Darllenwch ein cerdd a gomisiynwyd yn arbennig gan Gillian Clarke!

Page Icon

Comisiynwyd Gillian Clarke, Bardd Cenedlaethol Cymru o 2008 – 2016, i ysgrifennu cerdd am gam-drin.  Mae’n bleser gan BDAC cyhoeddi’r gerdd ar ein gwefan. Rydym hefyd yn ddiolchgar i Ceri Wyn Jones am ei gyfieithiad o gerdd Gillian a gyhoeddir hefyd. Mae “Tawelwch” yn berthnasol i bob un ohonom.

Y Distawrwydd

 

Mair? Myfanwy? Manon?

– merch fferm o’r bryniau, swil

fel merlen fynydd, merch benddu â llygaid

dŵr-llwyd-o’r-llyn, a  chroen mor lân â’r wawr.

Flynyddoedd ’nôl, ar gwrs ysgolion wrth y llyn,

hi ddaeth â’i stori at ddieithryn, ataf i

Rwy’n dal i weld ei llawysgrifen dwt a’i llyfr,

a’r ofn oedd ynddi. Ffuglen? Neu ei hatgof hi?

Ac yn ei geiriau, aur oedd golau ’r landin

a drochwyd gan y cysgod, megis mam, tad, sy’

yn sleifio i ddweud nos da wrth blentyn cysglyd,

ond gwaed ac udo’r bleiddwynt oedd ei breuddwyd hi.

Mair, Myfanwy, Manon, a welaf fesul dalen

lle boddwyd y goleuni gan gysgodion gwyll,

y diffyg geiriau rhyngom, a’m calon euog

yn canmol dim ond dweud da’r stori fesul sill.

Ysaf am y distawrwydd na fentrwn ei fyrhau,

na fedrai ddod o hyd i’r geiriau i’w rhyddhau.

 

gan Gillian Clarke

cyfieithiad gan Ceri Wyn Jones