Cwrdd â’r Bwrdd

Cadeirydd

Tony Young

Yn gyn Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, daw Tony â gwybodaeth a phrofiad cynhwysfawr i’r Bwrdd o ddefnyddio dull amlasiantaethol ar gyfer materion diogelu, yn ogystal â phrofiad helaeth o arwain.

 

Is-Cadeirydd

Lin Slater

Mae gan Lin brofiad sylweddol o weithio fel arweinydd clinigol yn y GIG. Mae wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth ac wedi ymgymryd â rolau arweiniol yn y gwaith o ddatblygu trefniadau amlasiantaethol ar gyfer ymarfer ym maes diogelu yng Nghymru ac yn Lloegr.

 

Aelodau

Tessa Hodgson

Mae Tessa yn gyfathrebwr hyderus gydag ystod eang o sgiliau a phrofiad o herio a chraffu mewn modd adeiladol. Yn Gynghorydd Sir ac Aelod Cabinet dros Ddiogelu a Gwasanaethau Cymdeithasol, gall wneud cyfraniad helaeth i ddatblygiad strategol y Bwrdd Cenedlaethol.

Carys James

Mae Carys yn gyn-Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol sydd â thros 35 mlynedd o brofiad o weithio ym maes gofal cymdeithasol, ym maes Gwasanaethau Plant a Gwasanaethau Oedolion. Mae ganddi brofiad helaeth o ymwneud â gwaith amlasiantaeth ac mae wedi ymrwymo i waith o’r fath. Cymraeg yw iaith gyntaf Carys, ac ar hyn o bryd mae’n gweithio fel Ymgynghorydd Annibynnol ym maes Gwaith Cymdeithasol.

Des Mannion 

Mae Des Mannion wedi bod yn arwain gwasanaethau i blant a theuluoedd yn y sector statudol a’r sector gwirfoddol. Mae gan Des brofiad o arloesi o ran gwasanaethau, cyflawni gwaith ymchwil, a datblygu polisi i hybu ymarfer effeithiol. Mae hefyd wedi bod yn aelod o nifer o fforymau diogelu amlasiantaeth ar lefel leol a chenedlaethol yng Nghymru.

Artie Meakin

Mae Artie wedi bod yn maethu ac yn mabwysiadu llawer yn y sector awdurdodau lleol ac yn y sector gwirfoddol. Mae wedi bod yn gadeirydd amryw banelau maethu a mabwysiadu yn ne Cymru, gan sicrhau bod unrhyw bryderon am ddiogelu’n cael sylw priodol. At hynny, mae ganddi lawer o brofiad o ymwneud â hyfforddiant sy’n gysylltiedig â Phlant sy’n Derbyn Gofal.

 

Dr Jo Aubrey

Mae Jo wedi bod yn academydd, yn ymgynghorydd ac yn uwch reolwr, ac mae ganddi brofiad o arwain, rheoli a hyfforddi gan weithio gyda phlant a theuluoedd ar lefel lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Mae’r profiad hwn wedi cynnwys cynghori ar ystod o faterion yn ymwneud â datblygu gwasanaethau plant – gan gynnwys strategaethau a pholisïau ar gyfer amddiffyn a diogelu.

Karen Minton

Mae Karen wedi chwarae rhan bwysig yn y Trydydd Sector yng Nghymru yn y maes diogelu. Daw â phrofiad helaeth fel aelod o’r bwrdd diogelu ac fel awdur nifer o adroddiadau ac adolygiadau sy’n adlewyrchu ar ymarfer diogelu.

Jane Randall

Cyfraniad Jane i’r Bwrdd Cenedlaethol fydd hanes o weithio fel arweinydd clinigol profiadol iawn ym maes iechyd, diogelu amlasiantaethol a diogelu’r cyhoedd, ar ôl bod yn Bennaeth Diogelu yn un o fyrddau iechyd Cymru. Mae’n gyfathrebwr medrus ac effeithiol ac mae’n gallu darparu gwybodaeth a chyngor arbenigol a gwneud penderfyniadau ynglŷn â materion cymhleth.

Jan Pickles

Mae Jan yn weithiwr cymdeithasol profiadol ac mae wedi gweithio yn y Gwasanaeth Prawf, yr heddlu, y llywodraeth a’r trydydd sector. Arweiniodd Jan y gwaith o ddatblygu’r gynhadledd amlasiantaeth asesu risg (MARAC) gan leihau’r risg i oedolion a phlant sy’n profi trais a chamdriniaeth domestig a rhywiol. Mae Jan yn aelod o Ymddiriedolaeth y GIG Felindre, Bwrdd Cynghori Diogelu Cyd-destunol a Bwrdd Cynghori’r Ganolfan Arbenigedd Cam-drin Plant yn Rhywiol. Mae gan Jan fusnes cynghori ar ddiogelu sy’n gweithio i awdurdodau lleol, elusennau a’r sector preifat, a gweithiodd yn fwyaf diweddar fel rhan o’r timau adolygu ar gamdriniaeth rywiol hanesyddol mewn pêl-droed ac yn yr eglwys.