Diogelu, codi llais a hybu gwytnwch

Page Icon

Sawl un ohonom sydd wedi bod i gyfarfodydd gan adael heb ein hysbrydoli ac yn meddwl tybed a oedd unrhyw ddiben i’r awr neu ddwy ddiwethaf? Y rhan fwyaf ohonom, dybiwn i. Roedd heddiw’n wahanol. Roedd heddiw’n bleser pur gan i mi ddod allan o gyfarfod yn teimlo’n gadarnhaol wedi dysgu tipyn ac yn meddwl tybed beth mwy y gallwn i ei wneud i gefnogi criw o bobl mor arbennig.

Pobl ifanc oedd y bobl dan sylw: aelodau’r Byrddau Diogelu Iau sy’n gweithredu yn ardal Bwrdd Diogelu’r Canolbarth a’r Gorllewin yng Ngheredigion, Sir Gâr, Sir Benfro a Phowys. Roeddent wedi dod ynghyd i rannu â’i gilydd y wybodaeth ddiweddaraf am eu gwaith, trafod beth yr oeddent am ei wneud nesaf ac ystyried sut y gallent weithio’n effeithiol gyda’r bwrdd i oedolion.

Roedd rhai o’r materion yr oeddent yn eu hystyried yn cynnwys diogelu ym maes addysg, bwlio, cydberthnasau iach, datblygu’r cwricwlwm, technoleg ddigidol a chadw’n ddiogel ar-lein, ymhlith pethau eraill. Roeddent yn cyfrannu sylwadau treiddgar a chlir ac atebion cadarnhaol i’w trafod a chytuno arnynt. Roeddent yn llawn egni a brwdfrydedd, ac yn ystyried materion anodd a sensitif mewn modd aeddfed.

Cawsom dipyn o drafodaeth ynghylch Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, rôl y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol a’r ffaith bod lleisio barn ac eirioli ar ran y sawl nad oeddent yn gallu neu nad oeddent yn dymuno codi llais yn gyfrifoldeb mawr.

Rywsut dechreuom drafod hybu gwytnwch ymysg plant a phobl ifanc. “Nid yw’n dderbyniol gwrando ar rywun sydd wedi’u brifo a gwneud dim. Rhaid i godi llais olygu gwrando a gwneud rhywbeth i wella pethau,” meddai un cyfrannwr. Cytunodd un arall. “Yn union. Chi’n gwybod pan fydd oedolion yn sôn am wytnwch? Nid gwrando a gobeithio y gall y plentyn ymdopi ar ei ben ei hun yw ystyr hynny. Mae’n golygu ymateb a gwneud rhywbeth er mwyn sicrhau bod y plentyn yn teimlo’n well wedyn. Beth yw’r pwynt, fel arall?”

Nododd y grŵp enghreifftiau lu o oedolion mewn rôl broffesiynol yn gwrando ond yn gwneud dim. Pan na fydd unrhyw ymateb yn dod, neu’n waeth byth pan fydd addewid yn cael ei wneud ond dim byd yn digwydd wedyn. “Fel hyn y mae hi wedyn – bydd y person ifanc yn datblygu gwytnwch yn sicr, drwy beidio â rhannu ei deimladau na siarad am y gamdriniaeth y mae’n ei dioddef, oherwydd ei fod wedi dysgu nad oes diben codi llais”.

Mae’r bobl ifanc hyn yn wych, a bwriad eu rhaglenni gwaith fel Byrddau Diogelu Iau yw rhoi eu blaenoriaethau ar waith: bod yn eiriolwyr dros faterion sy’n effeithio ar bobl ifanc, helpu plant a phobl ifanc i daclo’r problemau a’r materion sy’n gyffredin iddynt, gweithio gyda’r Bwrdd Diogelu i Oedolion, a gwella cyfleoedd bywyd y plant a’r bobl ifanc yn eu hardal.

Dyma enghraifft o waith diogelu ar ei fwyaf blaengar. Mae’r bobl ifanc hyn yn bartneriaid cyfartal yn ein hymateb o ran diogelu, a’r her i’r byrddau diogelu rhanbarthol i oedolion, a’r bwrdd cenedlaethol yn wir, yw gwrando ar eu her ac ymateb yn briodol iddi.

 

Keith Towler

Is-gadeirydd, Y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol