Title of Page: Safeguarding News

 

Eleni, bydd yr Wythnos Genedlaethol Diogelu yn cael ei chynnal rhwng 15 ac 19 Tachwedd 2021. Ymgyrch cenedlaethol blynyddol yw’r Wythnos Genedlaethol Diogelu, sy’n canolbwyntio ar ystod eang o faterion diogelu sy’n effeithio ar ein cymunedau yng Nghymru.

Bydd pob un o’r Byrddau Diogelu Rhanbarthol yn cydlynu rhaglen o weithgareddau a digwyddiadau addysgu a chodi ymwybyddiaeth, ar gyfer aelodau’r cyhoedd a gweithwyr proffesiynol.

Bydd pob rhanbarth yn penderfynu ar thema wahanol, sy’n rhoi hyblygrwydd i’r Bwrdd Diogelu hwnnw ac i bartneriaid ac asiantaethau yn y rhanbarth drefnu digwyddiadau a gweithgareddau am faterion diogelu sy’n berthnasol i’r gwasanaethau a ddarperir ganddynt, eu defnyddwyr gwasanaeth a’u profiadau yn ystod y pandemig Covid-19.

Gallwch gael gwybod mwy am thema pob Bwrdd Diogelu a gweld rhestr o’r digwyddiadau a’r gweithgareddau a gynhelir yn yr amryw ranbarthau yma.

#DiogeluCymru

 

Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol Cymru

I nodi Wythnos Genedlaethol Diogelu 2021, mae’n bleser gan y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol mewn partneriaeth â’r Uned Atal Trais gyhoeddi y bydd cynhadledd ar-lein yn cael ei chynnal: Diogelu Oedolion.

Dydd Mercher 17 Tachwedd 2021, 10:00 – 16.00

Bydd y weminar yn cael ei chynnal ar Microsoft Teams.

Gallwch weld yr agenda a darllen am y siaradwyr yma:

Cofrestrwch yma

Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei recordio, a bydd ar gael i’w wylio yn nes ymlaen. Bydd rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut i wylio’r recordiad yn cael ei darparu ar ôl y digwyddiad.

 

 

Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru

Yn ystod yr Wythnos Ddiogelu, bydd Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru yn dathlu arfer da yn y rhanbarth ac yn dysgu o Adolygiadau Ymarfer Oedolion a Phlant. Bydd y Bwrdd yn ystyried nifer o feysydd ymarfer:

  • Diogelu mewn ysgolion
  • Y Ddeddf Galluedd Meddyliol
  • Cael tadau i ymwneud ag amddiffyn plant
  • Beth y gall gofalwyr maeth ei ddysgu o adolygiadau ymarfer

Bydd Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru hefyd yn gweithredu ar sail datblygiadau cenedlaethol drwy roi cyflwyniadau ar gam-drin domestig / rhoi diwedd ar gosbi corfforol.

Mae rhagor o wybodaeth am bob un o’r digwyddiadau i’w chael yma.

 

 

 

Bwrdd Diogelu Gwent

Mae Bwrdd Diogelu Gwent wedi dewis y thema ‘Gwersi a ddysgwyd’ ar gyfer Wythnos Genedlaethol Diogelu 2021. Mae ymchwil yn dangos bod diwylliant o ddysgu fel mater o drefn yn hollbwysig er mwyn gwella canlyniadau i’r bobl y mae’r Bwrdd yn gweithio gyda nhw. Mae’r Bwrdd wedi dewis y thema hon oherwydd ei fod yn credu y bydd, drwy fabwysiadu ethos o ddysgu’n barhaus fel sefydliad ac fel unigolion, yn helpu i feithrin diwylliant lle caiff arferion a phrosesau diogelu eu hadolygu a’u gwella’n rheolaidd, gan sicrhau felly bod Gwent yn ymrwymo i ddarparu gwasanaethau diogel, effeithiol a thosturiol i’w dinasyddion.

Mae rhagor o wybodaeth am bob un o’r digwyddiadau i’w chael yma:

 

 

Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg

Thema Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg ar gyfer Wythnos Ddiogelu 2021 yw ‘Diogelu ein cymunedau’.

Bydd yn cynnwys rhaglen o ddigwyddiadau a fydd yn ystyried ystod o faterion diogelu sy’n effeithio ar blant, pobl ifanc ac oedolion yn Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr. Mae’r materion dan sylw’n cynnwys cam-drin domestig, iechyd meddwl, atal hunanladdiad, cam-drin plant yn rhywiol a chamfanteisio ar bobl.

Mae’r thema hon yn sicrhau bod gan y Bwrdd Diogelu, ei bartneriaid ac asiantaethau yn y rhanbarth yr hyblygrwydd i drefnu digwyddiadau a gweithgareddau am faterion diogelu sy’n berthnasol i’r gwasanaethau a ddarperir ganddynt, eu defnyddwyr gwasanaeth a’u profiadau yn ystod y pandemig Covid-19.

Mae rhagor o wybodaeth am bob un o’r digwyddiadau i’w chael yma.

 

Bwrdd Diogelu Rhanbarthol Caerdydd a Bro Morgannwg

Thema Bwrdd Diogelu Rhanbarthol Caerdydd a Bro Morgannwg ar gyfer yr Wythnos Genedlaethol Diogelu eleni yw ‘Iechyd meddwl a’r boblogaeth’.

Bydd y thema’n canolbwyntio ar heriau ac effaith barhaus y pandemig Covid-19, sydd wedi arwain at gynnydd dramatig a sylweddol mewn problemau iechyd meddwl yn y boblogaeth. Mae’r mesurau a’r cyfyngiadau angenrheidiol a gyflwynwyd ar ddechrau’r pandemig wedi cyfrannu at yr effeithiau negyddol ar iechyd a lles meddyliol, ac wedi amlygu cysylltiadau ag arwahanrwydd cymdeithasol, iselder, gorbryder, cam-drin domestig, meddwl am hunanladdiad, camddefnyddio sylweddau, ac ati.

Bydd yr Wythnos Genedlaethol Diogelu eleni yn ystyried effeithiau’r pandemig ar iechyd meddwl y boblogaeth, a bydd yn sicrhau bod trefniadau cyfeirio hanfodol ar waith er mwyn i unigolion gael yr help a’r cymorth sy’n ofynnol. Yn rhan o ddigwyddiadau’r wythnos, bydd cyfle hefyd i fyfyrio ynghylch ‘sut olwg sydd ar bethau flwyddyn yn ddiweddarach’.

Oherwydd yr ansicrwydd a’r cyfyngiadau sy’n parhau yn sgil Covid-19, bydd y rhan fwyaf o’r digwyddiadau eleni yn ddigwyddiadau rhithwir. Mae trefniadau wedi’u gwneud hefyd i sicrhau bod gwaith codi ymwybyddiaeth a negeseuon allweddol am ddiogelu’n cyrraedd y bobl fwyaf agored i niwed yn y gymuned.

Mae rhagor o wybodaeth am bob un o’r digwyddiadau i’w chael yma.

 

 

Bwrdd Diogelu Gorllewin Morgannwg

Thema Bwrdd Diogelu Gorllewin Morgannwg ar gyfer Wythnos Ddiogelu 2021 yw ‘Diogelu cymunedol: ad-drefnu, adnewyddu, adfer.

Bydd yn cynnwys rhaglen o ddigwyddiadau a fydd yn ystyried ystod o faterion diogelu cymunedol, megis llinellau cyffuriau, camfanteisio ar bobl a cham-drin domestig, i enwi dim ond rhai.

Mae rhagor o wybodaeth am bob un o’r digwyddiadau i’w chael yma.

 

 

Bwrdd Diogelu Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru

Thema Bwrdd Diogelu Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru eleni yw ‘Ymarfer diogelu yn ystod pandemig’.

Mae diogelu plant ac oedolion a allai fod yn wynebu risg o niwed yn waith heriol a chymhleth i’r gweithwyr proffesiynol, y teuluoedd a’r gofalwyr hynny sy’n cydweithio â’i gilydd i sicrhau bod y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau’n cael eu hamddiffyn a’u cadw yn ddiogel. Arweiniodd effaith y pandemig Covid-19, a’r cyfnod clo cenedlaethol a ddaeth yn ei sgil, at heriau i unigolion a’r sawl sy’n darparu cymorth a gwasanaethau i’r bobl sy’n wynebu’r risg a’r angen mwyaf, na welwyd mo’u tebyg o’r blaen yn ystod ein hoes ni nac mewn cenhedlaeth. Yn ystod Wythnos Genedlaethol Diogelu 2021, bydd Bwrdd Diogelu Canolbarth a Gorllewin Cymru yn archwilio themâu sydd wedi bod yn arbennig o berthnasol yn y rhanbarth drwy gydol y pandemig. Drwy gyfres o seminarau a gweithdai ar-lein a gwaith hyrwyddo ar gyfryngau cymdeithasol, bydd y Bwrdd yn tynnu sylw at heriau a llwyddiannau trefniadau gweithio amlasiantaethol a gweithio mewn partneriaeth a bydd yn archwilio nifer o themâu a fydd yn cynnwys cam-drin domestig, camfanteisio ar bobl, hunanladdiad, hunan-niweidio a hunanesgeuluso.

Mae rhagor o wybodaeth am bob un o’r digwyddiadau i’w chael yma.

 

 

Llywodraeth Cymru

Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal cynhadledd a digwyddiad dysgu digidol o bell yn y prynhawn ar 18 Tachwedd fel rhan o Wythnos Ddiogelu Genedlaethol 2021.

Yr Hawl i fod yn Ddiogel – atal ac ymateb i gam-drin plant yn rhywiol a cham-fanteisio rhywiol ar blant yng Nghymru

18 Tachwedd 2021, 12.30-16.05

Bydd y gynhadledd yn cynnwys cyflwyniadau gan:

  • Julie Morgan, Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol
  • May Baxter-Thornton ac Emma Lewis Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol Panel Ymgynghorol Dioddefwyr a Goroeswyr (PYDG)
  • Adam Richard Kaps, Gweithiwr Ieuenctid a Goroeswr
  • Anna Glinski, Dirprwy Gyfarwyddwr (Gwybodaeth a Datblygu Arferion) y Ganolfan Arbenigedd ar gam-drin plant yn rhywiol
  • Karen Bamford, Swyddog Diogelu ac Adolygu Annibynnol, Tîm Diogelu
  • Deborah Job, Rheolwr Adran, Cymorth i Deuluoedd De a Dwyrain Conwy, Canolfan Deulu
  • Dr Sophie Hallett, Prifysgol Caerdydd
  • Sharron Wareham, Dyfodol Gwell, Rheolwr Gwasanaethau, Barnardo’s Cymru
  • Claire Short , Stop it Now Cymru, Rheolwr Cenedlaethol Cymru
  • Tessa Hodgson, Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol
  • Albert Heaney, Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol Cymru

Dilynwch y ddolen i gofrestru ar gyfer y digwyddiad – dyddiad cau i gofrestru 28 Hydref.

www.smartsurvey.co.uk/18 Tachwedd/18 November  

Hysbysiad Preifatrwydd