Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“Deddf Cymru”) yn gosod dyletswydd “gyffredinol” ar rai cyrff i hyrwyddo “llesiant” amryw grwpiau cymdeithasol. Mae’r erthygl hon yn ystyried achos diweddar yn Lloegr, sy’n berthnasol – drwy debygrwydd – i Ddeddf Cymru ac y mae rhai goblygiadau’n perthyn iddo o safbwynt perthnasedd cyfyngiadau ariannol i benderfyniadau a wneir dan Ddeddf Cymru.
Roedd yn amlwg bod ystyriaethau cyllidebol wedi cyfrannu at benderfyniad yr awdurdod lleol i symud dyn 24 oed ag awtistiaeth ddifrifol, yn yr achos a elwir yn R (JF) v Merton LBC. Cynhaliodd awdurdod lleol asesiad o anghenion dan y Ddeddf gyfatebol berthnasol yn Lloegr, a daeth i’r casgliad y gallai anghenion JF gael eu diwallu mewn amgylchedd lle câi llai o gymorth ei ddarparu. Penderfynodd Anne Whyte CF, Dirprwy Farnwr yr Uchel Lys, y dylid diddymu asesiad yr awdurdod a’r bwriad i symud JF; y prif resymau dros ei phenderfyniad oedd y ffaith bod yr awdurdod wedi penderfynu symud JF cyn iddo gynnal asesiad o anghenion JF, a’r ffaith nad oedd yr adroddiad a gomisiynwyd gan y cartref preswyl a fyddai’n derbyn JF yn adroddiad digon trylwyr.
Mae achos JF yn dweud llawer wrthym am ddull y Llys o oruchwylio penderfyniadau a wneir gan awdurdodau dan Ddeddf Cymru; bydd y Llys yn archwilio’r penderfyniad ar sail y safon sy’n gysylltiedig ag egwyddor Wednesbury a ‘chraffu awchus’; hynny yw, bydd y Llys yn rhoi pwys mawr ar resymoldeb pob cam a oedd yn rhan o broses yr awdurdod wrth ddod i benderfyniad, ond ni fydd o reidrwydd yn pennu canlyniad penodol. Felly, os yw awdurdod yn hollol ymwybodol o union anghenion unigolyn ond nad oes ganddo’r adnoddau i ymateb iddynt yn briodol, ni fydd penderfyniad yr awdurdod o reidrwydd yn afresymol.
Felly, er bod Deddf Cymru yn bwysig o safbwynt cysyniadol, bydd ystyriaethau ariannol yn dal i chwarae rôl dyngedfennol o ran llesteirio ymdrechion i ddad-wneud amddifadedd cymdeithasol. Wedi dweud hynny, bydd angen i awdurdodau fod yn glir iawn ynghylch y rôl y mae ystyriaethau o’r fath yn ei chwarae yn eu proses ar gyfer gwneud penderfyniadau.
Giles Pengelly
Disgybl Chwe Mis Cyntaf yn Siambrau 30 Park Place, Caerdydd