Beth Sydd A Wnelo Diogelu a Chwaraeon  Mi?

Page Icon

Ddechrau 2017, penderfynodd y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol ddechrau’r Wythnos Diogelu yng Nghymru drwy ganolbwyntio ar Chwaraeon. Y rheswm am hynny yw bod pob gweithgaredd chwaraeon, hyd yn oed eleni, wedi gorfod ystyried pynciau sy’n gyfarwydd i ymarferwyr diogelu, megis

– achosion o ymdrin yn wael â honiadau o niwed, yn enwedig honiadau o ymosod yn rhywiol;
– achosion o graffu’n annigonol ar waith rhai hyfforddwyr a sgowtiaid talent;
– llwyddiannau’n cael eu gwobrwyo ag alcohol;
– diffyg sylw i les chwaraewyr a thystiolaeth o drallod;
– hunaniaeth pobl pan fydd canmoliaeth yn dod i ben;
– ymddygiad torfeydd;
– penderfyniad i ddysgu gwersi’n gyflym.

Felly, bu’r Bwrdd Cenedlaethol yn siarad â phobl sydd â diddordeb mewn gwella diogelwch y sawl sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon, pobl sy’n mwynhau gwylio digwyddiadau chwaraeon a phobl y mae eu gyrfa ym maes chwaraeon elît wedi dod i ben. Ar y cyd â Chwaraeon Cymru, daeth y sgyrsiau hyn â chynulleidfa o 150 at y llinell gychwyn.

 

 

Dyma a ddywedodd Karen Leach wrthym: ar ôl cael ei chlustnodi’n nofiwr Olympaidd posibl dros Iwerddon gan hyfforddwr a oedd yn bedoffilydd, dechreuodd ddioddef ymosodiadau rhywiol pan oedd yn 10 oed er bod canlyniadau’r trawma hwn yn arswydus, mae’n ei hystyried ei hun yn “orchfygwr yn hytrach nag yn ddioddefwr” ac mae’n benderfynol o wneud safiad yn gyhoeddus yn erbyn camdriniaeth rywiol ers i’w hanes gael ei gyhoeddi yn “Deep Deception,” mae wedi bod yn eiriolwr cadarn dros atal camdriniaeth mewn chwaraeon er mwyn atal camdriniaeth mewn chwaraeon rhaid i bob un ohonom ofyn cwestiynau treiddgar ynghylch diwylliannau ac ynghylch “pam y mae pethau wedi cael eu gwneud fel hyn erioed” mae annog pobl i siarad yn ffordd o gydnabod y niwed y maent wedi’i ddioddef a’r posibilrwydd o sicrhau cyfiawnder.

 

 

Dyma a ddywedodd Huw Irranca-Davies AC, Y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant, wrthym: Mae bod yn egnïol a bod â diddordeb mewn chwaraeon yn cyfoethogi ein bywydau gymaint ac yn creu atgofion gwych gall cymryd rhan mewn chwaraeon ein helpu mewn cynifer o ffyrdd mae rhoi canmoliaeth am ymuno, am waith tîm ac am ysbrydoli eraill yn bethau sy’n haeddu clod mae gan blant a phobl ifanc hawl statudol i eiriolaeth rhaid iddynt deimlo’n ddigon hyderus i roi gwybod i ni, ym mha ffordd bynnag y gallant, eu bod yn dioddef, a rhaid i ni fod yn rhagweithiol mae sicrhau trefniadau diogelu credadwy yn bwysig i bob un ohonom.

 

 

Dyma a ddywedodd Andy Wood o Sefydliad Gwylio’r Rhyngrwyd wrthym:
Mae Sefydliad Gwylio’r Rhyngrwyd yn gweithio’n rhyngwladol i gael gwared â delweddau o gam-drin plant yn rhywiol o’r rhyngrwyd bob naw munud mae ei ddadansoddwyr yn dod ar draws tudalennau sy’n dangos plant yn dioddef ymosodiadau rhywiol llwyddodd y Sefydliad i gael gwared â thros 57,000 o ddelweddau yn ystod 2016 – roedd ychydig dros hanner y delweddau’n cynnwys plant dan 10 oed un o’r ffyrdd y mae’r Sefydliad yn mynd i’r afael ag ymddygiad rhywiol amhriodol ar-lein yw drwy gynnal gweithdai i bobl ifanc, oherwydd bod plant a phobl ifanc yn eu harddegau’n cymryd risgiau mae’n ymdrin ag achosion y mae’r cyhoedd yn sôn wrtho amdanynt ac mae hefyd yn chwilio’r rhyngrwyd, oherwydd mae’r sawl sy’n ymddwyn yn amhriodol am fod yn yr un man â phobl ifanc pan fydd pobl yn sôn wrth y Sefydliad am achosion o secstio, pornograffi dial, bwlio a phryfocio – y mae pob un ohonynt yn gadael ôl digidol – bydd yn cydweithio â phartneriaid gorfodi’r gyfraith a darparwyr gwasanaethau rhyngrwyd ledled y byd.

 

 

Dyma a ddywedodd Laurence Conway a Gordon Clark o Chwaraeon Cymru, a Sally Church o Bartneriaeth Diogelu mewn Chwaraeon Cymru, wrthym:
Mae cysylltiadau cryf ag asiantaethau statudol yn hanfodol #YnGryfachGydanGilydd mae gan nifer gynyddol o glybiau swyddogion diogelu – mae’n bwysig bod y clybiau mawr yn helpu’r clybiau bach mae cyrff llywodraethu cenedlaethol yn gweithio gyda’r Uned Amddiffyn Plant mewn Chwaraeon i wella prosesau diogelu, ee Safonau’r Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Diogelu mewn Chwaraeon ceir ymwybyddiaeth fwy helaeth o oedolion sy’n wynebu risg “O sefyll yn llonydd, byddwch ar ei hôl hi” – mae mwy i’w wneud o hyd, ac mae Partneriaeth Diogelu mewn Chwaraeon Cymru yn gweithio i fynd i’r afael â’r bylchau sy’n hysbys mae angen i ni rannu syniadau ac adnoddau.

 

 

Dyma a ddywedodd Joe Powell o Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan wrthym:
Roedd ei brofiad ef mewn cartref gofal yn addysg ardderchog mae wedi gwneud iawn am y ffaith na wnaeth siarad am 11 mlynedd tra oedd yn y cartref gofal ni fyddai wedi llwyddo i fyw yn ei gartref ei hun a chael swydd gyflogedig pe bai wedi aros yn y cartref gofal – lle câi llawer iawn o feddyginiaeth ei rhagnodi ar ei gyfer does neb byth yn gadael canolfannau dydd – nid ydynt yn helpu pobl i ddod o hyd i waith nid yw’n iawn bod cartrefi gofal yn gwneud arian hyd yn oed os nad yw eu staff yn gwybod sut i roi i’r preswylwyr yr uchelgais, y sgiliau a’r hyder i gyflawni rolau gwerthfawr a chymysgu ag eraill fel pobl gydradd nid yw rhoi gwydraid o win a darn o gacen gaws i bobl yn ystod adolygiad yn golygu bod yr adolygiad yn effeithiol gellir dysgu llawer am wasanaeth o roi amser i bobl sôn wrthych amdano ac o sicrhau bod prosesau arolygu a chwyno’n gredadwy rhaid cwestiynu pob diwylliant oherwydd nid ydynt bob amser gystal ag y maent yn ymddangos ”perthnasoedd cariadus a gofalgar, rhywfaint o gyfoeth, ffordd o gyfrannu i’r byd, fy nghartref fy hun, a’r diogelwch sy’n deillio o’r uchod” sy’n bwysig.

 

 

Dyma a ddywedodd Nicola Abraham a Lisa Norman o Sefydliad Jacob Abraham wrthym: Cyflawnodd Jacob Abraham hunanladdiad yn 2015 fisoedd yn ddiweddarach, cyflawnodd Andrew – ffrind Jacob – hunanladdiad mae’r Sefydliad yn ceisio atal hunanladdiad drwy ymyrryd yn uniongyrchol, codi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl a hunanladdiad, cynorthwyo’r sawl sydd wedi dioddef profedigaeth oherwydd hunanladdiad, a hybu iechyd meddwl ymhlith dynion ifanc yn benodol mae’r Sefydliad yn defnyddio’r celfyddydau i weithio gydag ysgolion a cholegau er mwyn hybu ymwybyddiaeth o’r cysylltiadau rhwng yfed, cyffuriau hamdden ac iechyd meddwl mae modd gweld ei ymgyrch posteri mewn siopau barbwr edrychwch ar Atal Hunanladdiad ymhlith Ieuenctid Cymru ar YouTube – https://www.youtube.com/watch?v=9XkQf0VXpBY

 

Yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud:
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno deddfau y bwriedir iddynt newid ein meddylfryd a gwella ein llesiant. Bwriad Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015) yw sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn meddwl mwy am yr hirdymor ac yn cydweithio’n well â chymunedau ac â’i gilydd er mwyn atal problemau. Mae Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (2015) yn deddfu ar gyfer y modd y mae Cymru yn ymateb i gamdriniaeth a thrais. Nod y Ddeddf hon yw gwella ymateb cyrff cyhoeddus i’r arfer o gam-drin menywod, a hybu ymwybyddiaeth o drais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol, eu hatal, ac amddiffyn a chynorthwyo’r sawl sy’n eu dioddef. Ar y cyd â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) (2014), mae’r deddfau hyn yn pwysleisio’r modd y mae Cymru yn buddsoddi yn y gwaith o gyflawni’r canlyniadau o ran llesiant ar gyfer unigolion ac ar gyfer poblogaeth y wlad. Wrth wraidd llesiant y mae’r angen i ddiogelu plant ac oedolion.


Cafodd y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol ei sefydlu dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) (2014).

 

 

Margaret Flynn, Keith Towler, Simon Burch, Ruth Henke, Jan Pickles a Rachel Shaw