Dyma Adroddiad Blynyddol cyntaf y Bwrdd Diogelu Gwladol Annibynnol a sefydlwyd yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014. Mae gan y Bwrdd Gwladol dair dyletswydd sylfaenol. Mae’r rhain fel a ganlyn:
1. Darparu cefnogaeth a chyngor i Fyrddau Diogelu er mwyn sicrhau eu bod yn gweithredu’n effeithiol
2. Adrodd ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd y trefniadau i ddiogelu plant ac oedolion yng Nghymru
3. Gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru ynglŷn â’r modd y gellir gwella’r trefniadau hynny (Adran 132 (2)).
Mae’r rheoliadau a wnaed yn unol â Ddeddf 2014 yn nodi’r ffordd y dylai’r Bwrdd Gwladol arfer ei swyddogaethau. Un swyddogaeth bwysig yw’r angen i ymgynghori â’r rheiny a allai gael eu heffeithio gan y trefniadau i ddiogelu plant ac oedolion yng Nghymru.1
Mae’r Bwrdd Gwladol yn gweithio yn rhan-amser. Disgwylir i’w chwe aelod dreulio o leiaf ddiwrnod y mis yn gweithio ar faterion y Bwrdd Gwladol.
Mae Deddf 2014 yn nodi amcanion statudol y Byrddau Diogelu, yng nghyd-destun diogelu plant:
1. “Amddiffyn plant yn yr ardal benodol sy’n dioddef, neu sydd mewn perygl o ddioddef, camdriniaeth, esgeulustod neu fathau eraill o niwed, ac
2. Atal plant yn yr ardal benodol rhag wynebu risg o gamdriniaeth, esgeulustod neu fathau eraill o niwed” (Ad.135 (1))
ac yng nghyd-destun oedolion:
a. “Amddiffyn oedolion yn yr ardal benodol sydd –
(i) Angen gofal a chymorth (pa un ai yw’r awdurdod lleol yn bodloni unrhyw un o’r anghenion hynny ai peidio)
(ii) Yn dioddef, neu sydd mewn perygl o ddioddef, camdriniaeth neu esgeulustod, a
b. Atal yr oedolion hynny yn yr ardal benodol … rhag wynebu risg o gamdriniaeth neu esgeulustod”(Ad.135 (2)).
Mae Deddf 2014 hefyd yn datgan bod yn rhaid i Fwrdd Diogelu, “Geisio cyflawni ei amcanion drwy gydlynu a sicrhau effeithiolrwydd yr hyn a wneir gan bob person neu gorff a gynrychiolir ar y Bwrdd” (Ad.135 (3)); ac i nodi’r cynigion a wneir er mwyn cyflawni’r amcanion ar ddechrau pob blwyddyn ariannol (Ad. 136 (1)); ac i “gydweithredu â’r Bwrdd Gwladol ac i … roi i’r Bwrdd Gwladol unrhyw wybodaeth y gwneir cais amdani” (Ad. 139 (1)).
Disgwylir i bob Bwrdd Diogelu nodi a meincnodi’r meysydd lle mae angen gwelliant. Mae’r canllawiau statudol yn datgan mai un o swyddogaethau’r Byrddau Diogelu yw “adolygu anghenion hyfforddiant y gweithwyr hynny sy’n cynrychioli meysydd gweithgarwch y Bwrdd er mwyn nodi gweithgareddau hyfforddi a sicrhau bod hyfforddiant yn cael ei ddarparu ar sail rhyngasiantaethol ac ymhob sefydliad unigol er mwyn cynorthwyo â’r gwaith o warchod ac atal camdriniaeth ac esgeulustod o blant ac oedolion sydd yn wynebu risg yn ardal y Bwrdd penodol“ (para.113 (j)).
O ran y Byrddau Diogelu, rôl ymgynghorol yn unig sydd gan y Bwrdd Gwladol. Nid yw’n goruchwylio nac yn hierarchaidd. Y mae’r Bwrdd Gwladol, fodd bynnag, yn ymwybodol o’r heriau sy’n wynebu’r Byrddau Diogelu. Mae’r heriau hynny’n cynnwys y canlynol:
Maes o law, bydd Adroddiadau Blynyddol y Bwrdd Gwladol yn cynnwys gwybodaeth am waith a chanlyniadau Byrddau Diogelu Plant a Byrddau Diogelu Oedolion. Fodd bynnag, gan nad yw’n ofynnol i’r Byrddau hyn gyhoeddi eu Hadroddiadau Blynyddol nhw tan fis Gorffennaf 2017, bydd y Bwrdd Gwladol yn y cyfamser yn manteisio ar y cyfle i dynnu sylw at oblygiadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014 i wasanaethau diogelu drwy ymwneud â’r canlynol:
a. diffiniadau o gamdriniaeth, esgeulustod, niwed a risg
b. y potensial i ddiogelu
c. Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles 2014, Deddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 a Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015
ch. y rhyngwyneb rhwng Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014 ac (i) Deddf Galluedd Meddyliol 2005 a Deddf Cyfiawnder Troseddol a’r Llysoedd 2015.
Bydd y sail hon yn fodd i wella’r argymhellion y gall y Bwrdd Gwladol eu rhoi i Weinidogion Cymru ynglŷn â digonolrwydd ac effeithiolrwydd y trefniadau diogelu ac a oes modd gwella’r rhain ai peidio.
Mae Deddf 2014 yn nodi “amddiffyniad rhag camdriniaeth ac esgeulustod” fel elfen hanfodol o les person (Ad.2). Mae’n diffinio cam-drin yn Ad.197 fel “[cam-drin] corfforol, rhywiol, seicolegol, emosiynol neu ariannol … (gan gynnwys cam-drin sy’n digwydd mewn lleoliad o unrhyw fath, boed hwnnw’n gartref preifat, sefydliad neu unrhyw fan arall), ac mae ‘cam-drin ariannol’ yn cynnwys –
(a) Dwyn arian neu eiddo arall;
(b) Dioddef twyll;
(c) Dioddef pwysau gan rywun arall mewn perthynas ag arian neu eiddo arall;
(ch) Dioddef achos o gamddefnyddio arian neu eiddo arall.”
Mae enghreifftiau o bob math o gam-drin ac esgeulustod i’w gweld yn y canllawiau statudol (para. 26).
Mae Ad.197 yn diffinio esgeulustod fel “methiant i ddiwallu anghenion corfforol, emosiynol, cymdeithasol neu seicolegol sylfaenol person, a hynny’n debygol o arwain at niwed i les y person (er enghraifft, niwed i iechyd y person neu, yn achos plentyn, niwed i ddatblygiad y plentyn.”
Mae’r diffiniadau o gamdriniaeth ac esgeulustod yn berthnasol i blant ac oedolion fel ei gilydd.
Mae osgoi niwed hefyd yn hollbwysig yn y cysyniad o ddiogelu yng nghyd-destun plant:
Mae “niwed” wrth sôn am blentyn yn golygu cam-drin neu niweidio (a) iechyd corfforol neu feddyliol neu (b) ddatblygiad corfforol, deallusol, emosiynol, cymdeithasol neu ymddygiadol ac mae pa un ai yw’r “niwed” hwnnw yn sylweddol neu beidio yn ddibynnol ar gymhariaeth â’r hyn y gellid yn rhesymol ddisgwyl ei weld mewn plentyn tebyg (Ad.197).
Mae “plentyn mewn perygl” yn “blentyn sydd (a) yn dioddef neu mewn perygl o ddioddef camdriniaeth, esgeulustod neu fathau eraill o niwed, a (b) plentyn a chanddi/o anghenion gofal a chymorth (pa un ai yw’r awdurdod yn bodloni unrhyw un o’r anghenion hynny ai peidio” (Ad.130 (4)).
Mae adran 130 yn nodi bod gan asiantaethau partner “ddyletswydd i wneud adroddiad” am “blentyn sy’n wynebu risg.”
Mae’r ddyletswydd i wneud ymholiadau yn unol ag Ad.47 Deddf Plant 1989 yn parhau mewn grym ac nid oes yna newid i’r adran honno yn Neddf 2014 (Ad.130 (6)).
Mae adran 126 (2) o Ddeddf 2014 yn ei gwneud hi’n ofynnol i awdurdod lleol wneud ymholiadau ac i benderfynu a ddylid cymryd unrhyw gamau angenrheidiol os oes yna achos rhesymol i amau bod oedolyn yn ardal yr Awdurdod Lleol mewn perygl. Diffinnir oedolyn mewn perygl fel un “sydd (a) yn dioddef neu mewn perygl o ddioddef camdriniaeth neu esgeulustod, a (b) unigolyn ag anghenion gofal a chymorth (pa un ai yw’r awdurdod yn bodloni unrhyw un o’r anghenion hynny ai peidio), a (c) unigolyn sydd, o’r herwydd, yn methu ag amddiffyn ei hun rhag camdriniaeth neu esgeulustod neu’r risg o gam-drin neu esgeulustod” (Ad.126 (1)).
Mae ar asiantaethau partner “ddyletswydd i wneud adroddiad” os gellir yn rhesymol gredu y gallai oedolyn fod mewn perygl (Ad. 128).
Nid yw Deddf 2014 yn cyfeirio mewn unrhyw fodd at “feini prawf o ran cymhwyster” neu at “drothwyon” yng nghyd-destun risg. Mae hynny’n gwbl fwriadol. Mae’r gwahanol fathau o gamdriniaeth bosib mor eang fel y byddai’n bosib, o ddiffinio’n rhy gyfyng, i rai enghreifftiau syrthio y tu allan i gwmpas y meini prawf.
Mae’r Bwrdd Gwladol yn cydnabod bod yr angen i atal niwed yn un o dasgau mwyaf heriol holl weithgarwch dyn. Er enghraifft, mae ymchwil gan Iechyd Cyhoeddus Cymru3 yn dangos bod cam-drin yn gysylltiedig â sbectrwm o niwed yn y tymor hwy a hynny’n amrywio o symptomau mwy ysgafn fel gofid i broblemau â chamddefnyddio sylweddau (cyffuriau), niwed i iechyd meddwl a hunanladdiad. Mae’n dilyn, felly, bod canlyniadau camdriniaeth yn mynd y tu hwnt i ddioddefaint unigol a bod i’r canlyniadau hynny gostau economaidd a dynol sylweddol. Serch hynny, gwelwyd cynnydd yn yr ymwybyddiaeth gyhoeddus o wahanol fathau o gam-drin ac, yn fwy diweddar, mae ecsbloetio plant yn rhywiol, masnachu pobl a sgamio a rheoli pobl wedi dod yn rhan o’r eirfa gyffredin. Hynny yw, wrth i ganfyddiad y cyhoedd o’r termau hyn gynyddu, felly y mae’r disgwyliadau parthed diogelu yn cynyddu. Mae angen dulliau realistig, felly. Mae unigolion sy’n mynegi eu pryderon ynghyd â chydweithredu proffesiynol yn ffactorau hanfodol ill dau o ran sicrhau bod y broses ddiogelu yn effeithiol. Mae hi’n hanfodol hefyd ein bod yn casglu data sy’n ymwneud â phrofiad pobl o niwed – er bod arwyddocâd ac effeithiau hynny yn gyfyngedig i’r hyn sy’n wybyddus.
Gwnaeth y cyfryngau gyfraniad sylweddol o ran datgelu yr ehangder a’r amrywiaeth o wahanol fathau o gam-drin sy’n bosib drwy hybu syniad o gam-drin ac esgeuluso i gynnwys ystyriaeth o’r canlynol:
Fodd bynnag, dim ond cipolygon yw’r rhain ar y darlun cyflawn. Mae’n rhaid i ni ddibynnu ar weithwyr proffesiynol i ddarparu cyd-destun ehangach. Rôl yr heddlu, cyfreithwyr, rheoleiddwyr, crwneriaid, ymchwilwyr, gweithwyr iechyd proffesiynol a gweithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol yw casglu a hidlo ffeithiau ac ystyried pa mor ddibynadwy ydynt. Mae enghreifftiau o ymyriadau gwerthfawr – ymyriadau a arweiniodd at ganlyniadau cadarnhaol – yn cynnwys:
Mae eraill hefyd wedi gwneud cyfraniadau gwerthfawr at y gwaith o gasglu a hidlo ffeithiau:
Yn fwy diweddar yng Nghymru:
Mae’r Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol, dan gadeiryddiaeth yr Athro Alex Jay, bellach wedi agor ei swyddfa yng Nghymru. Drwy gyfrwng Prosiect y Gwirionedd, Gwrandawiadau Cyhoeddus a Phrosiect Ymchwil, bydd y swyddfa’n ymchwilio i fethiannau sefydliadau i amddiffyn plant rhag cael eu cam-drin yn rhywiol yn y gorffennol ac yn y presennol. Bydd yn sicrhau bod y rheiny sy’n gyfrifol am gamdriniaeth yn mynd o flaen eu gwell, ac yn gwneud argymhellion er mwyn diogelu cenedlaethau o blant yn y dyfodol.
Mae i ddatblygiadau a newidiadau o’r fath fwy o lawer o werth ym maes diogelu na’u grym anecdotaidd yn unig. Maent yn brawf o effeithiau cadarnhaol i unigolion ac i arferion proffesiynol ac maent yn cydgysylltu’n agos iawn â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru).
Daeth Deddf 2014 i rym cyflawn ar 6 Ebrill 2016. Fe ddiddymodd neu fe ddad-gymhwysodd y ddeddf hon ddeddfwriaeth gofal yn y gymuned a fodolai cyn hynny yng Nghymru.10
Nod Ddeddf 2014 yw integreiddio gwasanaethau cymdeithasol er mwyn cefnogi pobl o bob oed, a chefnogi pobl fel rhan o deuluoedd a chymunedau – y dull “pobl” yw hwn. Fe’i bwriedir i drawsnewid y ffordd y caiff gwasanaethau cymdeithasol eu darparu, yn bennaf drwy hybu annibyniaeth pobl er mwyn rhoi mwy o lais a rheolaeth iddynt. Y disgwyl yw y bydd integreiddio a symleiddio’r gyfraith yn sicrhau mwy o gysondeb ac eglurder i bobl sy’n defnyddio gwasanaethau cymdeithasol, eu gofalwyr, staff yr awdurdodau lleol, eu sefydliadau partner nhw, ac i’r llys a’r farnwriaeth. Bwriad y Ddeddf, fel y’i nodir, yw hyrwyddo cydraddoldeb a sicrhau gwelliannau yn ansawdd y gwasanaethau a’r wybodaeth y mae pobl yn eu derbyn. Mae yna ffocws cyfun ar atal ac ymyrraeth gynnar. Mae Deddf 2014 yn canolbwyntio ar sicrhau canlyniadau i unigolion a hybu lles yr unigolyn. Yn rhan o’r cynllun newydd, mae dyletswyddau newydd i wneud adroddiadau am oedolion a phlant sydd mewn perygl – Ad.126 ac Ad.130 – yn dod i rym, fel y mae’r Gorchmynion Amddiffyn a Chefnogi Oedolion newydd – Ad.127. Mae Byrddau Diogelu Oedolion a Diogelu Byrddau Plant newydd yn cael eu ffurfio; caiff y Bwrdd Diogelu Gwladol Annibynnol ei gyflwyno ac fe gaiff dyletswyddau newydd eu gosod er mwyn sicrhau cydweithrediad rhwng asiantaethau. 11 Y nod yw gwella’r broses ddiogelu drwy roi’r adrannau hyn ar waith. Ni fwriedir i unrhyw elfen o’r Ddeddf danseilio neu amharu ar ddyletswyddau a phwerau a nodir mewn cynlluniau deddfwriaethol eraill a gynlluniwyd i ddiogelu plant ac oedolion.12
Hynny yw, mae darpariaeth Deddf Plant 1989 o ran diogelu yn parhau mewn grym ac mae’r darpariaethau sy’n weddill o Ddeddf Plant 1989 yn cydfodoli â darpariaeth Deddf 2014.13 Fe all plentyn y mae angen gwarchodaeth arni/o yn unol â Deddf Plant 1989 hefyd fod angen gofal a chymorth yn unol â Rhannau 3 a 4 Deddf 2014. Yn yr un modd mae’r dyletswyddau a’r swyddogaethau sydd gan wasanaethau cymdeithasol yng Nghymru, parthed pob plentyn a ddiogelir neu a lochesir, yn cael eu nodi yn Rhan 6 Deddf 2014.
Yng Nghymru, cafodd cyfreithiau strategol eu rhoi ar waith gyda’r bwriad o newid y ffordd yr ydym yn meddwl fel Cenedl ac er mwyn hybu lles y boblogaeth yng Nghymru. Mae Deddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn weithredol bellach. Y bwriad yw i Ddeddf 2015 orfodi’r cyrff cyhoeddus a restrir yn y Ddeddf i ystyried effeithiau tymor hir, i weithio’n well gyda phobl a chymunedau a’i gilydd, i geisio atal problemau ac i fabwysiadu agwedd fwy cydgysylltiedig. Bydd hynny’n golygu bod yn rhaid i gyrff cyhoeddus wneud yr hyn a wnânt mewn modd cynaliadwy. Wrth wneud penderfyniadau, rhaid i gyrff cyhoeddus ystyried yr effaith y gallai eu penderfyniadau eu cael ar bobl sy’n byw yng Nghymru yn y dyfodol. Er enghraifft, pan fydd awdurdod lleol yn ystyried adeiladu ysgol newydd neu gyfleusterau hamdden neu yn ystyried cau llyfrgell, rhaid iddo ystyried yn awr nid yn unig anghenion uniongyrchol y gymuned y mae’n ei gwasanaethu ond ei hanghenion yn y dyfodol hefyd. Y bwriad yw sicrhau bod y cynlluniau a wneir gan gyrff cyhoeddus yn hybu lles trigolion Cymru yn y dyfodol.
Caiff y modd y mae Cymru yn ymateb i gam-drin a thrais ei ddiffinio’n gyfreithiol yn Neddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015. Nid yw’r Ddeddf hon yn altro’r gyfraith droseddol. Fodd bynnag, nod y Ddeddf yw gwella ymateb Sector Cyhoeddus Cymru i gamdriniaeth o fenywod, ac i wella’r trefniadau ar gyfer hybu ymwybyddiaeth, atal, amddiffyn a chefnogi’r rheiny sy’n dioddef trais ar sail rhyw, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae’n cyflwyno dull yn-seiliedig-ar-angen, er mwyn datblygu strategaeth gref ac atebolrwydd cynyddol yng nghyd-destun gweithredoedd o’r fath drwy benodi Ymgynghorydd Gweinidogol. Bydd rôl y person hwnnw yn cynnwys cynghori Gweinidogion Cymru a gwella’r cydweithio presennol rhwng asiantaethau yn y sector hwn. Bwriedir i wasanaethau cydgysylltiedig gael eu darparu er mwyn sicrhau cysondeb ac ansawdd gwasanaethau ledled Cymru.
Mae’r ddeddfwriaeth Gymreig newydd, ynghyd â Deddf 2014 a Deddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol 2015, yn pwysleisio’r symudiad yng Nghymru tuag at sicrhau canlyniadau pendant o ran lles unigolion – a thrwy hynny hybu lles y genedl gyfan. Boed hynny yng nghyd-destun lles yr unigolyn neu yng nghyd-destun y boblogaeth yn gyffredinol, mae’r angen i ddiogelu oedolion a phlant wrth wraidd y syniad o les a hybu lles.
1 Rheoliad 7 o Reoliadau Bwrdd Diogelu Gwladol Annibynnol (Cymru) (Rhif 2) 2015
2 Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Lles a Chwaraeon, a’r Gweinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol a Iechyd y Cyhoedd
3 http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/888/news/40000 (cyrchwyd ar 26 Hydref 2016)
4 http://www.college.police.uk/News/Newsletter/January2015/Documents/CoP_AE_Guidance_report_final.pdf (cyrchwyd ar 12 Awst 2016)
5 www.youtube.com/watch?v=tZ3Jkq8QlF8 (cyrchwyd ar 5 Gorffennaf)
6 www.youtube.com/watch?v=Tx0-A6jqFWA&app=desktop (cyrchwyd ar 5 Gorffennaf 2016). Yn y cyfweliad hwn, mae Gwyneth Swain, mam Kim Buckley (46 oed), a mam-gu Kayleigh (17 oed) a hen fam-gu Kimberley (oed 6 mis) yn esbonio sut y bu i’w hwyres gwrdd â’i phartner ar-lein ac nad oedd y teulu’n gwybod dim am ei hanes treisgar yntau. Rheolodd y gŵr hwnnw fywyd ei hwyres a daeth i fod yn eiddigeddus o’u babi. Cyneuodd dân yn eu cartref a gwylio wrth i’r ymdrechion i achub Kim, Kayleigh a Kimberley fethu. Neges Gwyneth i wasanaethau oedd “Gofynnwch sut y gallwch chi helpu”.
7 Bentley, H., O’Hagan, O, Raff, A. & Bhatti, I. (2016) How safe are our children? Llundain: NSPCC
8 http://www.hafal.org/wp-content/uploads/2015/06/A-report-by-young-people-on-their-well-being-and-mental-health.pdf (cyrchwyd ar 23 Hydref 2016)
9 Yr Athro Mark Bellis a’i gydweithwyr
10 Rhannau 3 a 4 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 • Adran 3 o Ddeddf Pobl Anabl (Cyflogaeth) 1958 • Adran 45 o Ddeddf Gwasanaethau Iechyd a Iechyd y Cyhoedd 1968 • Adrannau 1, 2 a 28A o Ddeddf Cleifion Cronig a Phersonau Anabl 1970 • Adran 17 Deddf Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Dyfarniadau Nawdd Cymdeithasol 1983 • Adrannau 3, 4 ac 8 o Ddeddf Pobl Anabl (Gwasanaethau, Ymgynghoriadau a Chynrychioliadau) 1986 • Adran 46 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (DS Mae adran 47 o Ddeddf 1990 yn cael ei ddiwygio fel na fydd yn berthnasol i’r gwaith o asesu a chyflawni anghenion o ran gwasanaethau gofal cymunedol, yn yr ystyr bod y rhain bellach yn cael eu darparu gan delerau Deddf 2014, ond bydd yn parhau i fod yn berthnasol i asesu a chyflawni anghenion yn unol ag adran 117 Deddf Iechyd Meddwl 1983) • Deddf Gofalwyr (Cydnabyddiaeth a Gwasanaethau) 1995 • Deddf Gofalwyr (Cydnabyddiaeth a Gwasanaethau) 1995 • Deddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000 • Adrannau 49, 50, 54, 56 a 57 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 • Adran 16 o Ddeddf Gofal Cymunedol 2003 • Deddf Gofalwyr (Cyfleoedd Cyfartal) 2004 • Adran 192 ac Atodlen 15 o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 • Deddf Gofal Personol yn y Cartref 2010 • Deddf Costau Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2010 • Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2010 (DS mae’r mesur hwn yn cael ei ddiddymu o ganlyniad i’r darpariaethau yn adran 14 o Ddeddf 2014 sy’n ei gwneud hi’n ofynnol i awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd lleol gynnal asesiadau o anghenion y boblogaeth leol, gan gynnwys anghenion gofalwyr).
11 Gweler Ad.167 “Adnoddau ar gyfer trefniadau partneriaeth”, er enghraifft
12 Mae’r Rheoliadau a wnaed yn Neddf 2014 yn diddymu Adrannau 31-34 o Ddeddf Plant 2004. Diddymodd Deddf 2014 Rhan III ac Atodlen 2 o Ddeddf Plant 1989 yng Nghymru (er bod y rheiny’n dal i fod mewn grym yn Lloegr). Nid oes yna ddim yn Neddf 2014 sy’n cael unrhyw effaith sylweddol ar weddill Deddf 1989. Yn benodol, nid oes ddim sydd yn newid y darpariaethau ar gyfer diogelu a welir yn Neddf Plant 1989 (a gynhwysir yn bennaf yn Rhannau IV a V Deddf 1989). Mae Adran 47 Deddf Plant yn dal i fod yn weithredol – fel y mae Adrannau 31 a 44 Deddf 1989.
13 Nid yw Rhan III o Ddeddf Plant 1989 yn weithredol bellach yng Nghymru