Adroddiad Blynyddol 2020-21

Page Icon

Mae Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol Cymru yn falch iawn o gyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2020-2021. Mae’n cael ei gyhoeddi ar adeg pan fo’r pandemig, unwaith eto, wedi effeithio ar bob agwedd ar ddiogelu yng Nghymru. Mae’n anochel mai elfen amlycaf adroddiad blynyddol eleni yw’r pandemig a’i effaith ar effeithiolrwydd trefniadau diogelu yng Nghymru, ond mae’r adroddiad hefyd yn canolbwyntio ar bopeth sydd wedi’i gyflawni ym maes diogelu yn ystod 2020/21.  Hoffai’r Bwrdd Cenedlaethol achub ar y cyfle hwn i gydnabod ymateb parhaus yr asiantaethau a’r partneriaid sy’n gweithio ym maes diogelu, a diolch i aelodau’r gweithlu sy’n parhau i fynd i’r afael mor broffesiynol â’r heriau y maent wedi’u hwynebu yn y ‘byd newydd’ hwn.

Mae’r Bwrdd Cenedlaethol wedi gwneud pump o argymhellion i Weinidogion Cymru ynghylch sut y gellid gwella trefniadau diogelu. Gallwch ddarllen yr argymhellion a’r adroddiad llawn yma:

 

NISB Adroddiad Blynyddol 2020-21

 

Lawrlwytho fersiwn PDF