Y Bwrdd Blaenorol

Margaret Flynn yw Cadeirydd y Bwrdd Diogelu. Cyn hyn, roedd hi’n gadeirydd bwrdd diogelu oedolion Sir Gaerhirfryn a hynny am wyth mlynedd ac fe arweiniodd yr adolygiad o Operation Jasmine a ymchwiliodd i esgeulustod o bobl hŷn mewn cartrefi gofal yng Nghymru yn ddiweddar. Yn ôl Margaret, “Ugain mlynedd yn ôl, roedd y maes hwn – diogelu plant a diogelu oedolion – yn wahanol iawn. Roedd yna ambell raglen ddogfen, ambell lyfr gan weithwyr proffesiynol ac, yn achlysurol iawn, hunangofiant a fyddai’n disgrifio’r profiad o dyfu i fyny mewn teulu lle nad oedd modd diogelu plant neu a fyddai’n sôn am fywyd mewn sefydliadau penodol a oedd yn hollol ddinistriol. Rwy’n gobeithio’n fawr y bydd y ddeddfwriaeth newydd yn helpu’r rheiny sy’n ei chael hi’n anodd goresgyn eu hanesion personol yn ogystal â’r rheiny sy’n ceisio eu helpu nhw; y bydd yn ei gwneud hi’n bosib i oroeswyr, a’u perthnasau, pobl sy’n seinio rhybudd ac i weithwyr proffesiynol gryfhau ac ategu’r gofal greddfol sydd gennym dros ein gilydd a sicrhau ein bod yn creu rhywbeth parhaol a fydd o werth i bob un ohonom.”

Keith Towler yw Is-gadeirydd y Bwrdd. Roedd Keith yn Gomisiynydd Plant Cymru rhwng 2008 a 2015. Yn arbenigwr hawliau plant uchel ei barch, mae ganddo fwy na 30 mlynedd o brofiad o waith cymdeithasol, gwaith ieuenctid a maes cyfiawnder. Roedd Keith yn aelod o Fforwm Diogelu Plant Gwladol Llywodraeth Cymru ac yn aelod hefyd o’r panel Adolygu ym maes Cyfiawnder Teuluol. Dywed Keith, “Mae gennym gyfle cyffrous i sicrhau bod pawb yng Nghymru yn teimlo’n fwy diogel a bod y rhai sy’n wynebu risg yn cael y gwasanaethau a’r cymorth sydd eu hangen arnynt i wella ansawdd eu bywydau. Fel aelod o’r Bwrdd Gwladol, dw i am i weithwyr ledled Cymru gymryd agwedd at eu gwaith sy’n seiliedig ar hawliau; gwrando’n weithredol ar blant, pobl ifainc, oedolion a phobl hŷn sy’n wynebu risg a chydnabod y gall cenhadu ar eu rhan helpu gweithwyr proffesiynol ac eraill i sicrhau canlyniadau cadarnhaol. Mae’r Ddeddf yn gosod her i ni i gyd – ond does dim sydd wir yn werth ei wneud yn hawdd!”


Mae Simon Burch yn gyn-Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ac yn gadeirydd Bwrdd Diogelu Plant Rhanbarthol. Yn hynny o beth, mae ganddo brofiad diweddar o sefydliadau a’r gwaith ymarferol o gefnogi pobl sydd yn wynebu risg o gam-drin neu niwed. Mae gan Simon ddiddordeb arbennig mewn cam-drin domestig a thrais yn erbyn menywod a’r modd y datblygir perthnasoedd llawnion a diogel. Dywed Simon: “I mi, mae diogelu yn golygu dau beth cysylltiedig: adeiladu cymunedau cydlynol, cyfartal a chyd-gefnogol lle gallwn ni i gyd ffynnu, a pharhau i wella ein systemau diogelu fel bod lleisiau a dyheadau plant ac oedolion sydd mewn perygl yn gyrru gwaith pob un ohonom. Yng Nghymru, mae gennym y bobl, y fframwaith deddfwriaethol a’r angerdd er mwyn gwneud hynny – os gwrandawn ni ar yr hyn sy’n bwysig i bobl ac ymddiried hefyd yn ein staff i weithio ar y cyd â nhw.” 


Mae Ruth Henke QC yn arbenigwr ar y gyfraith sy’n ymwneud ag oedolion a phlant ac mae hi wedi gweithredu ar ran awdurdodau Cymreig lleol, byrddau iechyd, rhieni a pherthnasau, ac ar ran oedolion â diffyg galluedd a phlant. Yn ôl Ruth, “Wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau diogelu, rhaid i ni sicrhau bod y gyfraith yn cael ei pharchu, bod penderfyniadau yn cael eu gwneud ar sail tystiolaeth ac nad ydym yn colli golwg ar y pictiwr mwy.”


Mae Jan Pickles OBE yn weithiwr cymdeithasol profiadol ac mae ganddi brofiad o’r trydydd sector, y gwasanaeth prawf, yr heddlu, y llywodraeth a’r NSPCC. Arweiniodd Jan ddatblygiad y gynhadledd asesu risg aml-asiantaethol (MARAC), sy’n ceisio sicrhau diogelwch i ddioddefwyr a phlant sy’n dioddef trais domestig a rhywiol a chamdriniaeth. Mae’r gynhadledd honno bellach yn fodel cenedlaethol. Yn ôl Jan, “Mae diogelu yn ymwneud â phobl, nid prosesau. Oni bai ein bod ni’n cyd-ymdrechu i sicrhau canlyniadau o bwys i blant, pobl ifainc ac oedolion, ni waeth pa mor heriol eu amgylchiadau, nid oes ddiben i brosesau. I mi, mae diogelu yn ymwneud â sicrhau bod gan bobl ddewisiadau, yn arbennig felly yn eu perthnasau – ac mae’n rhaid i’r rheiny fod yn annibynnol ar unrhyw orfodaeth annynol.” 



Mae Rachel Shaw yn nyrs, bydwraig ac ymwelydd iechyd ac mae ganddi brofiad sylweddol o fyd iechyd. Mae hi wedi cyfrannu at adolygiadau o arferion gwaith fel adolygydd ac fel cadeirydd panel hefyd. Dywed Rachel, “Gwelsom o ystyried profiadau pobl a gafodd eu cam-drin bod gormod o fywydau yn cael eu difetha gan ddioddefaint tawel. Mae gallu teimlo’n ddiogel yn un o’n hawliau dynol sylfaenol, ar hyd ein bywydau. Dysgom hefyd bod deall camdriniaeth o safbwynt pobl sydd wedi dioddef yn rhoi cipolwg ar ffyrdd posib o helpu pobl i oresgyn eu profiadau; mae’r bobl yma’n ysbrydoli pob un ohonom i geisio sicrhau nad yw pobl eraill yn dioddef. Mae gennym gyfle i atgyfnerthu a grymuso unigolion, cymunedau a gweithwyr proffesiynol a’u hannog nhw i ymdrechu i wneud dysg o’r fath yn ganolog i bob peth a wnawn.”