Cyfarfod y BDAC – 8 Mai 2017
Dyma gyfarfod cyntaf ail flwyddyn y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol a chytunom fod ein mis mêl drosodd!
Roedd gennym agenda lawn a ddechreuodd gyda’r diweddaraf gan Lywodraeth Cymru. £200k yw ein cyllideb ar gyfer Ebrill 2017-Mawrth 2018. Clustnodwyd hanner hyn i’n cynllun gwaith a hanner i ffioedd ac ysgrifenyddiaeth. Wedi darparu adborth ar y canllawiau statudol ynghylch Trin Achosion Unigol rydym wedi ymrwymo i ystyried a chyfrannu at fersiynau terfynol. Trafodom syniadau ar gyfer cynhadledd yn ystod Wythnos Genedlaethol Diogelu (13 – 17 Tachwedd). Penderfynwyd bod thema diogelu, chwaraeon a lles yn amserol oherwydd y sgandal a effeithiodd ar sawl clwb pêl droed yn sgil datguddiad y cyn bêl-droediwr Andy Woodward am ymosodiadau rhywiol.
Edrychom ar gynnydd mewn gweithgareddau yn ymwneud â’n cynllun gwaith. Er enghraifft, trafodom ymateb y Bwrdd i strategaeth ddrafft Llywodraeth Cymru ar ddementia; adroddiad rhagarweiniol gan Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant Prifysgol Caerdydd sy’n ymwneud ag Addysg Ddewisol yn y Cartref; adborth ar ein cais dan Adran 139 ynghylch hyfforddiant diogelu; a’n hargymhellion i Weinidogion Cymru am ddiffyg darpariaeth breswyl ar gyfer plant a phobl ifanc.
Trafodom enghreifftiau o ymarfer addawol wrth feddwl am waith y chwe Bwrdd Rhanbarthol. Yn olaf, daeth y cyfarfod i ben gyda phenderfyniad am logo’r BDAC, o fawr ryddhad i Croatoan Design (sy’n creu ein gwefan).
Paratowyd y nodiadau hyn gan Margaret Flynn, Cadeirydd
139.(1) Rhaid i Fwrdd Diogelu gydweithredu â’r Bwrdd Cenedlaethol, a rhaid iddo gyflenwi i’r Bwrdd Cenedlaethol unrhyw wybodaeth y mae’n gofyn amdani. Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014