Adroddiad Blynyddol 2019-20

Page Icon

Mae’n bleser gan Fwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol Cymru gyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2019-2020. Dyma ein hadroddiad cyntaf ynghylch blwyddyn lawn, ac mae’n ymdrin â chyfnod a oedd cyn y cyfnod clo cenedlaethol a gyflwynwyd o ganlyniad i’r pandemig byd-eang sydd wedi’i achosi gan Covid-19. Fodd bynnag, mae’n cael ei gyhoeddi ar adeg pan fo’r pandemig wedi effeithio ar bob agwedd ar ddiogelu yng Nghymru, ac yn fuan ar ôl diwedd yr ail gyfnod clo cenedlaethol yn 2020. Mae’n anochel mai’r pandemig, a’i effaith ar effeithiolrwydd trefniadau diogelu yng Nghymru, fydd yn cael y lle blaenaf yn adroddiad blynyddol y flwyddyn nesaf. Cyn canolbwyntio ar bopeth sydd wedi’i gyflawni ym maes diogelu yn ystod 2019-2020, hoffai’r Bwrdd Cenedlaethol achub ar y cyfle hwn i gydnabod ymateb rhyfeddol yr asiantaethau a’r partneriaid sy’n gweithio ym maes diogelu, a diolch i’r gweithlu sydd wedi mynd i’r afael mewn modd mor broffesiynol â’r heriau y maent wedi’u hwynebu yn y ‘byd newydd’ hwn.

Mae’r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol wedi gwneud pump o argymhellion i Weinidogion Cymru ynghylch sut y gellid gwella trefniadau diogelu. Gallwch ddarllen yr argymhellion a’r adroddiad llawn yma:

 

NISB Annual Report 2019-20 - Welsh

 

Lawrlwytho fersiwn PDF

Lawrlwytho fersiwn Microsoft Word