Yn ôl ymchwil gan Estyn yn 2021, dywedodd 50% o’r 1,300 o bobl ifanc a gafodd eu cyfweld ganddynt mewn ysgolion ledled Cymru eu bod wedi profi rhyw fath o aflonyddu rhywiol gan gyfoedion, gyda nifer o’r digwyddiadau hyn wedi digwydd ar-lein.
Mae modiwl hyfforddi ar-lein newydd, wedi’i anelu at ymarferwyr addysg uwchradd, bellach ar gael drwy ein hardal hyfforddi ‘Cadw’n ddiogel ar-lein’ ar Hwb. Mae’r hyfforddiant yn rhannu canfyddiadau allweddol o adroddiad Estyn ac yn tynnu sylw at ganllawiau ac adnoddau perthnasol i helpu ymarferwyr addysg i ddeall yn well sut i gefnogi dysgwyr gyda’r mater hwn.