywio Dyfodol Diogelu yng Nghymru’ yn cynnwys tair ffrwd waith: Ffrwd waith 1: Gwerthusiad o Effeithiolrwydd Trefniadau Diogelu Gweithredol Amlasiantaeth yng Nghymru – Cam II, Ffrwd waith 2: Datblygu Fframwaith Perfformiad Cenedlaethol ar gyfer Diogelu Statudol, Ffrwd waith 3: Negeseuon gan bobl.

² Yn 2018, gwnaeth adolygiad academaidd a gynhaliwyd gan yr Athro Amanda Robinson o Brifysgol Caerdydd ac adolygiad ymarferwyr Llywodraeth Cymru o Adolygiadau Dynladdiad Domestig, Adolygiadau Ymarfer Oedolion, Adolygiadau Dynladdiad Iechyd Meddwl ac Adolygiadau Ymarfer Plant, a gynhaliwyd gan Liane James, argymhellion ynghylch deddfwriaeth, trefniadau llywodraethu, polisi, proses, storfa ganolog, llyfrgell genedlaethol, a dysgu a hyfforddi.
Tynnodd y ddau adolygiad sylw at yr angen i wella trefniadau cydgysylltu, cydweithredu, cyfathrebu a llywodraethu wrth gynnal adolygiadau diogelu yng Nghymru. Amlygodd y gwaith y cymhlethdod sy’n codi pan fydd cyrff sydd wedi ac sydd heb eu datganoli yn cynnal adolygiadau ar eu pen eu hunain ac weithiau heb fod Llywodraeth Cymru yn gwybod amdanynt nac yn cymryd rhan ynddynt. Roedd hynny’n creu tirwedd adolygu anniben yng Nghymru.
Felly, cafodd argymhellion eu gwneud a’u derbyn gan Weinidogion ynghylch yr angen i gael un proses adolygu, gydag un corff yn cyflawni gwaith llywodraethu trosfwaol sy’n gysylltiedig â storfa ganolog er mwyn hwyluso gwaith dysgu a hyfforddi ar draws Cymru.

Dyletswydd Strategol 2. Adrodd ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd trefniadau i ddiogelu plant ac oedolion yng Nghymru

Cyfrifoldeb penodol 3: Bydd aelodau’r Bwrdd Cenedlaethol yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am agweddau polisi a thystiolaeth ar ddiogelu ac amddiffyn [gan gynnwys] mewn rhannau eraill o’r DU a thu hwnt er mwyn dysgu o’r rheini a gwerthuso perfformiad cymharol Cymru (par. 261)
Gweithgareddau
  1. Bydd y Bwrdd Cenedlaethol yn rhannu’r gwersi y gellir eu dysgu o adolygiadau unigol a gynhelir yn lleol ac yn genedlaethol ac mewn rhannau eraill o’r DU, a bydd yn darparu cyngor ynghylch ffyrdd o ddysgu gwersi.
  2. Bydd Cam 2 Llywio Dyfodol Diogelu yng Nghymru yn sail i’r gweithgaredd hwn, a bydd yn manteisio’n benodol ar ganfyddiadau gwerthusiad Prifysgol John Moores Lerpwl o drefniadau diogelu ‘drws ffrynt’ amlasiantaeth.
  3. Darparu aelodaeth i’r Bwrdd Gweinidogol sy’n gyfrifol am sicrhau’r gwaith dysgu eang a nodir drwy Storfa Cymru ar gyfer Adolygiadau Diogelu.
  4. Ymgysylltu â ffrydiau gwaith perthnasol er mwyn datblygu proses yr Adolygiad Unedig Sengl o Waith Diogelu – gan gynnwys y Grŵp Llywio a’r corff a fydd yn ei olynu, y Grŵp Materion Cyfreithiol a Llywodraethu a Grŵp y Storfa Ganolog.
  5. Cymryd rhan mewn gweminarau a chynadleddau ar draws y Pum Gwlad a’u cefnogi.
  6. Comisiynu adolygiadau thematig Cymreig pan fo angen.
Cyfrifoldeb penodol 4: Os bydd…yn nodi thema o bryder … gallai’r Bwrdd Cenedlaethol argymell i Weinidogion Cymru y dylai’r mater gael ei drosglwyddo i’w archwilio gan Lywodraeth Cymru neu’r arolygiaeth berthnasol (par. 263)
Gweithgareddau
  1. Caiff materion sy’n dod i’r amlwg eu nodi er mwyn llywio’r gwaith o ddatblygu systemau a phrosesau diogelu ac er mwyn dylanwadu ar y gwaith hwnnw.
  2. Bydd Cam 2 Llywio Dyfodol Diogelu yng Nghymru yn sail i’r gweithgaredd hwn, a bydd yn manteisio’n benodol ar Fframwaith Perfformiad Diogelu Amlasiantaeth Cymru Gyfan a ddisgwylir, sy’n cael ei ddatblygu yn rhan o’r rhaglen.
  3. Bydd themâu sy’n peri pryder yn cael eu rhannu â’r Byrddau Diogelu Rhanbarthol, ac adroddir yn eu cylch wrth Weinidogion Cymru a swyddogion Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau ateb ar lefel Cymru gyfan.
  4. Cymerir rhan mewn cyfarfodydd rheolaidd â chadeiryddion y Byrddau Diogelu Rhanbarthol a Llywodraeth Cymru.
  5. Ceir trafodaethau effeithiol â rheoleiddwyr ac arolygiaethau gwasanaethau cyhoeddus er mwyn ystyried unrhyw bryderon diogelu ac unrhyw ddatblygiadau neu welliannau i drefniadau diogelu, er mwyn adnabod themâu sy’n peri pryder:
    1. Arolygiaeth Gofal Cymru
    2. Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru
    3. Swyddfa Archwilio Cymru
    4. Estyn
    5. Arolygiaeth Carchardai Ei Mawrhydi
    6. Arolygiaeth Prawf Ei Mawrhydi
    7. Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhyd
  6. Cysylltir â Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru a Chomisiynydd Plant Cymru ynghylch materion diogelu sy’n dod i’r amlwg, er mwyn cael cynghreiriau effeithiol.
  7. Caiff materion penodol sy’n peri pryder ac yr adroddwyd yn eu cylch yn flaenorol eu monitro, ac adroddir ynghylch y cynnydd a wneir mewn cysylltiad â nhw. Ar gyfer 2022-23:
    1. Canllawiau statudol ynghylch plant sy’n cael addysg ddewisol yn y cartref.
    2. Fframwaith rheoleiddio ar gyfer ysgolion annibynnol a Chyngor y Gweithlu Addysg.
Cyfrifoldeb penodol 5: Bydd y Bwrdd Cenedlaethol yn defnyddio mecanweithiau i ymgysylltu’n rheolaidd â phob math o grwpiau cyfeirio, ymarferwyr ac unigolion arbenigol (par. 264)
Gweithgareddau
  1. Mae fframwaith sicrwydd a gytunwyd ar waith er mwyn penderfynu ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd trefniadau diogelu yng Nghymru, drwy:
    1. Yr Uned Atal Trais
    2. Panel Adolygiadau o Farwolaethau ymhlith Plant
    3. Grŵp Cynghori Allanol Llywodraeth Cymru ar Blant a Phobl Ifanc
    4. Grwpiau a gaiff eu gwahodd i roi cyflwyniadau ar bynciau penodol yng nghyfarfodydd y Bwrdd Cenedlaethol
Cyfrifoldeb penodol 6: Bydd y Bwrdd Cenedlaethol yn cyhoeddi ei adroddiadau blynyddol ei hun gan gynnwys unrhyw waith arfaethedig. Bydd hefyd yn cynnal digwyddiad neu ddigwyddiadau ymgysylltu blynyddol (par. 265)
Gweithgareddau
  1. Mae proses ar waith i’w gwneud yn bosibl cyfathrebu’n eang â rhanddeiliaid.
    1. Diweddaru gwefan y Bwrdd Cenedlaethol yn rheolaidd er mwyn darparu gwybodaeth berthnasol ac amserol a negeseuon allweddol am ddiogelu mewn fformatau hygyrch.
    2. Cefnogi a hyrwyddo ymgyrchoedd cyhoeddus cenedlaethol y bwriedir iddynt atal niwed oherwydd camdriniaeth, esgeulustod a chamfanteisio, adnabod niwed o’r fath ac ymateb iddo.
    3. Cefnogi’r Wythnos Genedlaethol Diogelu a threfnu gweminar flynyddol.
    4. Archwilio cyfleoedd i ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaeth a’r cyhoedd.
    5. Ymateb i ymgyngoriadau cenedlaethol perthnasol.
    6. Llunio adroddiad blynyddol erbyn y terfyn amser.
Cyfrifoldeb penodol 7: Mae gan y Bwrdd Cenedlaethol ddyletswydd benodol o dan adran 133(2)(d) o’r Ddeddf i “ymgynghori â’r rhai y gallai trefniadau i ddiogelu oedolion a phlant yng Nghymru effeithio arnynt”. Bydd yn defnyddio’r ddyletswydd honno i wella ei ddealltwriaeth ac ymestyn ei brofiad o ddiogelu ac amddiffyn yng Nghymru (par. 266)
Gweithgareddau
  1. Ystyried canfyddiadau digwyddiadau ymgysylltu a gynhelir gan gomisiynwyr ac eraill
  2. Ystyried argymhelliad yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol³
  3. Llywio Dyfodol Diogelu yng Nghymru: Ffrwd waith 3 – ‘Negeseuon gan bobl’

Dyletswydd Strategol 3. Gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru ynghylch sut y gellid gwella’r trefniadau hynny (A.132 (2)).

Cyfrifoldeb penodol 4: Os bydd…yn nodi thema o bryder … gallai’r Bwrdd Cenedlaethol argymell i Weinidogion Cymru y dylai’r mater gael ei drosglwyddo i’w archwilio gan Lywodraeth Cymru neu’r arolygiaeth berthnasol (par. 263)
Gweithgareddau
  1. Caiff themâu sy’n peri pryder eu hadnabod a’u huwchgyfeirio er mwyn rhoi mesurau priodol ar waith. Bydd y themâu hynny’n cael eu codi drwy’r canlynol:
    1. y cyfarfodydd misol â swyddogion Llywodraeth Cymru
    2. canlyniad tystiolaeth o ymchwil, adolygiadau neu waith ymgysylltu â grwpiau cyfeirio arbenigol, gan gynnwys y Byrddau Diogelu Rhanbarthol
    3. gwaith cyfathrebu ysgrifenedig ynghylch themâu sy’n peri pryder ac sy’n cael eu codi gyda’r Bwrdd Cenedlaethol
    4. trafodaethau ffurfiol â’r Dirprwy Weinidog ddwywaith y flwyddyn
    5. camau i gomisiynu ymchwil i feysydd sy’n peri pryder neu lle mae angen gwelliant, ee Llywio Dyfodol Diogelu yng Nghymru.

³ Cafodd yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol ei sefydlu yn 2015 i gasglu tystiolaeth am y graddau y mae sefydliadau sy’n perthyn i’r wladwriaeth yng Nghymru a Lloegr, a sefydliadau nad ydynt yn perthyn iddi, wedi methu yn eu dyletswydd gofal i amddiffyn plant rhag pobl a allai eu cam-drin yn rhywiol a phobl a allai gamfanteisio’n rhywiol arnynt. Roedd agor swyddfa Cymru ym mis Hydref 2016 yn ddatblygiad o bwys yn hynt yr Ymchwiliad. Mae wedi helpu i sicrhau bod yr Ymchwiliad yn cyrraedd pawb sydd wedi dioddef ac sydd wedi goroesi achosion o gam-drin plant yn rhywiol. Bydd y tri phrosiect, sef Gwrandawiadau Cyhoeddus, Ymchwil a’r Gwirionedd, i gyd yn gwneud cyfraniad hollbwysig i’r argymhellion er mwyn amddiffyn plant yn well yn y dyfodol. Byddant hefyd yn chwarae rhan hanfodol o safbwynt sicrhau atebolrwydd am fethiannau’r gorffennol. Gyda’i gilydd bydd y wybodaeth, y profiadau a’r dystiolaeth a geir yn sail i’r casgliadau cyffredinol ac i argymhellion y Cadeirydd a’r Panel.

Cynllun Gwaith y Bwrdd 2018-19

Cynllun Gwaith y Bwrdd 2019-20

Cynllun Gwaith y Bwrdd 2020-21

Cynllun Gwaith y Bwrdd 2021-22

Cynllun Gwaith y Bwrdd 2022-23