Gyda mwy o bobl hŷn yn defnyddio cyfrifiaduron, tabledi a ffonau clyfar o ganlyniad i’r pandemig Covid-19, mae’n hollbwysig bod pobl hŷn yn cymryd rhai camau syml er mwyn iddyn nhw allu aros yn ddiogel ar-lein.
Dyna neges grŵp gweithredu o sefydliadau sy’n cydweithio i ddiogelu ac amddiffyn pobl hŷn yng Nghymru.
Mae llawer o bobl hŷn ledled Cymru wedi bod yn mynd ar-lein yn ddiweddar – rhai am y tro cyntaf – i gadw mewn cysylltiad ag anwyliaid a chael gafael ar wybodaeth a gwasanaethau hanfodol yn ystod y cyfyngiadau symud.
A gyda rhai camau syml – camau y dylai pob un ohonom fod yn eu cymryd – gan gynnwys defnyddio cyfrineiriau cryf a meddalwedd diogelwch, a sicrhau bod apiau a systemau gweithredu yn cael eu diweddaru, gall pobl hŷn fwynhau holl fanteision bod ar-lein ar yr un pryd â gwarchod eu hunain rhag risgiau diogelwch posibl.
Mae hefyd yn hanfodol bod pobl hŷn yn gwybod sut i adnabod negeseuon e-bost a sgamiau posibl eraill ar-lein i ddiogelu eu hunain rhag troseddwyr rhag dwyn eu harian a’u gwybodaeth bersonol.
Mae’r holl wybodaeth ddefnyddiol sydd ei hangen ar bobl hŷn i ddiogelu eu hunain ar gael gan Get Safe Online, sy’n rhoi cyngor ymarferol ar ddiogelu eich hun a’ch dyfeisiau rhag twyll, dwyn hunaniaeth, firysau a llawer o broblemau eraill mae pobl yn dod ar eu traws ar-lein.
Mae gwefan Get Safe Online – www.getsafeonline.org – yn rhoi amrywiaeth eang o ganllawiau a gwybodaeth hawdd eu deall sy’n ymwneud â diogelwch ar-lein, yn ogystal ag awgrymiadau a’r wybodaeth ddiweddaraf ddefnyddiol am y sgamiau diweddaraf i gadw llygad amdanyn nhw.
Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru: “I lawer o bobl hŷn, mae bod ar-lein yn ystod pandemig Covid-19 wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol, gan ganiatáu iddyn nhw gadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau, dod o hyd i wybodaeth hanfodol a defnyddio gwasanaethau ar-lein.
“Ond mae’n hanfodol bod pobl hŷn – fel pob un ohonom – yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu ein hunain ar-lein, yn enwedig gan ein bod yn gwybod bod effaith troseddau a sgamiau ar-lein yn gallu bod yn ddinistriol. Mae hyn yn arwain yn aml at golli hyder ac amharodrwydd i ddefnyddio technoleg ddigidol eto.
“Felly byddwn yn annog unrhyw berson hŷn, neu aelod o’r teulu neu ffrind a allai fod yn eu cefnogi i fynd ar-lein, i fynd i Get Safe Online i wneud yn siŵr bod ganddyn nhw’r wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw i aros yn ddiogel ar-lein.”
Dywedodd Tony Neate, Prif Swyddog Gweithredol Get Safe Online: “Yn Get Safe Online, rydyn ni’n gwybod bod natur y cyfyngiadau symud a’r cyfyngiadau sy’n cael eu creu gan Covid19 wedi golygu bod pobl o bob oed yn defnyddio’r rhyngrwyd yn fwy nag erioed.
“Mae siopa ar-lein a chadw mewn cysylltiad ag anwyliaid ar-lein wedi bod yn amhrisiadwy, ond mae bod yn ymwybodol o’r mathau o broblemau y gallech eu hwynebu gan dwyllwyr ac unigolion sy’n cam-drin yn bwysig er mwyn eich cadw’n ddiogel, ac er gwaethaf llacio’r cyfyngiadau diweddar.
“Gwnewch yn siŵr eich bod bob amser yn defnyddio cyfrineiriau cryf yn ogystal â meddalwedd diogelwch, a gwnewch yn siŵr bod meddalwedd yn cael ei diweddaru. Dyma bethau defnyddiol y gallwch eu gwneud i ddiogelu eich hun ar-lein tra’n parhau i fwynhau ei fanteision.”