Mynnwch Help Cadwch yn Ddiogel: Gwybodaeth a chymorth i pobl hŷn sy’n cael eu cam-drin

Page Icon

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi bod yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid fel rhan o’r Grŵp Gweithredu ar Atal Cam-drin a sefydlwyd gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru. Mae rhagor o wybodaeth am y gwaith hwn ar gael yma.

Fel rhan o’n gwaith, rydym wedi datblygu taflen wybodaeth newydd i ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth i bobl hŷn sy’n cael eu cam-drin, neu’r rheini a allai fod mewn perygl.

Mae’r daflen yn rhoi gwybodaeth i helpu pobl i adnabod arwyddion cam-drin a’r gwahanol fathau o gam-drin, yr hyn y gall pobl ei wneud os ydyn nhw’n poeni am rywun arall, a lle mae cymorth a chefnogaeth ar gael.

Mae copïau caled o’r daflen hefyd ar gael. Os hoffech chi rai i’w rhoi i’r bobl hŷn rydych chi’n gweithio gyda nhw ac yn eu cefnogi, cysylltwch â swyddfa’r Comisiynydd Pobl Hŷn drwy anfon neges i – ask@olderpeoplewales.com  – neu ffonio 03442 640 670.

#MynnwchHelpCadwchYnDdiogel

#DydychChiDdimArEichPenEichHun

 

 

Mynnwch help cadwch yn ddiogel