Cyflwyniad
Dyletswyddau a chyfrifoldebau’r Bwrdd Cenedlaethol
Mae gan y Bwrdd Cenedlaethol dair prif ddyletswydd sydd wedi dylanwadu ar ein cynllun gwaith, sef:
At hynny, mae wyth o gyfrifoldebau penodol y Bwrdd Cenedlaethol yn cael eu hegluro yn Gweithio Gyda’n Gilydd i Ddiogelu Pobl, sef y Canllawiau ynghylch Diogelu, dan Ran 7 y Ddeddf. Hynny yw:
Y CYNLLUN GWAITH
1. Darparu cymorth a chyngor i Fyrddau Diogelu, gyda’r nod o sicrhau eu bod yn effeithiol: | ||
Nod Strategol 1. Negeseuon cenedlaethol am ddiogelu Bydd y Bwrdd Cenedlaethol yn ymgysylltu â’r cyhoedd ynghylch diogelu. | ||
Camau gweithredu arfaethedig | Dulliau o fesur deilliannau | Dyddiad cyflawni |
• Sicrhau bod prosesau ar waith i’w gwneud yn bosibl nodi negeseuon allweddol drwy gytundeb â rhanddeiliaid. • Pennu hyd a lled y gallu i ddefnyddio platfformau’r cyfryngau digidol sydd ar gael ac sy’n briodol er mwyn ymgysylltu â’r cyhoedd. Adnabod bylchau mewn adnoddau. • Adolygu gwefan gyhoeddus y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol er mwyn hybu’r gwaith o gyflawni’r amcan. Adnabod bylchau mewn adnoddau ar gyfer gwaith cyflawni. • Arwain a chefnogi ymgyrchoedd diogelu, ar ei ben ei hun neu gyda rhanddeiliaid eraill, er mwyn hyrwyddo gwybodaeth gyhoeddus gan gynnwys gweithgareddau’r Wythnos Ddiogelu. • Archwilio cyfleoedd i gael safbwyntiau’r cyhoedd. • Cyfieithu. | • Dinasyddion Cymru yn cael gwybodaeth i hybu eu gallu i weithredu er mwyn atal camdriniaeth, esgeulustod a chamfanteisio, neu er mwyn eu hamddiffyn eu hunain neu amddiffyn pobl eraill rhag camdriniaeth, esgeulustod a chamfanteisio. • Mae gwybodaeth yn berthnasol, yn ddwyieithog ac yn hygyrch. • Ceir safbwyntiau’r cyhoedd. • Sicrheir bod unrhyw gyfathrebu’n hollol ddwyieithog. | 31 Mawrth 2022 |
Nod Strategol 2. Dysgu o adolygiadau | ||
Camau gweithredu arfaethedig | Dulliau o fesur deilliannau | Dyddiad cyflawni |
• Weminar i rannu canfyddiadau adolygiadau, gan gynnwys Adolygiad Kris Wade Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru. • Gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar yr Adolygiad Unedig Sengl o Waith Diogelu. • Cyfrannu i adolygiad cenedlaethol a chymryd rhan yn y gwaith o lywodraethu adolygiadau dysgu (Adolygiadau Dynladdiad Domestig, Adolygiadau Ymarfer Oedolion, Adolygiadau Ymarfer Plant). • Comisiynu diweddariad ynghylch yr adolygiad thematig o Adolygiadau Ymarfer Plant. • Comisiynu ymchwil i Ddiogelu Oedolion. | • Caiff gwersi eu dysgu o bob adolygiad unigol yn lleol ac yn genedlaethol. | 31 Mawrth 2022 |
Nod Strategol 3. Darparu cymorth a chyngor ynghylch eu heffeithiolrwydd i fyrddau diogelu | ||
Camau gweithredu arfaethedig | Dulliau o fesur deilliannau | Dyddiad cyflawni |
• Aelodau’r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol yn mynychu cyfarfodydd Byrddau Diogelu Rhanbarthol ac yn cymryd rhan ynddynt. • Y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol yn datblygu trosolwg o gynlluniau gwaith y Byrddau Diogelu Rhanbarthol a themâu a materion sy’n dod i’r amlwg. | • Mae enghreifftiau o’r cymorth a’r cyngor a ddarparwyd yn cael eu hadlewyrchu mewn cyfarfodydd â Gweinidogion a Chadeiryddion Byrddau Rhanbarthol ac yn Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Cenedlaethol. | 31 Mawrth 2022 |
Nod Strategol 4. Ymateb i themâu sy’n dod i’r amlwg | ||
Camau gweithredu arfaethedig | Dulliau o fesur deilliannau | Dyddiad cyflawni |
• Mae’r Bwrdd yn cael ymholiadau o ganlyniad i’w waith. Mae cylch gwaith y Bwrdd yn ymestyn fel ei fod yn cynnwys darparu cyngor a chymorth. • Ymateb i ymgyngoriadau ynghylch diogelu. | • Adroddiad Blynyddol sy’n cofnodi’n effeithiol themâu sy’n dod i’r amlwg. | 31 Mawrth 2022 |
2. Adrodd ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd trefniadau i ddiogelu plant ac oedolion yng Nghymru: | ||
Nod Strategol 5. Adroddiad Blynyddol ar effeithiolrwydd trefniadau yng Nghymru | ||
Camau gweithredu arfaethedig | Dulliau o fesur deilliannau | Dyddiad cyflawni |
• Llunio Adroddiad Blynyddol erbyn 31.10.2021. • Cyfarfodydd misol y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol. • Cynllun gwaith. | • Argymhellion ynghylch sut y gellid gwella’r trefniadau hynny. | 31 Rhagfyr 2021 |
Nod Strategol 6. Ymgysylltu â chadeiryddion Byrddau Diogelu Rhanbarthol | ||
Camau gweithredu arfaethedig | Dulliau o fesur deilliannau | Dyddiad cyflawni |
• Cyfarfodydd chwarterol rhwng y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol, Llywodraeth Cymru a chadeiryddion y Byrddau Diogelu Rhanbarthol. | • Cylch gorchwyl y cytunwyd arno, sy’n egluro sut y dylai’r cyrff hyn gydweithio. Datblygu blaenoriaethau cyffredin ar gyfer gweithio mewn modd cydweithredol. • Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol. | 31 Mawrth 2022 |
Nod Strategol 7.Ymgysylltu â rheolwyr busnes | ||
Camau gweithredu arfaethedig | Dulliau o fesur deilliannau | Dyddiad cyflawni |
• Cyfarfodydd chwarterol rhwng y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol, Llywodraeth Cymru a rheolwyr busnes y Byrddau Diogelu Rhanbarthol. | • Datblygu blaenoriaethau cyffredin ar gyfer gweithio mewn modd cydweithredol. • Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol. | 31 Mawrth 2022 |
Nod Strategol 8. Ymgysylltu ag arolygiaethau | ||
Camau gweithredu arfaethedig | Dulliau o fesur deilliannau | Dyddiad cyflawni |
Cyfarfod ag: • Arolygiaeth Gofal Cymru • Swyddfa Archwilio Cymru • Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru • Estyn • Arolygiaeth Carchardai Ei Mawrhydi • Arolygiaeth Prawf Ei Mawrhydi • Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi • Arolygiaethau ar y cyd | • Datblygu fframwaith sicrwydd y cytunwyd arno, er mwyn penderfynu ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd trefniadau yng Nghymru. • Cyfrannu at werthuso’r cydarolygiad a gynhaliwyd fel prosiect peilot yng Nghasnewydd. | 31 Mawrth 2022 |
Nod Strategol 9. Ymgysylltu â sefydliadau rhanddeiliaid allweddol Ymgysylltu â rhanddeiliaid/defnyddwyr gwasanaeth | ||
Camau gweithredu arfaethedig | Dulliau o fesur deilliannau | Dyddiad cyflawni |
Pob aelod o’r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol i gadw mewn cysylltiad â sefydliad penodol: • Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru • Comisiynydd Plant Cymru • Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru • Comisiynydd Heddlu a Throseddu • Iechyd Cyhoeddus Cymru • Gofal Cymdeithasol Cymru • Cyngor y Gweithlu Addysg • Y Comisiwn Elusennau trwy Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru | • Ymgysylltu’n effeithiol â defnyddwyr gwasanaeth. • Ymgysylltu’n effeithiol â rhanddeiliaid a defnyddwyr gwasanaeth. | 31 Mawrth 2022 |
Nod Strategol 10. Llywio Dyfodol Diogelu yng Nghymru (cariwyd ymlaen o 2020/21): Ffrwd waith 1: Gwerthusiad o Effeithiolrwydd Trefniadau Diogelu Gweithredol Amlasiantaeth yng Nghymru. Ffrwd waith 2: Datblygu Fframwaith Perfformiad Cenedlaethol ar gyfer Diogelu Statudol Ffrwd waith 3: Negeseuon gan bobl | ||
Camau gweithredu arfaethedig | Dulliau o fesur deilliannau | Dyddiad cyflawni |
• Dilyn Cam 1 a gyflawnwyd yn rhan o gynllun gwaith 2019/20. • Bydd y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol yn edrych ar yr argymhellion ac yn adrodd i’r Gweinidog. • Cyfarfodydd y grŵp rhanddeiliaid (2) – Sicrhau bod y grŵp rhanddeiliaid yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd a chanfyddiadau. • Mapio modelau a ddefnyddir ar hyn o bryd ar draws Cymru a gweddill y DU. | • Fframwaith Egwyddorion. • Datblygu fframwaith sicrwydd y cytunwyd arno, er mwyn penderfynu ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd trefniadau yng Nghymru. | 30 Ebrill 2022 |
3. Gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru ynghylch sut y gellid gwella’r trefniadau hynny (A.132 (2)): | ||
Nod Strategol 11. Cyfarfodydd â’r Gweinidog | ||
Camau gweithredu arfaethedig | Dulliau o fesur deilliannau | Dyddiad cyflawni |
• 2 gyfarfod y flwyddyn. • Trwy’r Adroddiad Blynyddol. • Codi materion penodol wrth iddynt godi. | • Sicrhau bod y Gweinidog yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am faterion sy’n dod i’r amlwg a cheisio cyngor yn ôl yr angen. | Haf 2021 Rhagfyr 2021 |
Cynllun Gwaith y Bwrdd 2018-19
Cynllun Gwaith y Bwrdd 2019-20
Cynllun Gwaith y Bwrdd 2020-21