Cynhadledd Genedlaethol Cymru ynghylch Diogelu 2024

Page Icon

Cynhadledd Genedlaethol Cymru ynghylch Diogelu:

Diogelu Oedolion yng Nghymru a Lloegr – Dysgu o Adolygiadau Ymarfer

 

Rydych yn cael eich gwahodd i’r Gynhadledd Ar-lein Genedlaethol ynghylch Diogelu a gynhelir gan y bartneriaeth ‘Llunio Dyfodol Diogelu’

 

Dydd Iau 21 Tachwedd 2024

9.30yb – 12.00yp a 12.30yp – 3yp ar Microsoft Teams

 

Mae’r bartneriaeth ‘Llunio Dyfodol Diogelu’, a gefnogir gan Metropolis ym Mhrifysgol Metropolitan Manceinion, yn falch o gyhoeddi ei chynhadledd ar-lein flynyddol ynghylch diogelu, a fydd yn canolbwyntio ar ddiogelu oedolion ar draws Cymru a Lloegr.

Bydd y canlynol yn rhoi cyflwyniadau:

  • Yr Athro Suzy Braye, Athro Emerita mewn Gwaith Cymdeithasol, Prifysgol Sussex a’r Athro Michael Preston-Shoot, Athro Emeritws mewn Gwaith Cymdeithasol, Prifysgol Swydd Bedford
  • Yr Athro Michelle McManus ac Emma Ball, Prifysgol Metropolitan Manceinion
  • Arolygiaeth Gofal Cymru – Themâu Diogelu Oedolion – safbwynt Arolygiaeth Gofal Cymru

 

Nôd y gynhadledd yw archwilio gwaith dysgu o faes Diogelu Oedolion gan gynnwys Adolygiadau ac Arolygiadau, er mwyn adnabod y materion allweddol, arfer da a heriau, gan ganolbwyntio ar beth sydd angen digwydd nesaf. Bydd y cyflwynwyr yn rhannu canfyddiadau adroddiadau sydd wedi’u cyhoeddi yn ddiweddar, sy’n cynnwys:

  • Ail ddadansoddiad cenedlaethol o Adolygiadau Diogelu Oedolion yn Lloegr: Ebrill 2019 – Mawrth 2023
  • Canfyddiadau cychwynnol y Dadansoddiad Thematig o Adolygiadau Ymarfer Oedolion yng Nghymru 2024, sy’n canolbwyntio ar ffactorau Risg, Ymateb (ymatebion sefydliadol ac amlasiantaethol) ac Adolygu

 

Yna, bydd cyfle i ofyn cwestiynau i’n panel amlasiantaethol. Bydd y panel yn cynnwys uwch-gynrychiolwyr o Gofal Cymdeithasol Cymru, y sector plismona yng Nghymru a’r sector iechyd.

 

Edrychwn ymlaen at gael eich cwmni yn y digwyddiad!

 

https://www.eventbrite.co.uk/e/1044784096357