Ffordd newydd o weithio i leihau’r nifer o blant ac oedolion ifanc sydd â phrofiad o ofal sy’n dod i gysylltiad â’r system cyfiawnder troseddol

Page Icon

Y pecyn cymorth ymarferol I’w ddefnyddio gan weithwyr proffesiynol

Lleihau Troseddoli Plant ac Oedolion Ifanc sydd â Phrofiad o Ofal – Arolwg Gweithwyr Proffesiynol Pecyn Cymorth Ymarferol i Weithwyr Proffesiynol – Pobl Ar Goll

Nod y pecyn cymorth hwn yw troi’r egwyddorion yn  Protocol Cymru gyfan: lleihau troseddoli plant ac oedolion ifanc sydd â phrofiad o ofal  yn ymarfer. Rydym yn gobeithio y bydd yn cael ei ddefnyddio’n helaeth fel adnodd i hyfforddi a chefnogi cydweithwyr aml-asiantaeth sy’n gweithio gyda phlant ac oedolion ifanc gyda phrofiad o ofal.

Comisiynwyd yr elusen genedlaethol Missing People mewn partneriaeth â Llamau a’r ymgynghorydd Claire Sands gan Gonsortiwm Comisiynu Plant Cymru (4Cs) i ddatblygu’r pecyn cymorth hwn.

Fel rhan o’r prosiect hwn, buom yn ymgynghori â dros 65 o blant ac oedolion ifanc sydd â phrofiad o ofal. Mae eu barn wedi siapio’r cynnwys o fewn y Pecyn Cymorth ac rydym yn diolch iddynt am eu barn.

Rhannwch gyda’ch cydweithwyr i godi ymwybyddiaeth o’r adnodd gwerthfawr hwn. Mae’r pecyn cymorth hwn ar gael yn Gymraeg neu Saesneg. Gallwch ddewis eich dewis iaith drwy’r ddewislen i’r dde o’r bar chwilio.