Nod yr adnoddau hyn yw hyrwyddo a chefnogi arferion gwrth-hiliol ym maes diogelu plant.
Fel yn achos pob un o ddeunyddiau ‘gwirio eich ffordd o feddwl’, cafodd yr adnoddau hyn eu datblygu ar y cyd a’u hanelu at ofalwyr, ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol. Maen nhw’n rhoi’r cyfle ichi ystyried eich ffordd o feddwl am hiliaeth, stereoteipiau a rhagdybiaethau hiliol, beth mae’n ei olygu i fod yn wrth-hiliol, ac i’ch helpu chi i feddwl am yr hyn y gallwch chi ei wneud i newid a hyrwyddo’r ffordd hon o feddwl.
Arferion gwrth-hiliol ym maes diogelu plant – Check Your Thinking