Gwefan newydd yn helpu pobl hŷn sy’n cael eu cam-drin i ddod o hyd i’r wybodaeth, y cyngor a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt

Page Icon

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi lansio gwefan newydd i helpu pobl hŷn sy’n cael eu cam-drin, neu’r rheini sydd mewn perygl o gael eu cam-drin, i ddod o hyd i’r wybodaeth, y cyngor a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt.

Gan ddefnyddio’r wefan newydd gall pobl hŷn, yn ogystal â’u ffrindiau a’u teuluoedd, chwilio yn rhwydd am wasanaethau a chymorth yn eu hardal leol a all eu helpu os ydynt yn cael eu cam-drin, os ydynt mewn perygl o gael eu cam-drin, neu’n poeni am rywun arall. Gallant hefyd ddod o hyd i fanylion mudiadau cenedlaethol allweddol a’r gwasanaethau mwy arbenigol sydd ar gael. Mewn rhai achosion, gall y rhain gynnig cefnogaeth bob awr o’r dydd.

Datblygodd y Comisiynydd y wefan mewn ymateb i bryderon a amlygwyd gan bobl hŷn gan gynnwys y rheini sydd wedi goroesi camdriniaeth. Roeddent yn cyfaddef yn aml nad oeddent yn gwybod ble i droi am gymorth a chefnogaeth ynghylch camdriniaeth, sy’n gallu amlygu ei hun mewn sawl ffurf – fel cam-drin domestig, trais rhywiol a cham-drin ariannol. Mae’n effeithio ar filoedd o bobl hŷn yng Nghymru bob blwyddyn.

Yn ogystal â bod yn adnodd defnyddiol a hawdd ei ddefnyddio i bobl hŷn, bydd y wefan newydd hefyd yn ddefnyddiol i staff sy’n gweithio ar draws amrywiaeth o wasanaethau cyhoeddus a mudiadau trydydd sector. Bydd gwybodaeth am y cymorth a’r gefnogaeth sydd ar gael – yn lleol ac yn genedlaethol – ar flaen eu bysedd a gallant ei rhannu â’r bobl hŷn y maent yn gweithio ac yn ymgysylltu â nhw.

Yn ogystal â’r wefan, mae’r Comisiynydd hefyd wedi lansio taflen wybodaeth newydd – Mynnwch Helpwch Cadwch yn Ddiogel – a fydd yn arbennig o ddefnyddiol i bobl hŷn nad ydynt ar-lein. Mae’r daflen yn rhoi manylion ynghylch ble gall pobl fynd i gael help a chefnogaeth, yr arwyddion o gam-drin y dylent fod yn chwilio amdanynt, a beth i’w wneud os ydynt yn poeni am rywun arall.

Mae dros 10,000 o gopïau o’r daflen eisoes wedi cael eu dosbarthu ledled Cymru, a byddant yn cael eu dosbarthu i bobl hŷn ar ran y Comisiynydd gan ystod eang o bartneriaid gan gynnwys awdurdodau lleol, byrddau iechyd a’r heddlu, yn ogystal â thrwy grwpiau cymunedol, fforymau pobl hŷn, cynlluniau tai gwarchod a chartrefi gofal.

Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:

“Rydyn ni’n gwybod dydy pobl hŷn sy’n cael eu cam-drin, neu’r rheini a allai fod mewn perygl, ddim yn gwybod ble i fynd i gael gafael ar y cymorth a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt i’w cadw’n saff ac yn ddiogel.

“Dyna pam y gwnes i gomisiynu ymchwil i ganfod y gwasanaethau sydd ar gael yng Nghymru sy’n darparu cymorth i bobl hŷn, gan ddod â’r cwbl at ei gilydd mewn cyfeiriadur newydd o wasanaethau er mwyn i bobl hŷn allu dod o hyd i’r wybodaeth sydd ei hangen arnynt yn hawdd a chael gafael ar gymorth os oes ei angen arnynt.

“Gan nad oes gan lawer o bobl hŷn fynediad at y rhyngrwyd, dwi hefyd wedi datblygu taflen wybodaeth newydd, sy’n cael ei dosbarthu gan bartneriaid sy’n gweithio mewn cymunedau ledled Cymru i sicrhau bod pobl hŷn yn gwybod am yr arwyddion o gam-drin y mae angen iddynt gadw llygad amdanynt a’u bod yn gallu cysylltu â mudiadau sy’n gallu cynnig gwybodaeth, cyngor a chymorth os oes angen.

“Byddaf yn parhau i weithio mewn partneriaeth â dros 30 o sefydliadau fel rhan o’r Grŵp Gweithredu ar Atal Cam-drin a sefydlais ym mis Ebrill y llynedd. Rydym am sicrhau bod camau’n cael eu cymryd i fynd i’r afael â bylchau posibl mewn gwasanaethau a materion neu rwystrau eraill a allai atal pobl rhag cael gafael ar gymorth, fel y gall pobl hŷn gael yr help sydd ei angen arnynt, pryd bynnag a lle bynnag yr ydynt.”

EWCH I’R CYFEIRIADUR O WASANAETHAU CYMORTH AR GYFER CAMDRINIAETH