Darllenwch Ganllaw i Ymarferwyr, ac Adroddiad Blynyddol y Bwrdd 2017-18

Page Icon

Mae’r Bwrdd Cenedlaethol yn cyhoeddi dwy ddogfen heddiw. Y ddogfen gyntaf yw “Canllaw i Ymarferwyr: Egwyddorion Cyfreithiol Sylfaenol” gan Ruth Henke CF, Laura Shepherd ac Abla O’Callaghan. Mae’n ganllaw gwerthfawr i’r gyfraith sy’n berthnasol yng Nghymru, ac yn benodol mae’n ganllaw i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a’r modd y mae’n cysylltu â deddfwriaeth sy’n berthnasol i’r gwaith o amddiffyn plant ac oedolion – Deddf Galluedd Meddyliol 2005, Deddf Iechyd Meddwl 1983 (fel y’i diwygiwyd) a Deddf Plant 1989. Mae’r canllaw hefyd yn egluro cyfrifoldebau o ran diogelu data. Mae’n ganllaw clir sy’n dangos sut y mae’r gyfraith yn hybu ymarfer effeithiol. Mae’n ganllaw hanfodol i ymarferwyr a rheolwyr ar draws amryw sectorau, awdurdodau lleol, GIG Cymru, eiriolwyr, cyfreithwyr a myfyrwyr.

Mae “Adroddiad Blynyddol 2017-18” y Bwrdd Cenedlaethol yn cael ei gyhoeddi hefyd. Mae’n nodi diwedd tymor y Bwrdd Cenedlaethol cyntaf. Yn ôl Canllawiau Statudol[1]Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru):

“…diben y cynlluniau blynyddol a’r adroddiadau blynyddol…[yw bod yn]…ffordd ddefnyddiol o sicrhau atebolrwydd[ychwanegwyd pwyslais]…Yn y cyd-destun hwn, mae yna dair elfen i atebolrwydd, sef:-

  • atebolrwydd i’r cyhoedd;[2]
  • atebolrwydd i’r asiantaethau statudol y mae’r partneriaid Bwrdd Diogelu yn perthyn iddynt; ac
  • atebolrwydd i’r cyrff arolygu (paragraff 203).

Mae cyhoeddi yn rhan allweddol o’r gwaith o sicrhau atebolrwydd…” (paragraff 204).

Mae’r Adroddiad Blynyddol yn crynhoi cynnwys adroddiadau’r chwe Bwrdd Rhanbarthol. Mae’n olrhain cynnydd o safbwynt gweithgareddau’r Byrddau Diogelu Rhanbarthol, mae’n cymeradwyo gwaith dysgu ac arweinyddiaeth ar bob lefel, a gyda chymorth Cadeiryddion y Byrddau Rhanbarthol mae’n gosod agenda addawol a gobeithiol i Gymru.

Margaret Flynn  

[1]Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014: Gweithio Gyda’n Gilydd i Ddiogelu Pobl. Cyfrol 1 – Cyflwyniad a Throsolwg

[2]Mae hynny’n cynnwys Gweinidogion. Llywodraethau etholedig yn gwireddu ewyllys y bobl.