Cyflwyniad i gyfres o 12 ffilm fer i weithwyr proffesiynol, gan weithwyr proffesiynol

Page Icon

Mae’r Ganolfan Arbenigedd ar Gam-drin Plant yn Rhywiol yn dîm amlddisgyblaethol a ariennir gan y Swyddfa Gartref. Caiff y Ganolfan ei lletya gan Barnardo’s ac mae’n cydweithio yn agos â phartneriaid allweddol o sefydliadau academaidd, awdurdodau lleol, gwasanaethau iechyd, y sector addysg, yr heddlu, ac eraill yn y sector gwirfoddol.

Erbyn hyn, mae’r Ganolfan wedi cynhyrchu cyfres o 12 ffilm fer sy’n galluogi ymarferwyr i gael gafael yn hawdd ar wybodaeth allweddol sydd wedi’i chrynhoi o adnoddau’r Ganolfan. Mae’r gwaith o gynhyrchu’r ffilmiau hyn, gyda chymorth cyllid gan Lywodraeth Cymru, yn hybu’r amcanion a nodwyd yn y Cynllun Gweithredu Cenedlaethol: Atal ac Ymateb i Gam-drin Plant yn Rhywiol.

Dyma’r adnoddau:

Mae’r holl adnoddau Cymraeg hyn wedi’u rhestru yma: Cefnogi ymarfer wrth fynd i’r afael â cham-drin plant yn rhywiol – Y Ganolfan Arbenigedd ar Gam-drin Plant yn Rhywiol

Nod yr adnoddau yw rhoi i weithwyr proffesiynol y wybodaeth i adnabod pryderon ynghylch cam-drin plant yn rhywiol a’r hyder i ymateb iddynt, nid gyda’r plentyn yn unig ond gyda’r teulu cyfan. Mae’r ffilmiau byr hyn ar gyfer unrhyw un y mae eu rôl yn golygu eu bod yn dod i gysylltiad â phlant a phobl ifanc dan 18 oed neu’u rhieni neu’u gofalwyr; mae’r gweithwyr proffesiynol hynny’n cynnwys gweithwyr cymdeithasol, athrawon, swyddogion heddlu, gweithwyr iechyd proffesiynol, gweithwyr yn y sector gwirfoddol neu arweinwyr/gweithwyr ffydd – p’un a ydynt yn newydd i’w rôl, yn dal i gael hyfforddiant neu’n brofiadol iawn. Mae’r ffilmiau yn cyfeirio gweithwyr at adnoddau’r Ganolfan Arbenigedd ar Gam-drin Plant yn Rhywiol.

Gellir cael gafael ar y ffilmiau drwy ddefnyddio’r ddolen gyswllt â sianel y Ganolfan ar YouTube: Y Ganolfan Arbenigedd ar Gam-drin Plant yn Rhywiol – YouTube