Gweithio gyda theuluoedd mewn Adolygiadau Dynladdiadau Domestig

Page Icon

 

Yng Nghynhadledd Bwrdd Diogelu Bae’r Gorllewin llynedd, cefais y pleser o gyfarfod a Frank Mullane, Prif Swyddog Gweithredol Advocacy After Fatal Domestic Abuse (AAFDA), Sefydlodd Frank AAFDA er cof am ei chwaer Julia Pemberton a’i mab Will a lladdwyd gan ei phartner. Mae Frank yn siaradwr diddorol iawn a dangosodd yn glir drwy ei brofiad ei hun pwysigrwydd sicrhau bod teuluoedd yn annatod i Adolygiadau Dynladdiadau Domestig. Pan welais y fideo hwn teimlais fod rhaid ei rannu. Dengys yn glir sut gall cynnwys teuluoedd mewn adolygiadau gynyddu’r dysgu a helpu diogelu dioddefwyr cam-drin domestig eraill yn y dyfodol. Gall gwrando ar ddisgrifiad o’r ffynhonnell helpu adolygwyr deall safbwynt y rhai effeithir arnynt fwyaf. Prin deg munud o hud yw’r ffilm, ond mae sicr werth ei gwylio.