Nodiadau trafodaethau BDAC – Haf 2017

Page Icon

Cyfarfu’r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol yn Swyddfeydd Llywodraeth Cymru yn Llandudno yn ystod mis Mehefin 2017. Er ein bod yn ffafrio lleoliadau sy’n dangos bod y Bwrdd Cenedlaethol yn annibynnol – yng Nghaerdydd rydym yn cyfarfod yn 30 Siambrau Plas-y-Parc fel rheol – ni wnaethom lwyddo i ddod o hyd i leoliad arall.

Buom yn trafod teitl a rhaglen bosibl ar gyfer y gynhadledd a fydd yn rhagflaenu’r Wythnos Genedlaethol Diogelu, sef “Diogelu ym maes Chwaraeon – Cymryd cyfrifoldeb, cymryd camau gweithredu”. Mae’n gynhadledd wahanol i’r arfer gan fod bywydau’r siaradwyr wedi’u troi wyneb i waered gan fathau penodol o niwed ond eu bod, eto i gyd, wedi gorchfygu’r profiad a’i ôl-effeithiau. Gan fod y Byrddau Rhanbarthol wedi cydnabod mor anodd yw clywed lleisiau pobl, rydym yn rhagweld y bydd y gynhadledd yn annog pob un ohonom i fyfyrio ynghylch ffyrdd o ymyrryd mewn modd credadwy ym mywydau pobl.

Cawsom drafodaeth ddefnyddiol ag awduron yr Adolygiad o Addysg yn y Cartref, a ofynnodd am estyniad y bu i ni gytuno arno; cawsom ddiweddariad ynghylch gwefan y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol; a gwnaethom rywfaint o waith datrys problemau yng nghyswllt yr anawsterau sy’n ymwneud â llunio agenda dysgu cyhoeddus/adolygiad thematig (sy’n rhan o gynllun gwaith y Bwrdd Cenedlaethol).

Cyfarfu’r Bwrdd yn 30 Siambrau Plas-y-Parc ar gyfer ein cyfarfod ym mis Gorffennaf 2017. Cawsom ddiweddariad gan Lywodraeth Cymru ynghylch y canllawiau arfaethedig ar ymdrin ag achosion unigol, a datblygiadau posibl ynghylch darparu llety diogel i blant a phobl ifanc. (Yn ystod mis Chwefror 2017, gwnaeth y Bwrdd Cenedlaethol argymhelliad i Weinidogion ynghylch y prinder llety diogel a/neu welyau diogel mewn ysbytai ar gyfer plant yng Nghymru.)

Cawsom gyflwyniad gan yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol. Roedd y cyflwyniad yn amlinellu’r gwrandawiadau cyhoeddus, Prosiect Gwirionedd yr ymchwiliad, a’i brosiectau ymchwil. Mae’r Bwrdd Cenedlaethol wedi ymrwymo i ategu’r gwaith hwn â’i waith dysgu o brofiad lleol, sy’n defnyddio sylwadau crynhoi barnwyr mewn achosion allweddol yng Nghymru.

Buom yn trafod y gyllideb ar gyfer yr agenda dysgu cyhoeddus / adolygiad thematig, a’r posibilrwydd o ariannu’r gwaith hwn ar y cyd.