Mae adroddiad newydd, sy’n ymchwilio i achosion yn Lloegr lle gwnaeth 23 o fabanod farw neu ddioddef niwed difrifol, yn galw ar fydwragedd, ymwelwyr iechyd a gweithwyr cymdeithasol i roi mwy o gymorth i dadau.
Mae’r Panel Adolygiadau Ymarfer Diogelu Plant yn Lloegr, sy’n banel annibynnol, yn adolygu achosion difrifol ym maes diogelu plant – pan fydd plentyn yn marw neu’n dioddef niwed difrifol a lle gwyddys neu yr amheuir bod camdriniaeth neu esgeulustod wedi digwydd. Mae adolygiad diweddaraf y panel yn ystyried bywydau babanod y gwyddid neu yr amheuid eu bod wedi dioddef niwed difrifol neu’u bod wedi cael eu lladd gan eu tad, eu llystad neu ddyn a oedd yn ofalwr iddynt. Y nod yw deall beth wnaeth i’r tramgwyddwyr niweidio eu plant a beth y gellid ei wneud i atal digwyddiadau tebyg.
Gallwch ddarllen yr adolygiad yma (Saesneg yn unig).