Ymchwil newydd: Profiadau Rhai sy’n Sefyll Gerllaw o Drais a Cham-drin Domestig ynystod y Pandemig COVID-19

Page Icon

Mae’r Uned Atal Trais wedi cyhoeddi ei hymchwil ddiweddaraf ynghylch Profiadau Rhai sy’n Sefyll Gerllaw o Drais a Cham-drin Domestig yn ystod y Pandemig COVID-19.

Roedd yr astudiaeth hon, a gyflawnwyd ar y cyd â Phrifysgol Caerwysg, ac a ariannwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn cynnwys arolwg a chyfweliadau ag aelodau’r cyhoedd er mwyn cael gwell dealltwriaeth o brofiadau ac ymddygiadau’r rhai a fu’n bresennol yn ystod achosion o drais a cham-drin domestig yn ystod cyfnod o gyfyngiadau cymdeithasol. Er y cafodd yr astudiaeth ei gweithredu ar raddfa fach, dyma’r astudiaeth gyntaf o’i bath sy’n rhoi cipolwg newydd ar brofiadau’r rhai a oedd yn bresennol yn ystod pandemig byd-eang.

Lawrlwythwch yr Adroddiad

 

Bydd yr Uned Atal Trais yn cynnal gweminar i drafod canfyddiadau’r ymchwil ar 12 Hydref 2021. Bydd y sesiwn hon yn cynnwys cyflwyniad gan y prif ymchwilydd a thrafodaeth banel gyda chynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, Cymorth i Ferched Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Gallwch gofrestru i fynychu ar Eventbrite nawr.

Cofrestru ar gyfer y Weminar