Adroddiad Blynyddol 2019-19

Page Icon

Mae Adroddiad Blynyddol 2018-2019 y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol yn ymdrin â chyfnod o bontio.  Roedd y Bwrdd Cenedlaethol cychwynnol yn weithredol rhwng mis Ebrill 2016 a mis Chwefror 2019, a dechreuodd yr aelodau newydd a benodwyd i’r Bwrdd Cenedlaethol ar eu gwaith ym mis Mai 2019.

Yn yr un modd ag yn ystod blynyddoedd blaenorol, mae’r broses o adrodd ynghylch digonolrwydd ac effeithiolrwydd trefniadau i ddiogelu plant ac oedolion yng Nghymru yn ystod 2018-2019 wedi canolbwyntio’n llwyr ar waith y Byrddau Diogelu Rhanbarthol. Yn y dyfodol mae’r Bwrdd Cenedlaethol yn bwriadu ystyried yn ehangach beth y mae ‘trefniadau’ yn ei olygu, er mwyn cynnwys yr holl gyrff a’r holl asiantaethau sydd â chyfrifoldebau a dyletswyddau yng nghyswllt diogelu.

Mae’r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol wedi gwneud pedwar argymhelliad i Weinidogion Cymru ynghylch sut y gellid gwella trefniadau diogelu. Mae’r argymhellion hynny’n ymwneud â diogelu oedolion sy’n wynebu risg, datblygu trefniadau adrodd sy’n canolbwyntio ar berfformiad yn hytrach na gweithgarwch, a gwella’r hyn a ddysgir yn genedlaethol o adolygiadau diogelu.

 

NISB Annual Report 2018-19 - WELSH (1)

Lawrlwytho fersiwn Microsoft Word