Mae gan y Bwrdd Cenedlaethol dair prif ddyletswydd sydd wedi llywio ein cynllun gwaith. Dyma nhw:
Ar ben hynny, mae wyth cyfrifoldeb penodol y Bwrdd Cenedlaethol wedi’u nodi yn Gweithio gyda’n Gilydd i Ddiogelu Pobl, Arweiniad Rhan 7 ar Ddiogelu. Y rhain yw:
Yn 2024 roedd y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol yn falch o gyhoeddi partneriaeth diogelu strategol tair blynedd rhwng Bwrdd (NISB) Cymru a Phrifysgol Met Manceinion. Mae’r Athro McManus a’i thîm o ymchwilwyr diogelu ym Met Manceinion wedi cwblhau cyfres o brosiectau ymchwil dros y 4 blynedd diwethaf i werthuso effeithiolrwydd trefniadau diogelu aml-asiantaeth yng Nghymru. Mae hyn wedi arwain at ffurfio partneriaeth allweddol gan ymddiried yn nhîm Met Manceinion er mwyn cynyddu hyd yr eithaf nifer y plant ac oedolion a nodir i’w diogelu yng Nghymru, a’r ymatebion i’r rheiny.
Dechreuodd y gwaith ymchwil hwn yn 2020 gydag astudiaeth i archwilio trefniadau gweithredol amlasiantaeth integredig ar draws pob un o’r 22 o ardaloedd Awdurdod Lleol. Arweiniodd hyn at werthusiad cenedlaethol ar raddfa fawr, Llywio Dyfodol Diogelu yng Nghymru, i bennu beth yw nodweddion diogelu da o fewn amlasiantaeth. Roedd yr astudiaeth hon yn cynnwys tair ffrwd waith: archwilio safbwyntiau ymarferwyr, deall profiadau a barn y rhai sydd â phrofiadau byw o ddiogelu a mewnwelediadau gan dimau rheoli perfformiad, ochr yn ochr â dadansoddiad o fetrigau diogelu a gasglwyd gan Fyrddau Diogelu Rhanbarthol (RSBs).
Ar ôl cwblhau gwerthusiad Llywio’r Dyfodol, cafodd dau brosiect ymchwil deilliannol eu datblygu mewn partneriaeth â’r NISB a’r RSBs:
Mae’r NISB wedi comisiynu darnau pellach o waith ar wahân i gynnal Dadansoddiad Thematig o Adolygiadau Ymarfer Plant (CPRs) ac Adolygiadau Ymarfer Oedolion (APRs) ledled Cymru . Roedd yr adroddiadau hyn yn canolbwyntio ar nodweddion risgiau, yr ymatebion amlasiantaeth, ac adolygiad o ansawdd yr adolygiadau ymarfer eu hunain. Nododd y dadansoddiad sawl maes allweddol â blaenoriaeth lle’r oed newid yn hanfodol er mwyn lleihau’r tebygolrwydd o niwed yn y dyfodol, er mwyn gwella ymarfer a chryfhau systemau diogelu.
Mae’r Bwrdd yn comisiynu adolygiad ddwywaith y flwyddyn o’r holl Adolygiadau Ymarfer Plant ac Ymarfer Oedolion am yn ail. Yn dilyn cyhoeddi Risg, Ymateb ac Adolygu: Diogelu Amlasiantaeth: Dadansoddiad thematig o adolygiadau ymarfer plant yng Nghymru; Awst 2023 (McManus, M. Ball E ac Almond L.) bydd y Bwrdd, yn 2025, yn gofyn i bob Bwrdd Gwasanaethau Rhanbarthol adrodd ar eu hystyriaethau ynghylch yr argymhellion a wnaed.
Ym mis Chwefror 2025, cyhoeddodd y Bwrdd Adolygiad Thematig o Adolygiadau Ymarfer Oedolion (APRs) Cymru, (McManus M, Ball E a Monaghan.) gan gynnal digwyddiad bord gron â rhanddeiliaid wedi hynny i drafod y canfyddiadau. Rydym yn bwriadu defnyddio’r argymhellion o’r ddau adolygiad thematig i gefnogi ein gwaith i ddatblygu dull cyson o fesur perfformiad ac asesu effeithiolrwydd ac i gynorthwyo Byrddau Gwasanaethau Cymdeithasol i barhau i ddatblygu ymarfer diogelu. Bydd y Bwrdd yn comisiynu CPR thematig i’w gyhoeddi yn Ch3 25/26.
Yn rhan o’r gwaith i ddatblygu dull cydlynol a chyson o gasglu a dadansoddi gwybodaeth am effeithiolrwydd diogelu yng Nghymru gyfan, nododd y Bwrdd Cenedlaethol 5 Cwestiwn Allweddol. Credwn y dylai’r holl asiantaethau a chyrff perthnasol ateb y cwestiynau hyn, ar sail barhaus ac yn flynyddol. Dyma nhw:
Yn rhan o’r gwaith i ddatblygu dull cydlynol a chyson o gasglu a dadansoddi gwybodaeth am effeithiolrwydd diogelu yng Nghymru gyfan, nododd y Bwrdd Cenedlaethol 5 Cwestiwn Allweddol a ganlyn yn ystod blwyddyn 2023-24. Credwn y dylai’r holl asiantaethau a chyrff perthnasol ateb y cwestiynau hyn, ar sail barhaus ac yn flynyddol.
1. Y Broses Ddiogelu
Sut mae’r bwrdd yn cael sicrwydd bod trefniadau’n effeithiol wrth nodi ac ymateb i bryderon diogelu? Beth yw canlyniadau prosesau ac ymyriadau diogelu rhanbarthol?
2. Gweithgarwch a Data Amlasiantaeth
Sut mae’r bwrdd yn ei sicrhau ei hun fod y protocolau presennol rhwng asiantaethau yn gweithio’n effeithiol, pan nodir bod unigolion yn wynebu risg o niwed? Pa ddata a gesglir yn gysylltiedig â hyn, sut y rhennir y data, a pha dystiolaeth sydd wedi dod i’r amlwg yn y cyfnod hwn?
3. Themâu Problemus
Pa brif ffynonellau thematig o niwed a ddangosir yn nata’r Bwrdd sy’n gofyn am ymateb diogelu yn lleol? Pa gamau sydd wedi’u nodi er mwyn ymateb i’r dystiolaeth thematig hon?
4. Adborth gan ddefnyddwyr gwasanaeth
Beth yw amcanion yr RSB o ran casglu adborth defnyddwyr gwasanaeth yn gysylltiedig â gweithgarwch diogelu uniongyrchol? Beth mae’r metrigau sy’n casglu’r adborth hwn yn dweud wrth y Bwrdd? Sut mae’r Bwrdd yn bwriadu ymateb i’r dystiolaeth hon a beth fydd y raddfa amser ar gyfer hynny?
Beth sy’n hysbys am broffil y gweithlu diogelu? Sut mae recriwtio a chadw yn effeithio ar gyflawni dyletswyddau diogelu? I ba raddau mae hyfforddiant amlasiantaeth wedi cael ei ddarparu i’r gweithlu diogelu, a’r gweithlu diogelu wedi manteisio ar yr hyfforddiant hwnnw? Pa dystiolaeth sydd ar gael i roi sicrwydd i’r Bwrdd bod asiantaethau’n deall anghenion llesiant a chymorth y gweithlu diogelu, ac yn ymateb i hynny?
5. Gwybodaeth am y Gweithlu
Beth sy’n hysbys am broffil y gweithlu diogelu?
» Sut mae recriwtio a chadw yn effeithio ar gyflawni dyletswyddau diogelu?
» I ba raddau mae hyfforddiant amlasiantaeth wedi cael ei ddarparu i’r gweithlu diogelu, a’r gweithlu diogelu wedi manteisio ar yr hyfforddiant hwnnw?
» Pa dystiolaeth sydd ar gael i roi sicrwydd i’r Bwrdd bod asiantaethau’n deall anghenion llesiant a chymorth y gweithlu diogelu, ac yn ymateb i hynny?
Dyletswydd Strategol 1. Rhoi cefnogaeth a chyngor i Fyrddau Diogelu gyda golwg ar sicrhau eu bod yn effeithiol:
Cyfrifoldeb penodol 1: gweithio ochr yn ochr â Byrddau Diogelu Oedolion a Byrddau Diogelu Plant i sicrhau gwelliannau cyson i bolisïau ac arferion diogelu ledled Cymru (par. 246) |
Gweithgareddau (Sut?) |
– Aelodau’r Bwrdd i fynychu a chynnig cyngor a chefnogaeth i’r Bwrdd Diogelu Rhanbarthol (RSB) – Ymgysylltu a chyfarfod yn rheolaidd â Chadeiryddion Byrddau Diogelu a Rheolwyr Busnes. – Cynnwys adolygiad a chrynodeb o waith yr RSBs yn ei Adroddiad Blynyddol. – Parhau i hwyluso datblygiad Fframwaith Perfformiad Diogelu Amlasiantaeth Cymru Gyfan er mwyn gofyn i RSBs ystyried 5 cwestiwn allweddol yn eu hadroddiadau blynyddol. – Parhau i gefnogi gwaith rhanbarthol i ddatblygu ymateb cydlynol i’r Adroddiad Thematig Ymarfer Oedolion Cymru Gyfan a gyhoeddwyd yn ddiweddar. (Partneriaeth rhwng Met Manceinion / NISB) – Gofyn am wybodaeth am y cynnydd a wnaed yn erbyn yr argymhellion yn yr Adolygiad Thematig Ymarfer Plant (Tachwedd 23). – Comisiynu Adolygiad Ymarfer Plant i’w gyhoeddi yn Ch3 25/26 gyda ffocws ar lais/profiad byw a Phontio. – Gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac RSBs i ddatblygu, cefnogi a chynnal seminarau a gweminarau yn ystod wythnos diogelu. – Parhau i gyfrannu at yr Wythnos Diogelu Genedlaethol. – Cynnal Cynhadledd Flynyddol genedlaethol. |
Cyfrifoldeb penodol 2: y bydd y Bwrdd Cenedlaethol yn ymgysylltu â chadeiryddion y Byrddau Diogelu, …o leiaf ddwywaith y flwyddyn (par. 258) |
Gweithgareddau (Sut?) |
– Bydd aelodau’n sicrhau bod NISB yn cael gwybod am faterion a themâu diogelu sy’n dod i’r amlwg sy’n effeithio yr RSBs drwy gynnal cyfarfodydd rheolaidd â chadeiryddion RSB. – Yn ogystal â hynny, bydd yr Aelodau yn sicrhau deialog ddwyffordd â sefydliadau yng Nghymru sy’n ymwneud â diogelu drwy nodi sefydliadau sy’n ymwneud â thirlun diogelu Cymru. Ymhlith eraill, mae hyn yn cynnwys: 1 Comisiynydd Pobl Hŷn 2 Comisiynydd Plant Cymru 3 Gofal Cymdeithasol Cymru 4 Cyngor y Gweithlu Addysg 5 Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru |
Cyfrifoldeb penodol 8. Y bydd yn ystyried yr hyn a ddysgwyd o weithgareddau ‘ymgysylltu â defnyddwyr’ y Byrddau Diogelu (par. 266). |
Gweithgareddau (Sut?) |
– Bydd NISB yn sicrhau bod llais defnyddwyr gwasanaeth wedi’i gynnwys yn natblygiad y Fframwaith Perfformiad Cenedlaethol (NPF) fel un o’r 5 cwestiwn allweddol i’w hateb. – Ystyried themâu sy’n dod i’r amlwg o broses yr Adolygiad Diogelu Unedig Sengl. Cefnogi’r broses o ledaenu’r hyn a ddysgwyd ledled Cymru yn sgil ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaeth. |
Dyletswydd Strategol 2. Adrodd ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd trefniadau diogelu plant ac oedolion yng Nghymru.
Cyfrifoldeb penodol 3: cael y wybodaeth ddiweddaraf am agweddau polisi a thystiolaeth ar ddiogelu ac amddiffyn mewn rhannau eraill o’r DU a thu hwnt er mwyn dysgu o’r rheini a gwerthuso perfformiad cymharol Cymru(par. 261) |
Gweithgareddau (Sut?) |
– Gwerthuso’r cynnydd a wnaed wrth weithredu argymhellion “Risg, Ymateb ac Adolygu: Diogelu Aml-Asiantaeth, Dadansoddiad thematig o adolygiadau ymarfer plant yng Nghymru” a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2023 (McManus M, Ball E, Almond L, Prifysgol Metropolitan Manceinion, 2023). Adolygiad Thematig CPR a gyhoeddwyd ar 23 Tachwedd. – Lledaenu canfyddiadau ac argymhellion yr “Adolygiad Thematig o Adolygiadau Ymarfer Oedolion Cymru 2025” a gyhoeddwyd yn 2025 a datblygu cynllun gweithredu mewn ymateb i’r APR. – Darparu aelodaeth i’r Bwrdd Gweinidogol sy’n gyfrifol am sicrhau dysgu eang a nodwyd drwy Storfa Adolygiadau Diogelu Cymru. – Ymgysylltu â’r grŵp goruchwylio strategol a phroses yr Adolygiad Diogelu Unedig Sengl. Yn ogystal â hynny, bydd y bwrdd yn parhau i gymryd rhan ym mhroses yr Adolygiad Diogelu Unedig Sengl, a monitro gweithrediad y broses honno, o ran ei chyfraniad tuag at ddysgu a’i heffaith ar ymarfer. – Cymryd rhan mewn gweminarau a chynadleddau, a’u cefnogi, ar draws y 5 gwlad. – Comisiynu adolygiadau thematig Cymreig pan fo angen. – Rhoi barn annibynnol a chyngor ar effaith ac effeithiolrwydd y cynllun gweithredu gweinidogol ar gyfer atal camdriniaeth tuag at bobl hŷn. – Rhoi trosolwg o weithrediad yr argymhellion a wnaed i Lywodraeth Cymru yn yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol (IICSA), a monitro hynny. |
Cyfrifoldeb penodol 4: os bydd y Bwrdd Cenedlaethol yn nodi thema o bryder… gallai’r Bwrdd Cenedlaethol argymell i Weinidogion Cymru y dylai’r mater gael ei drosglwyddo i’w archwilio gan Lywodraeth Cymru neu’r arolygiaeth berthnasol (par. 263) |
Gweithgareddau (Sut?) |
Caiff materion sy’n dod i’r amlwg eu nodi i oleuo a dylanwadu ar ddatblygiad systemau a phrosesau diogelu. – Cyfranogiad mewn cyfarfodydd rheolaidd â Chadeiryddion RSBs a LlC. – Cynnal deialog effeithiol â rheoleiddwyr ac arolygiaethau gwasanaethau i ystyried unrhyw ddatblygiadau neu welliannau ym maes diogelu, a chynnig cyfle i nodi themâu sy’n destun pryder: 1 Arolygiaeth Gofal Cymru 2 Arolygiaeth Iechyd Cymru 3 Swyddfa Archwilio Cymru 4 Estyn 5 Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Fawrhydi – Cysylltu â Chomisiynwyr Pobl Hŷn a Phlant Cymru ar faterion diogelu sy’n dod i’r amlwg er mwyn sefydlu cynghreiriau effeithiol. – Monitro cynnydd mewn ymateb i’r argymhellion a wnaed gan NISB i Weinidogion Cymru. – Bydd themâu sy’n destun pryder yn cael eu rhannu ag RSBs a’u hadrodd wrth Weinidogion Cymru a swyddogion LlC er mwyn sicrhau datrysiad drwy Gymru gyfan. – Bydd unrhyw bryderon diogelu sy’n dod i’r amlwg a nodir gan y bwrdd yn cael eu codi drwy: 1 Gyfarfodydd misol â swyddogion LlC. 2 Canlyniadau tystiolaeth o waith ymchwil, adolygiadau neu ymgysylltu â grwpiau cyfeirio arbenigol, gan gynnwys RSBs. 3 Gohebiaeth ysgrifenedig ynghylch themâu sy’n destun pryder a gyfeiriwyd sylw’r NISB. 4 Deialog ffurfiol gyda’r Dirprwy Weinidog ddwywaith y flwyddyn. 5 Comisiynu ymchwil i bryderon sy’n dod i’r amlwg a nodwyd gan y Bwrdd Cenedlaethol. |
Cyfrifoldeb penodol 5: y bydd y Bwrdd Cenedlaethol yn defnyddio mecanweithiau i ymgysylltu’n rheolaidd â phob math o grwpiau cyfeirio, ymarferwyr ac unigolion arbenigol. (par. 264) |
Gweithgareddau (Sut?) |
Mae’r bwrdd presennol (2023-2026) yn parhau i fuddsoddi amser ac ymdrech sylweddol i feithrin perthnasoedd ‘sefydlog’ ag Arolygiaeth Gofal Cymru, Arolygiaeth Iechyd Cymru, Cyngor y Gweithlu Addysg Cymru, Gofal Cymdeithasol Cymru, Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Fawrhydi, Arolygiaeth Prawf a Charchardai Ei Mawrhydi, Comisiynwyr Pobl Hŷn a Phlant Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, Estyn, yr Uned Atal Trais, Rhwydwaith Diogelu GIG Cymru, Rhwydwaith Diogelu’r Pum Gwlad a Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Cymru, ymhlith eraill. |
Cyfrifoldeb penodol 6: y bydd y Bwrdd Cenedlaethol yn cyhoeddi ei adroddiadau blynyddol ei hun, gan gynnwys unrhyw waith y mae’n ei gynllunio. Bydd hefyd yn cynnal digwyddiad neu ddigwyddiadau ymgysylltu blynyddol (par. 265) |
Gweithgareddau (Sut?) |
– Cynnal adolygiad o strategaeth gyfathrebu NISB – Ailwampio gwefan NISB i ddarparu gwybodaeth berthnasol, amserol a negeseuon diogelu allweddol. – Cefnogi a hyrwyddo ymgyrchoedd cyhoeddus cenedlaethol sydd â’r nod o atal, nodi ac ymateb i niwed sy’n deillio o gamdriniaeth, esgeulustod ac ecsbloetio. – Ymateb i ymgyngoriadau cenedlaethol perthnasol. – Llunio adroddiad blynyddol amserol. |
Cyfrifoldeb penodol 7: bod ganddo ddyletswydd benodol o dan adran 133 (2) (d) y Ddeddf i “ymgynghori â‘r rhai y gallai trefniadau i ddiogelu oedolion a phlant yng Nghymru effeithio arnynt.” Bydd yn defnyddio’r ddyletswydd honno i wella ei ddealltwriaeth ac ymestyn ei brofiad o ddiogelu ac amddiffyn yng Nghymru. (par. 266) |
Gweithgareddau (Sut?) |
– Ystyried canfyddiadau digwyddiadau ymgysylltu a gynhaliwyd RSBs drwy eu hadroddiadau blynyddol. – Monitro cynllun gweithredu Llywodraeth Cymru mewn ymateb i’r argymhellion a wnaed i’r – Llywodraeth gan yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol. – Adolygu gweithrediad ac effaith Rhan 5 o Weithdrefnau Diogelu Cymru Gyfan. (Mewn perthynas â Swyddi Ymddiriedaeth) |
Dyletswydd Strategol 3. Gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru ynghylch sut y gellid gwella’r trefniadau hynny (A.132 (2)).
Cyfrifoldeb penodol 4: os bydd y Bwrdd Cenedlaethol yn nodi thema o bryder… gallai’r Bwrdd Cenedlaethol argymell i Weinidogion Cymru y dylai’r mater gael ei drosglwyddo i’w archwilio gan Lywodraeth Cymru neu’r arolygiaeth berthnasol (par. 263) |
Gweithgareddau (Sut?) |
– Gwneud argymhellion i Weinidogion yn ffurfiol drwy Adroddiad Blynyddol NISB. – Bydd argymhellion blaenorol yn parhau i gael eu monitro ddwywaith y flwyddyn drwy’r cyfarfodydd ffurfiol rhwng NISB a’r Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol. – Cyflwynodd y Bwrdd Cenedlaethol bapur cyfarwyddiadau i’r Gweinidog yn 2024/25. Byddwn yn cyfrannu at, ac yn cymryd rhan yn yr adolygiad annibynnol o lywodraethu Diogelu a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru. |