Cyfarfod y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol (NISB)
Cofnodion Cyfarfod
Dyddiad: 14 Mai 2025 Amser: 09.30am Cyfarfod Teams
Yn bresennol:
• Tony Young (Cadeirydd NISB)
• Lin Slater (Is-gadeirydd NISB)
• Desmond Mannion (Aelod Bwrdd)
• Artie Meakin (Aelod Bwrdd)
• Emma Logan (Ysgrifennydd NISB)
Ymddiheuriadau:
• Carys James (Aelod Bwrdd)
Eitemau’r Agenda a Chrynodeb Manwl:
1. Croeso ac Ymddiheuriadau:
Croesawodd TY bawb a oedd yn bresennol a nodi’r ymddiheuriadau.
2. Gwrthdaro Buddiannau:
Gofynnodd y Cadeirydd i’r aelodau ddatgan unrhyw wrthdaro buddiannau, ond ni chafwyd unrhyw ddatganiadau.
3. Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol a gynhaliwyd ddydd Mercher 16 Ebrill 2025
Cytunwyd bod y cofnodion yn gywir. Cytunwyd y byddai cofnodion ar gael ar wefan NISB o hyn ymlaen.
Materion yn codi:
Cadarnhawyd y byddai sesiwn datblygu NISB yn cael ei chynnal ddydd Iau, 3 Gorffennaf yn adeiladau Llywodraeth Cymru yng Nghaerdydd, a chytunwyd y byddai Llywodraeth Cymru (TS) yn cael gwahoddiad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd yr argymhellion a wnaed i Weinidogion yn adroddiad blynyddol NISB. Roedd eitemau eraill y sesiwn yn cynnwys ystyried y ‘camau nesaf’ ar gyfer gwaith i ddiogelu oedolion. Byddai fframwaith cylch blynyddol hefyd yn cael ei gynhyrchu.
4. Gwefan NISB
Nodwyd bod gwefan NISB wedi cael ei symleiddio, gan sicrhau bod yr holl wybodaeth angenrheidiol yn parhau i fod ar gael. Mae angen cadarnhau’r cyfeiriad e-bost cyswllt er mwyn gwneud NISB yn fwy hygyrch.
Cytunwyd y byddai diweddariad chwarterol, wedi’i gymeradwyo gan Gadeirydd y Bwrdd, yn helpu i gadw cynnwys y wefan yn gyfredol.
Mewn awgrymiadau pellach trafodwyd cylchdroi’r cyfrifoldeb dros gynnal swyddogaeth olygyddol. Awgrymwyd hefyd y dylid creu adran adnoddau ar gyfer offer ymarfer, wedi’i chynhyrchu gan fyrddau rhanbarthol. Cytunwyd ar hyn a nodi camau gweithredu, gan gynnwys cyfarfod chwarterol â dylunydd y we i wneud penderfyniadau golygyddol a sicrhau bod y wefan yn parhau i fod yn gyfredol.
5. Nid oedd Allison Parkinson yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod
Bwriadwyd ei gwahodd i gyfarfod NISB dilynol.
6. Jodi Evans – Ymddiriedolaeth Ann Craft – Wedi’i ohirio tan gyfarfod y Bwrdd ym mis Mehefin
7. Chris Frey-davies – i gael gwahoddiad i gyfarfod y Bwrdd ym mis Mehefin
8. Adroddiad Thematig Ymarfer Oedolion (APR)
Mae adroddiad thematig APR wedi cael ei ddosbarthu, ac fe gafwyd presenoldeb da gan Fyrddau a rhanddeiliaid eraill mewn digwyddiad bwrdd crwn a gynhaliwyd ar 28 Ebrill i drafod canfyddiadau APR ac i ystyried y camau nesaf. Mae Byrddau Rhanbarthol wedi dechrau creu cynlluniau i ystyried yr argymhelliad. Gofynnir i reolwyr busnes rannu’r rhain â NISB erbyn diwedd mis Mehefin. Cafodd canfyddiadau’r adroddiad dderbyniad da a’u croesawu gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru. Mae trafodaethau pellach wedi’u cynllunio â’r Comisiynydd Pobl Hŷn a Met Manceinion i fwrw ymlaen âr agenda hon.
9. Cynnydd ac adolygiad o raglen waith NISB
Roedd hyn yn cynnwys y pwyntiau trafod canlynol:
Partneriaeth a Dyletswyddau: Dylai’r rhaglen waith gynnwys esboniad manwl o’r bartneriaeth â Phrifysgol Metropolitan Manceinion (MMU) a’i rôl wrth hyrwyddo cynnydd yn gysylltiedig â’r blaenoriaethau a nodwyd.
Pum Cwestiwn Allweddol: Dylai’r cwestiynau hyn, sy’n ganolog i ddull y bwrdd o ystyried ‘effeithiolrwydd’, gael eu cynnwys mewn lle amlwg yn y cynllun gwaith. Trafododd y tîm bwysigrwydd cyfeirio at y cwestiynau hyn yn yr adran dyletswyddau strategol.
Camau Penodol ar gyfer Cynhwysiant: Gwerthusiad o gynnydd canfyddiadau’r adroddiad thematig CPR – Risg, Ymateb, Adolygu, a gyhoeddwyd ym mis Awst 2023; dosbarthu canfyddiadau’r Adolygiad Thematig CPR a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2025, a rhoi adborth ar y cynllun gweithredu Gweinidogol ar gyfer atal cam-drin pobl hŷn.
Swyddi Ymddiriedaeth: Gofyn am ddata sydd ar gael ar Adran 5 o’r gweithdrefnau ynghylch unigolion mewn swyddi ymddiriedaeth.
Ymgysylltu â Grwpiau Arbenigol: Ymgysylltu’n rheolaidd â grwpiau cyfeirio arbenigol, ymarferwyr ac unigolion.
Strategaeth Gyfathrebu: Adolygu strategaeth gyfathrebu’r Bwrdd Cenedlaethol, gan ganolbwyntio ar ddiweddaru’r wefan a gwella cyfathrebu cyffredinol.
Adolygiad Diogelu: i’w gomisiynu gan Lywodraeth Cymru, a chyfeirio at ymrwymiad y Bwrdd i gyfrannu at y broses hon. Yn y rhaglen waith.
10. Diweddariad Recriwtio NISB
Rhoddodd y Cadeirydd ddiweddariad ar y broses er mwyn recriwtio aelodau bwrdd newydd. Mae cyfweliadau wedi’u trefnu ar gyfer mis Mehefin.
11. Adolygiad Thematig Ymarfer Plant
Pwysleisiodd y Cadeirydd bwysigrwydd sicrhau bod y broses gaffael yn drylwyr ac yn dryloyw wrth gomisiynu’r adolygiad ar gyfer 2025. Roedd y drafodaeth yn cynnwys y pwyntiau allweddol canlynol:
Dylid cynllunio’r broses gaffael i sicrhau bod yr adolygiad yn cael ei gynnal gan dîm cymwys a phrofiadol.
Dylai’r adolygiad ganolbwyntio ar nodi meysydd i’w gwella mewn arferion a pholisïau diogelu.
Mae meysydd o ddiddordeb arbennig yn cynnwys profiad bywyd plant a defnyddwyr gwasanaeth a diogelu wrth bontio.
Cytunwyd i fwrw ymlaen â’r broses gaffael cyn gynted â phosibl fel bo modd rhannu’r hyn a ddysgwyd ym mis Tachwedd yn ystod yr wythnos ddiogelu.
12. Diweddariadau gan y Bwrdd Rhanbarthol a Diweddariadau gan Randdeiliaid – Gwasanaeth Lles Addysg, Arolygiaeth Gofal Cymru, Arolygiaeth Iechyd Cymru, WVCS, Estyn, Swyddfa Archwilio Cymru, Comisiynydd Plant Cymru, Comisiynydd Pobl Hŷn, Diogelu a Phobl Agored i Niwed, Gwrthgaethwasiaeth, Grŵp Cynllunio’r 4 Gwlad.
Nodwyd bod Awdurdod Canolog Cymru wedi rhoi cyflwyniad ynghylch achosion diogelu trawsffiniol/rhyngwladol gerbron cyfarfod o’r Cadeiryddion/LlC ac NISB. Roedd y cyflwyniad yn trafod rôl Awdurdod Canolog Cymru wrth hwyluso rhannu gwybodaeth a chydweithredu o dan Gonfensiwn yr Hag 1996.
Rhannodd aelodau’r bwrdd fewnwelediadau o sesiwn y Pum Gwlad a’r Byrddau a oedd wedi bod yn bresennol.
Rhannwyd cyfarfod ag AGC a thrafodaeth ar JICPA â’r Bwrdd. Roedd NISB yn bresennol yng Ngrŵp Cyflawni Diogelu’r GIG sydd newydd ei sefydlu dan gadeiryddiaeth y Dirprwy Brif Nyrs.
13. Unrhyw Fater Arall – Dim
Y Cyfarfod Nesaf:
• Mae’r cyfarfod nesaf wedi’i drefnu ar gyfer dydd Mercher, 11 Mehefin.