Cynhadledd Flynyddol Plant yng Nghymru 2018

Page Icon

Cynhadledd Flynyddol Plant yng Nghymru 2018

#CIW2018WholeChild

 

3 Hydref 2018, 10yb – 4yp

Gwesty Mercure Holland House, Caerdydd

 

Cynhadledd Bord Gron Flynyddol Plant yng Nghymru

Y Plentyn Cyfan: Pwysigrwydd gwneud pethau’n iawn

 

Mae plant yn gallu dioddef ansicrwydd, adfyd, tlodi a thrawma. Mae’r gallu i ymaddasu’n dda, ymdopi’n well a ffynnu er gwaetha’r heriau hyn yn agwedd hanfodol ar eu bywydau.

Bydd Cynhadledd Bord Gron Flynyddol Plant yng Nghymru yn cynnig cyfleoedd i ystyried ymchwil ac arfer cyfredol sy’n mabwysiadu ymagwedd ‘plentyn cyfan’ at wella cydnerthedd yn ystod plentyndod. Bydd hyn yn cynnwys integreiddio gwasanaethau a rôl hanfodol y trydydd sector.

 

Cefnogir Cynhadledd Flynyddol Plant yng Nghymru gan NCPHWR

 

Siaradwyr sydd wedi eu cadarnhau:

Huw Irranca-Davies, AC, ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Blant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru

 

Deall a defnyddio ymchwil bresennol o Gymru i ddylanwadu ar arfer:

~  Yn Athro Sinead Brophy: Nid yw llesiant ac iechyd meddwl yr un peth a Chanfyddiadau cynnar ymchwil ar drin iechyd meddwl rhieni er mwyn gwella llesiant plant

~  Yn Athro Ann John: Iechyd meddwl ymhlith arddegwyr ac oedolion ifanc – Ydym ni mewn argyfwng?

~  Dr Annie Williams, CASCADE: Cydnerthedd, cryfhau teuluoedd a buddsoddi mewn egwyddorion ymyl gofal

 

David Egan, Athro Addysg: Iechyd a Llesiant Plant a Chwricwlwm Newydd Ysgolion yng Nghymru

 

Sesiwn Panel:  Bydd aelodau’r panel yn cyfrannu at drafodaeth am y camau blaenoriaethol mae eu hangen i sicrhau cydnerthedd a llesiant Plant a Phobl Ifanc yng Nghymru

~ David Melding AC: Cadeirydd Grŵp Ymgynghorol Gweinidogion dros Wella’r Canlyniadau i Blant

~  Lynne Neagle AC:  Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

~  Cynrychiolydd Pobl Ifanc

~  Cyflwyniad gan CVC: I’w gadarnhau

~  Cyflwyniad gan WLGA: I’w gadarnhau

 

Catriona Williams OBE, Prif Weithredwr, Plant yng Nghymru: Pwysigrwydd gwneud pethau’n iawn yn y cyd-destun presennol

Rocio Cifuentes, Cyfarwyddwr, EYST: Pwysigrwydd cydlyniant cymdeithasol i blant a theuluoedd

Sarah Crawley, Cyfarwyddwr, Barnardos: Enghreifftiau o wasanaethau integredig

Dr David Williams, Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan a chadeirydd Plant yng Nghymru: Cadeirydd y gynhadledd

Cyflwyniadau Poster a Marchnadle

 

Bydd y gynhadledd yn cynnig cyfleoedd rhagorol i gwrdd ag ymchwilwyr sy’n gweithio yng Nghymru, yn trafod y canfyddiadau diweddaraf ac yn helpu i lywio pynciau’r dyfodol. Yn ystod y cyfnod cinio, gall cynadleddwyr ymweld â’r Marchnadle i glywed ymchwilwyr yn cyflwyno eu posteri mewn cyflwyniadau byw 5-munud.

Yn ogystal, bydd y Marchnadle yn cynnwys arddangoswyr o amrywiaeth eang o sectorau, a fydd yn cynnig gwybodaeth a chyfleoedd rhwydweithio rhagorol i’r cynadleddwyr.

 

Pwy ddylai fynychu?

Gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant a’u teuluoedd a’r sawl sy’n arwain polisi neu sydd â diddordeb mewn cydnerthedd a llesiant plentyndod. Bydd y gynhadledd yn berthnasol i bob sector sy’n ymwneud â phlant a’u teuluoedd, gan gynnwys y trydydd sector a’r sector statudol.

 

Cadw Lle

Cost:      £105 i aelodau Plant yng Nghymru

Cost:      £125 i’r sawl nad ydynt yn aelodau

I gadw’ch lle, cliciwch yma

 

Cyfleoedd Arddangos

Mae cyfleoedd i arddangos ar gael yn y gynhadledd. Os oes diddordeb gennych mewn arddangos gwaith eich sefydliad chi, anfonwch e-bost at: bookings@childreninwales.org.uk

Cost:     £50 i aelodau Plant yng Nghymru

Cost:     £75 i’r sawl nad ydynt yn aelodau

 

**Sylwch fod ffioedd arddangoswyr yn ychwanegol at ffi cynadleddwyr**

 

Anfonwch hwn ymlaen i gydweithwyr a rhwydweithiau perthnasol