Canfyddiadau o ddadansoddiad thematig o Adolygiadau Ymarfer Plant yng Nghymru

Page Icon

Yn dilyn yr adolygiad thematig cyntaf o ystod o adolygiadau achos ym maes diogelu, comisiynodd y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol ail adolygiad, sef un o Adolygiadau Ymarfer Plant. Gwnaethom ofyn i’r ymchwilwyr ddefnyddio tair lens broffesiynol wrth godio’r adolygiadau – lens Cyfreithiwr, lens Ymarferydd Gwaith Cymdeithasol a lens Academydd Gwaith Cymdeithasol – ac yna gwirio eu canfyddiadau gydag ymarferwyr ledled Cymru o bob asiantaeth dan sylw er mwyn gweld a oeddent yn cyd-fynd â chanfyddiadau gweithwyr yn y rheng flaen.

Dyma’r 4 prif thema drawsbynciol:

  1. Mae mwy o bwys yn cael ei roi ar wybodaeth rhai gweithwyr proffesiynol ac aelodau’r teulu. Roedd yr hierarchaeth hon o ran gwybodaeth yn esgor ar safbwynt cul iawn, sy’n golygu bod agweddau penodol yn cael eu llunio sydd yna’n anodd eu herio. Roedd y gwerth a roddir ar farn mamau yn tueddu i fod yn fwy na’r gwerth a roddir ar farn plant a thadau.
  2. Rhannu gwybodaeth oddi mewn i asiantaethau ac ar draws asiantaethau.
  3. Roedd gwaith asesu diffygiol yn gyffredin, ac weithiau byddai ymarferwyr yn gwerthuso pobl fel unigolion yn hytrach nag yn eu cyd-destun domestig/teuluol ehangach.
  4. Weithiau roedd lleisiau’r plant neu safbwynt y plentyn ar goll a/neu nid oeddent bob amser yn elfen ganolog o’r ymarfer.

Gweld argymhellion yr ymchwil – sy’n amrywio o greu storfa o adolygiadau diogelu i gynyddu ein mynediad i’r gwersi sydd i’w dysgu o’r adolygiadau, ac a ddylem ni fel asiantaethau gael goruchwyliaeth amlasiantaethol fel mater o drefn.

Thematic Review of CPR 2019- Welsh

Lawrlwytho fersiwn Microsoft Word