Canllaw Ymarferol i Orchmynion Diogelu Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod a Gorchmynion Diogelu Priodasau dan Orfod

Page Icon

Dyddiad:      Dydd Mercher 6 Mawrth 2019

Amser:         0900 – 1530

Cyfeiriad:     Neuadd y Ddinas, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3ND

Mae Gorchmynion Priodasau dan Orfod ac Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod yn waharddebau sifil sy’n cynnig dull cyfreithiol o amddiffyn a diogelu dioddefwyr a dioddefwyr posibl yr arferion niweidiol hyn. Mae’r broses o gael gorchymyn yn syml iawn, a gall gael effaith gadarnhaol sylweddol ar fywyd y person i’w ddiogelu.

Nod y digwyddiad hwn yw codi ymwybyddiaeth o gwmpas ac effeithiolrwydd y gorchmynion a chyflwyno canllaw ymarferol ar wneud cais, gyda’r nod o annog gweithwyr proffesiynol i’w hystyried bob amser mewn unrhyw gynlluniau diogelu.

Beth allwch chi ddisgwyl ei ddysgu?

  • Beth yw anffurfio organau cenhedlu benywod?
  • Beth yw priodasau dan orfod a thrais ‘ar sail anrhydedd’?
  • Sut i adnabod risg
  • Tystiolaeth bwerus gan oroeswr
  • Ymarferoldeb cael gorchymyn
  • Adnoddau i’ch helpu i wneud cais
  • Rhaglen ddysgu – astudiaethau achos

Ar gyfer pwy mae’r digwyddiad?

  • Gweithwyr cymdeithasol
  • Yr heddlu
  • Y rhai sy’n gweithio yn y llysoedd teulu a throseddol
  • Gweithwyr cyfreithiol proffesiynol
  • Gweithwyr iechyd proffesiynol
  • Gweithwyr addysg proffesiynol
  • Cyrff anllywodraethol
  • Elusennau diogelu
  • Yn wir, unrhyw un a all wneud gwahaniaeth i fywyd rhywun trwy ei  gynghori neu ei helpu i wneud cais am orchymyn.

Mae’r digwyddiad hwn AM DDIM ac yn cael ei gynnal gan y Swyddfa Gartref mewn partneriaeth â’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, Llywodraeth Cymru, Heddlu De Cymru a’r Ganolfan Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod Genedlaethol.

To book a place follow this link; https://gov.smartwebportal.co.uk/homeoffice/public/webform.asp?id=146&id2=B52823

 

To note: Upon completing your details, you should immediately receive an email asking you to verify your email address. If this does not happen your firewall may not be allowing it through, so respectfully request that you try an alternative email address. If problems persist please contact Gill Squires (as below) Also to note, there is no confirmation email – however if you receive the verification email and click the link you WILL be registered.

Mae llefydd yn brin ac rydym yn disgwyl i’r digwyddiad hwn fod yn boblogaidd iawn. Felly, gofynnwn i unrhyw un sydd wedi cofrestru ond na all fod yn bresennol roi gwybod i ni cyn gynted â phosibl gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost isod er mwyn i ni allu ailddyrannu ei le. Mae rhestr aros ar gael.

I wneud ymholiadau ynghylch archebu lle, cysylltwch â Gillian.Squires1@homeoffice.gov.uk

Cyfarwyddiadau

Car: Cod post neuadd y Ddinas yw CF10 3NP

Trên: Tua 15 munud ar droed o Orsaf Reilffordd Caerdydd Canolog; tua 10 munud ar droed o Orsaf Reilffordd Stryd y Frenhines Caerdydd; tua 9 munud ar droed o Orsaf Reilffordd Cathays

Parcio

Ychydig iawn o lefydd parcio sydd ar y safle. Cynghorir ymwelwyr i ddefnyddio’r llefydd parcio ar y stryd am dâl o gwmpas Neuadd y Ddinas. Ni all Cyngor Caerdydd gadw llefydd i ymwelwyr oni bai bod angen gwneud trefniadau arbennig ar gyfer dadlwytho cyfarpar ac ati (gweler map o Gynllun Parcio Neuadd y Ddinas). Mae llefydd parcio i bobl anabl o flaen y brif fynedfa, a gellir cael mynediad i’r ardal hon trwy’r bolardiau ym mynedfa’r Dwyrain.

Dylai ymwelwyr â gofynion mynediad arbennig gysylltu â Neuadd y Ddinas ymlaen llaw.

Mae llefydd parcio ar gael yn Castle Mews (330 Heol y Gogledd, Caerdydd CF10 3EW) ac ar Heol y Gogledd (30 Heol y Gogledd, Caerdydd CF10 3DY).

Mae meysydd parcio eraill ar Heol y Brodyr Llwydion a Phlas Dumfries.

*Gall ffioedd parcio newid.

Darllenwch hwn yn ofalus cyn archebu lle:

  • Mae hwn yn ddigwyddiad am ddim, ond gofynnir i chi gysylltu â’r trefnydd cyn gynted â phosibl os na allwch chi fod yn bresennol er mwyn i ni allu ailddyrannu eich lle.
  • PEIDIWCH ag archebu mwy nag un tocyn o dan yr un enw. Rhaid i bob cynrychiolydd gofrestru ar wahân i helpu gyda rheoliadau tân a chofrestru.
  • Os ydych chi angen unrhyw addasiadau rhesymol, rhowch wybod i’r trefnydd.

Arddangoswyr – Os hoffech chi hyrwyddo a rhannu gwybodaeth am wasanaethau eich sefydliad yn y digwyddiad, gwnewch gais am fwrdd trwy gysylltu â DC Gill Squires ar Gillian.Squires1@homeoffice.gov.uk