Cynhadledd Flynyddol Plant yng Nghymru 2018
#CIW2018WholeChild
3 Hydref 2018, 10yb – 4yp
Gwesty Mercure Holland House, Caerdydd
Cynhadledd Bord Gron Flynyddol Plant yng Nghymru
Y Plentyn Cyfan: Pwysigrwydd gwneud pethau’n iawn
Mae plant yn gallu dioddef ansicrwydd, adfyd, tlodi a thrawma. Mae’r gallu i ymaddasu’n dda, ymdopi’n well a ffynnu er gwaetha’r heriau hyn yn agwedd hanfodol ar eu bywydau.
Bydd Cynhadledd Bord Gron Flynyddol Plant yng Nghymru yn cynnig cyfleoedd i ystyried ymchwil ac arfer cyfredol sy’n mabwysiadu ymagwedd ‘plentyn cyfan’ at wella cydnerthedd yn ystod plentyndod. Bydd hyn yn cynnwys integreiddio gwasanaethau a rôl hanfodol y trydydd sector.
Cefnogir Cynhadledd Flynyddol Plant yng Nghymru gan NCPHWR
Siaradwyr sydd wedi eu cadarnhau:
Huw Irranca-Davies, AC, ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Blant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru
Deall a defnyddio ymchwil bresennol o Gymru i ddylanwadu ar arfer:
~ Yn Athro Sinead Brophy: Nid yw llesiant ac iechyd meddwl yr un peth a Chanfyddiadau cynnar ymchwil ar drin iechyd meddwl rhieni er mwyn gwella llesiant plant
~ Yn Athro Ann John: Iechyd meddwl ymhlith arddegwyr ac oedolion ifanc – Ydym ni mewn argyfwng?
~ Dr Annie Williams, CASCADE: Cydnerthedd, cryfhau teuluoedd a buddsoddi mewn egwyddorion ymyl gofal
David Egan, Athro Addysg: Iechyd a Llesiant Plant a Chwricwlwm Newydd Ysgolion yng Nghymru
Sesiwn Panel: Bydd aelodau’r panel yn cyfrannu at drafodaeth am y camau blaenoriaethol mae eu hangen i sicrhau cydnerthedd a llesiant Plant a Phobl Ifanc yng Nghymru
~ David Melding AC: Cadeirydd Grŵp Ymgynghorol Gweinidogion dros Wella’r Canlyniadau i Blant
~ Lynne Neagle AC: Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
~ Cynrychiolydd Pobl Ifanc
~ Cyflwyniad gan CVC: I’w gadarnhau
~ Cyflwyniad gan WLGA: I’w gadarnhau
Catriona Williams OBE, Prif Weithredwr, Plant yng Nghymru: Pwysigrwydd gwneud pethau’n iawn yn y cyd-destun presennol
Rocio Cifuentes, Cyfarwyddwr, EYST: Pwysigrwydd cydlyniant cymdeithasol i blant a theuluoedd
Sarah Crawley, Cyfarwyddwr, Barnardos: Enghreifftiau o wasanaethau integredig
Dr David Williams, Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan a chadeirydd Plant yng Nghymru: Cadeirydd y gynhadledd
Cyflwyniadau Poster a Marchnadle
Bydd y gynhadledd yn cynnig cyfleoedd rhagorol i gwrdd ag ymchwilwyr sy’n gweithio yng Nghymru, yn trafod y canfyddiadau diweddaraf ac yn helpu i lywio pynciau’r dyfodol. Yn ystod y cyfnod cinio, gall cynadleddwyr ymweld â’r Marchnadle i glywed ymchwilwyr yn cyflwyno eu posteri mewn cyflwyniadau byw 5-munud.
Yn ogystal, bydd y Marchnadle yn cynnwys arddangoswyr o amrywiaeth eang o sectorau, a fydd yn cynnig gwybodaeth a chyfleoedd rhwydweithio rhagorol i’r cynadleddwyr.
Pwy ddylai fynychu?
Gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant a’u teuluoedd a’r sawl sy’n arwain polisi neu sydd â diddordeb mewn cydnerthedd a llesiant plentyndod. Bydd y gynhadledd yn berthnasol i bob sector sy’n ymwneud â phlant a’u teuluoedd, gan gynnwys y trydydd sector a’r sector statudol.
Cadw Lle
Cost: £105 i aelodau Plant yng Nghymru
Cost: £125 i’r sawl nad ydynt yn aelodau
Cyfleoedd Arddangos
Mae cyfleoedd i arddangos ar gael yn y gynhadledd. Os oes diddordeb gennych mewn arddangos gwaith eich sefydliad chi, anfonwch e-bost at: bookings@childreninwales.org.uk
Cost: £50 i aelodau Plant yng Nghymru
Cost: £75 i’r sawl nad ydynt yn aelodau
**Sylwch fod ffioedd arddangoswyr yn ychwanegol at ffi cynadleddwyr**
Anfonwch hwn ymlaen i gydweithwyr a rhwydweithiau perthnasol