Uned Atal Trais – Beth sy’n Gweithio i Atal Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV)

Page Icon

Mae’r Uned Atal Trais wedi cyhoeddi ei hymchwil ddiweddaraf ynghylch Beth sy’n Gweithio i Atal Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol? Mae’r asesiad systematig hwn o dystiolaeth, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, yn nodi ymyriadau sylfaenol ac eilaidd effeithiol i atal trais o’r fath, er mwyn llywio’r broses o fabwysiadu polisïau ac arferion sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

Mae trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn broblem fawr o ran iechyd y cyhoedd, cyfiawnder troseddol a hawliau dynol, a gallant gael effaith ddinistriol ar y sawl sy’n eu profi. Mae’r diweddariad i strategaeth Llywodraeth Cymru ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol sydd ar ddod yn ymrwymo i geisio atal trais o’r fath a sicrhau ymyrraeth gynnar. Felly, bydd yr asesiad systematig hwn o’r dystiolaeth yn cynorthwyo pob un ohonom i flaenoriaethu ymyriadau effeithiol ar gyfer atal, sy’n hanfodol os ydym am dorri’r cylch o drais yng Nghymru.

Prif neges yr adroddiad hwn yw ei bod yn bosibl i atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, a bod mesurau atal yn effeithiol. Nawr, yn fwy nag erioed o’r blaen, rydym yn gwybod beth sy’n gweithio a sut i fynd ati, gyda thystiolaeth newydd o arferion effeithiol yn dod i’r amlwg drwy’r amser.

Darllenwch yr adroddiad yma.