Cyflwyniad
Dyletswyddau a Chyfrifoldebau’r Bwrdd Cenedlaethol
Mae gan y Bwrdd Cenedlaethol dair prif ddyletswydd sydd wedi dylanwadu ar ein cynllun gwaith, sef:
1. Darparu cymorth a chyngor 1 i Fyrddau Diogelu, gyda’r nod o sicrhau eu bod yn effeithiol
2. Adrodd ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd trefniadau i ddiogelu plant ac oedolion yng Nghymru
3. Gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru ynghylch sut y gellid gwella’r trefniadau hynny (A.132 (2)).
At hynny, mae wyth o gyfrifoldebau penodol y Bwrdd Cenedlaethol yn cael eu hegluro yn Gweithio Gyda’n Gilydd i Ddiogelu Pobl,
sef y Canllawiau ynghylch Diogelu, dan Ran 7 y Ddeddf. Hynny yw:
1) [Mae’r Bwrdd Cenedlaethol yn] gweithio ochr yn ochr â Byrddau Diogelu Oedolion a Byrddau Diogelu Plant i sicrhau
gwelliannau cyson i bolisïau ac arferion diogelu ledled Cymru (par. 246)
2) Bydd [y Bwrdd Cenedlaethol] yn ymgysylltu â chadeiryddion y Byrddau Diogelu, ac arolygiaethau perthnasol…o leiaf
ddwywaith y flwyddyn (par. 258)
3) Bydd aelodau’r Bwrdd Cenedlaethol yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am agweddau polisi a thystiolaeth ar ddiogelu ac
amddiffyn mewn rhannau eraill o’r DU a thu hwnt er mwyn dysgu o’r rheini a gwerthuso perfformiad cymharol Cymru (par.
261)
4) Os bydd…yn nodi thema o bryder…gallai’r Bwrdd Cenedlaethol argymell i Weinidogion Cymru y dylai’r mater gael ei
drosglwyddo i’w archwilio gan Lywodraeth Cymru neu’r arolygiaeth berthnasol (par. 263)
5) Bydd y Bwrdd Cenedlaethol yn defnyddio mecanweithiau i ymgysylltu’n rheolaidd â phob math o grwpiau cyfeirio,
ymarferwyr ac unigolion arbenigol (par. 264)
6) Bydd y Bwrdd Cenedlaethol yn cyhoeddi ei adroddiadau blynyddol ei hun gan gynnwys unrhyw waith arfaethedig.
Bydd hefyd yn cynnal digwyddiad neu ddigwyddiadau ymgysylltu blynyddol (par. 265)
7) Mae gan y Bwrdd Cenedlaethol ddyletswydd benodol o dan adran 133(2)(d) o’r Ddeddf i “ymgynghori â’r rhai y gallai
trefniadau i ddiogelu oedolion a phlant yng Nghymru effeithio arnynt”. Bydd yn defnyddio’r ddyletswydd honno i wella ei
ddealltwriaeth ac ymestyn ei brofiad o ddiogelu ac amddiffyn yng Nghymru (par. 266)
8) Bydd y Bwrdd Cenedlaethol yn ystyried yr hyn a ddysgwyd o weithgareddau ‘ymgysylltu â defnyddwyr’ y Byrddau
Diogelu (par. 266).
Y Cynllun Gwaith
1. Darparu cymorth a chyngor i Fyrddau Diogelu, gyda’r nod o sicrhau eu bod yn effeithiol | ||
Cynllun | Cwmpas a Dulliau | Deilliannau |
Datblygu ymgyrch cenedlaethol codi ymwybyddiaeth i Gymru Mae’r Bwrdd Cenedlaethol yn gyfrifol am ymgysylltu â’r cyhoedd yn gyffredinol ynghylch diogelu ond nid yw wedi gallu mynd i’r afael â hynny eto. Er gwaethaf ymgyrchoedd a gweithgarwch sylweddol gan fyrddau rhanbarthol i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd, nid yw’r cyhoedd yn gyffredinol yn gwybod llawer o hyd am rôl asiantaethau a gwaith Byrddau Diogelu Rhanbarthol, heblaw pan geir adroddiadau yn y cyfryngau pan gaiff adolygiadau eu cyhoeddi. | Mae’r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a Byrddau Rhanbarthol Diogelu Plant ac Oedolion: • Yn cytuno ar negeseuon allweddol yn genedlaethol ar gyfer y 12 mis nesaf • Yn hwyluso ymgyrch ar gyfryngau cymdeithasol • Yn cynorthwyo gyda chynnwys ar y wefan • Yn dylanwadu ar thema’r wythnos ddiogelu • Yn penderfynu ar negeseuon allweddol gan randdeiliaid a defnyddwyr gwasanaeth. | Cynyddu’r cyfleoedd i’r cyhoedd yn gyffredinol ymgysylltu â byrddau diogelu neu’r asiantaethau sy’n rhan ohonynt. |
Y Wefan | • Ailwampio’r wefan bresennol trwy dendr caffael newydd. • Cynnal a chadw’r wefan newydd yn barhaus bob mis. | Gwefan y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol yn fwy cyfredol ac yn haws ei defnyddio. |
Dysgu o adolygiadau | • Cyhoeddi adolygiad thematig o Adolygiadau Ymarfer Plant. • Seminar i rannu canfyddiadau adolygiadau, gan gynnwys Adolygiad Chris Wade Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru. • Cytuno ar drefniadau ar gyfer Storfa Adolygiadau Diogelu Cymru. • Prosiect Gwybodaeth ynghylch Diogelu. • Cyfrannu i adolygiad cenedlaethol a chymryd rhan yn y gwaith o lywodraethu adolygiadau dysgu (Adolygiadau Dynladdiad Domestig, Adolygiadau Ymarfer Oedolion, Adolygiadau Ymarfer Plant). | Caiff gwersi eu dysgu o bob adolygiad unigol yn lleol ac yn genedlaethol. |
Darparu cymorth a chyngor ynghylch eu heffeithiolrwydd i gyfarfodydd byrddau diogelu | • Aelodau’r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol yn mynychu cyfarfodydd Byrddau Diogelu Rhanbarthol ac yn cymryd rhan ynddynt. • Y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol yn datblygu trosolwg o gynlluniau gwaith y Byrddau Diogelu Rhanbarthol a themâu a materion sy’n dod i’r amlwg. | Mae enghreifftiau o’r cymorth a’r cyngor a ddarparwyd yn cael eu hadlewyrchu mewn cyfarfodydd â Gweinidogion a Chadeiryddion Byrddau Rhanbarthol ac yn Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Cenedlaethol. |
Ymateb i themâu sy’n dod i’r amlwg | Mae’r Bwrdd yn cael ymholiadau o ganlyniad i’w waith. Mae cylch gorchwyl y Bwrdd yn ymestyn fel ei fod yn cynnwys darparu cyngor a chymorth. | Adroddiad Blynyddol sy’n cofnodi’n effeithiol themâu sy’n dod i’r amlwg. |
2. Adrodd ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd trefniadau i ddiogelu plant ac oedolion yng Nghymru | ||
Cynllun | Cwmpas a Dulliau | Deilliannau |
Adroddiad Blynyddol ar effeithiolrwydd trefniadau yng Nghymru | • Llunio Adroddiad Blynyddol erbyn 31.10.2019. • Cyfarfodydd misol y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol. | Argymhellion ynghylch sut y gellid gwella’r trefniadau hynny. |
Ymgysylltu â chadeiryddion Byrddau Diogelu Rhanbarthol | • Dau weithdy gyda’r cadeiryddion (hydref a gwanwyn). | Fframwaith sicrwydd y cytunwyd arno, er mwyn penderfynu ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd trefniadau yng Nghymru. Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol. |
Ymgysylltu ag arolygiaethau | Cyfarfod ag: • Arolygiaeth Gofal Cymru • Swyddfa Archwilio Cymru • Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru • Estyn • Arolygiaeth Carchardai Ei Mawrhydi. | Datblygu fframwaith sicrwydd y cytunwyd arno, er mwyn penderfynu ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd trefniadau yng Nghymru. Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol. |
Ymgysylltu â sefydliadau rhanddeiliaid allweddol | Ymgysylltu â rhanddeiliaid/defnydd yr gwasanaeth. Pob aelod o’r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol i gadw mewn cysylltiad â sefydliad penodol: • Y Comisiynydd Pobl Hŷn • Comisiynydd Plant Cymru • Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol • Comisiynydd Heddlu a Throseddu • Iechyd Cyhoeddus Cymru • Gofal Cymdeithasol Cymru • Cyngor y Gweithlu Addysg • Y Comisiwn Elusennau Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. | Ymgysylltu’n effeithiol â defnyddwyr gwasanaeth. |
Gwaith Canolfan Ddiogelu Amlasiantaeth ar gyfer Llywodraeth Cymru (yn cael ei ystyried) | • Canolfan Ddiogelu Amlasiantaeth –comisiynu gwerthusiad er mwyn adolygu’r dystiolaeth. • Bydd y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol yn edrych ar yr argymhellion ac yn adrodd i’r Gweinidog. | Fframwaith Egwyddorion. |
3. Gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru ynghylch sut y gellid gwella’r trefniadau hynny (A.132 (2)). | ||
Cynllun | Cwmpas a Dulliau | Deilliannau |
Cyfarfodydd â’r Gweinidog | • Hyd at 4 cyfarfod y flwyddyn. • Trwy’r Adroddiad Blynyddol. • Codi materion penodol wrth iddynt godi. | Sicrhau bod y Gweinidog yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am faterion sy’n dod i’r amlwg a cheisio cyngor yn ôl yr angen. |
Cynllun Gwaith y Bwrdd 2018-19
Cynllun Gwaith y Bwrdd 2019-20
Cynllun Gwaith y Bwrdd 2020-21