Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi cyhoeddi adroddiad newydd, Gadael Neb ar Ôl: Camau Gweithredu ar gyfer adferiad o blaid pobl hŷn
Mae’r adroddiad yn edrych ar yr effaith sylweddol mae Covid-19 wedi’i chael ar bobl hŷn ledled Cymru, ac yn cynnwys camau gweithredu mewn nifer o feysydd allweddol – gan gynnwys gofal cymdeithasol ac iechyd, yr economi a’n cymunedau – y mae’n rhaid eu cymryd wrth i ni symud ymlaen i sicrhau bod pobl hŷn yn gallu cyfrannu’n llawn at yr adferiad yng Nghymru, ac yn gallu cael gafael ar unrhyw gymorth sydd ei angen arnynt.
Mae’r Comisiynydd wedi nodi camau ymarferol y mae’n rhaid eu cymryd ar unwaith i fynd i’r afael â phroblemau sydd wedi’u creu gan y pandemig, yn ogystal â chamau tymor hwy i fynd i’r afael â’r problemau strwythurol ehangach sy’n effeithio ar bobl hŷn ac sydd wedi gwaethygu yn sgil Covid-19.
Mae’r adroddiad yn seiliedig ar dystiolaeth a gasglwyd drwy ymgysylltu’n helaeth â phobl hŷn, sydd wedi rhannu eu profiadau â’r Comisiynydd drwy gydol y pandemig, yn ogystal â gwybodaeth a thystiolaeth a gasglwyd drwy ymgysylltu’n barhaus â chyrff a sefydliadau sy’n gweithio gyda phobl hŷn ac ar eu rhan.
Gadael Neb ar Ôl - Camau Gweithredu ar gyfer adferiad o blaid pobl hŷn